HafanAmdanomEin pwerau › Y camau y gallwn eu cymryd

Y camau y gallwn eu cymryd

Rydym bellach yn fwy llym gyda rhieni sy'n osgoi eu cyfrifoldebau ariannol tuag at eu plant. Os bydd rhieni yn methu â thalu eu cynhaliaeth plant, byddwn yn cymryd camau i adennill yr arian sy'n ddyledus ganddynt.

Gallwn ddefnyddio amryw o bwerau i gael rhieni i dalu. Gallwn gymryd arian yn uniongyrchol o'u cyflog, neu o'u cyfrifon banc neu gyfrifon cymdeithas adeiladu. Gallwn hefyd ddefnyddio'r llysoedd i adennill yr arian sy'n ddyledus ganddynt, ac mae hyn yn cynnwys:

  • atafaelu eiddo rhieni dibreswyl a'i werthu
  • rhewi arian y rhiant dibreswyl neu arian sy'n ddyledus i'r rhiant dibreswyl
  • cofrestru'r ddyled er mwyn effeithio ar y trosglwyddiad neu werthiant o eiddo neu asedau
  • gorfodi gwerthiant eiddo sy'n berchen i'r rhiant dibreswyl
  • atafael eu trwydded gyrru neu eu rhwystro rhag cael un am hyd at ddwy flynedd
  • eu hanfon i'r carchar.

Cymryd arian o gyflog rhieni

Os yw'r rhiant dibreswyl yn gweithio i gyflogwr neu'n cael pensiwn galwedigaethol, gallwn gymryd arian yn uniongyrchol allan o'u henillion drwy 'orchymyn didynnu o enillion'. Dyma un o'r prif ddulliau talu y gall rhieni dibreswyl cyflogedig ei ddewis. Os nad ydynt wedi dewis talu fel hyn, fel arfer dyma'r cam cyntaf a gymerwn os bydd rhiant dibreswyl cyflogedig yn methu taliadau ac na allant roi rheswm da pam, neu os byddant yn methu â chytuno ar ddull talu gyda ni.

Bob awr rydym yn anfon 25 gorchymyn newydd yn gofyn i gyflogwyr gymryd arian o gyflogau.

Ar gyfer achosion newydd, anelwn at wneud hyn o fewn pedwar mis o bryd dywedwyd yn gyntaf wrth y rhiant dibreswyl faint y dylent ei dalu. Yn ôl y gyfraith, mae'n ofynnol i gyflogwyr gymryd cynhaliaeth o gyflogau rhieni dibreswyl os byddwn yn dweud wrthynt wneud hynny.

Os yw'r rhiant yn cael budd-daliadau, pensiwn neu Bensiwn Rhyfel, byddwn yn cymryd yr arian yn uniongyrchol o'u budd-dal neu bensiwn. Os ydynt yn aelod o Luoedd Arfog EM a'u bod wedi methu â gwneud eu taliadau, byddwn yn anfon cais at y Weinyddiaeth Amddiffyn i ofyn am yr arian sy'n ddyledus.

Os yw'r rhiant yn hunangyflogedig gallwn gymryd camau drwy'r llysoedd i wneud iddynt dalu.

Bob diwrnod caiff achosion 35 o rieni sydd ddim yn talu eu cyfeirio ymlaen i'r llysoedd.

Cymryd camau drwy'r llysoedd

Os na allwn gymryd arian o gyflog y rhiant dibreswyl byddwn yn gwneud cais i'r llysoedd am orchymyn atebolrwydd ar gyfer y gynhaliaeth plant a fethwyd. Yna byddwn yn cymryd camau cyfreithiol i gael yr arian sy'n ddyledus.

Ym Mhrydain Fawr, rhoddwyd 13,335 o orchmynion atebolrwydd rhwng Chwefror 2006 ac Ionawr 2007, sef cynnydd o 25.7% ar y flwyddyn flaenorol.

Bydd y camau cyfreithiol a gymerwn wedyn yn dibynnu os yw'r rhiant yn byw yng Nghymru a Lloegr neu yn Yr Alban.

Mewn rhai amgylchiadau arbennig efallai y gallwn hefyd weithredu ar yr achos os yw'r rhiant yn byw dramor. Os na allwn gymryd camau ein hunain, gallwn gynghori'r rhiant â gofal am bwy y dylent gysylltu â nhw am hyn.

Gwybodaeth berthnasol