Twyll y tswnami
Photo caption: Lorem ipsum dolor sit amet, consectetuer adipiscing elit.
Yn ôl ym mis Rhagfyr 2004 tarodd trychineb y tswnami gan effeithio ar filoedd o deuluoedd.
Er hynny, penderfynodd un rhiant ddefnyddio'r cyfle i osgoi ei gyfrifoldebau cynhaliaeth plant drwy gael ei bartner newydd i ddweud wrth y CSA ei fod wedi marw yn y trychineb. Ymchwiliodd y CSA yr achos a darganfod ei fod yn fyw ac iach ac yn gweithio. Anfonwyd Gorchymyn Didynnu o Enillion (DEO) sy'n gofyn i gyflogwr gymryd y taliadau cynhaliaeth plant o enillion rhiant dibreswyl yn ogystal â swm ychwanegol os oes unrhyw ôl-ddyledion. Ar ôl anfon DEO, gadawodd y rhiant dibreswyl ei waith ac nid oedd y CSA yn gallu ei olrhain ymhellach.
O ganlyniad i waith y CSA gydag asiantaethau olrhain arbenigol, bydd yn anoddach i rieni dibreswyl sy'n gwrthod talu 'ddiflannu'.

