Siarad o brofiad?
Un o'r camau y gallwn eu cymryd drwy'r llys yw cofnodi dyledion cynhaliaeth plant rhieni sydd ddim yn talu ar y Gofrestr Dyfarniadau, Gorchmynion a Dirwyon. Mae'r gofrestr yma wedi disodli'r Gofrestr Dyfarniadau Llys Sirol (CCJs) ers 2006. Gall cael eich enw ar y Gofrestr effeithio ar eich hawl i gael credyd. Gall hefyd gael effaith ar fod yn aelod o rai mudiadau proffesiynol, fel y sylweddolodd y rhiant dibreswyl yma . . .
Roedd dyn o Sir Gaer i fod yn talu am ei blant am chwe blynedd. Ond, defnyddiodd sawl dull osgoi er mwyn rhwystro ein gwaith a pheidio â chwrdd â'i gyfrifoldebau ariannol tuag at ei blant.
Roedd yn gyfarwyddwr cwmni cofrestredig ac yn defnyddio ei statws hunangyflogedig er mwyn osgoi talu cynhaliaeth plant o'i gyflog.
Dywedwyd wrtho ein bod am ofyn i feilïaid i adennill a gwerthu ei eiddo a chofrestru ei ddyled ar y Gofrestr Dyfarniadau, Gorchmynion a Dirwyon. O ganlyniad i hyn, cytunodd i dalu £12,459 mewn un taliad i'w blant. Mae bellach yn cadw at ei daliadau cynhaliaeth plant rheolaidd.
Gan ei fod yn gynghorydd ariannol cofrestredig, byddai cofnod yn ei erbyn ar y Gofrestr wedi gallu cael effaith difrifol ar ei yrfa ac ar ei allu i ymaelodi â mudiadau proffesiynol yn y dyfodol.

