HafanAmdanom niDWP a'n partneriaid

DWP a'n partneriaid

Mae DWP - yr Adran Gwaith a Phensiynau (yr Adran) yn bodoli i gyflawni agenda'r Llywodraeth i ddiwygio lles. Mae'r CSA - yr Asiantaeth Cynnal Plant (yr Asiantaeth) yn cyfrannu at amcan yr Adran i sicrhau bod pob plentyn yn cael y cychwyn gorau mewn bywyd a chael gwared ar dlodi ymhlith plant erbyn 2020. Mae'r Asiantaeth yn bodoli i sicrhau, lle bo cais am gynhaliaeth wedi'i wneud, y bydd rhieni sy'n byw ar wahân i'w plant yn cyfrannu'n ariannol at eu cadw.

Mwy am DWP

Gwybodaeth gyffredinol

DWP  

Yn gysylltiedig â gwaith

Canolfan Byd Gwaith   Help i chwilio am waith a gwybodaeth am fudd-daliadau ar gyfer pobl sydd mewn oed gweithio, mae'r wefan yn cynnwys cyfle i chwilio am waith, gyda gwybodaeth am dros 400,000 o swyddi gwag.

Y Fargen Newydd   Mae'n rhoi'r help a'r gefnogaeth sydd ei hangen ar bobl sy'n hawlio budd-daliadau i chwilio am waith, dod o hyd i gyfleon hyfforddi a darparu ar gyfer mynd yn ôl i'r gwaith, gan gynnwys gwybodaeth am Y Fargen Newydd i Rieni Unigol.

Pobl anabl a gofalwyr

DWP (adran pobl anabl a gofalwyr)   Am wybodaeth am y gwahanol fudd-daliadau a gwasanaethau sydd ar gael i bobl sy'n sâl neu sydd ag anabledd.

Gwefannau eraill DWP

Y Gwasanaeth Pensiwn   Mae'n rhoi gwybodaeth diduedd gan Lywodraeth y DU am bensiynau gwladol a phreifat, os ydych wedi ymddeol yn barod, yn nesáu at ymddeol neu'n cynllunio ar gyfer eich ymddeoliad. Mae'n cynnwys canllaw ymarferol ar y gefnogaeth sydd ar gael gan y llywodraeth i bobl sydd wedi ymddeol (Canllaw Pensiynwyr).

Dros 50   Canllaw ymarferol ar y cyngor, cefnogaeth a gwasanaethau sydd ar gael gan y Llywodraeth a'r sector gwirfoddol i bobl sy'n 50 oed a throsodd.

Age Positive   Gwybodaeth am ymgyrch Age Positive y llywodraeth sy'n gadarn o blaid oedran ac yn ceisio taclo achosion o wahaniaethau ar sail oedran yn y gweithle.

Targedu lladron budd-dal   Gwybodaeth am yr ymgyrch Targedu lladron budd-dal a gweithgareddau eraill y DWP yn erbyn lladrad a thwyll budd-daliadau. Gallwch hefyd roi gwybod i ni am bobl y credwch sy'n ein twyllo i gael budd-daliadau.