Gwaed yn dewach na dŵr
Photo caption: Lorem ipsum dolor sit amet, consectetuer adipiscing elit.
Darllenwch am sut gwnaeth perthynas i un rhiant eu helpu rhag gorfod cymryd cyfrifoldeb am eu plentyn...
Mae pawb yn dibynnu ar eu teulu am gymorth o dro i dro, ond mewn un achos, aeth hyn gam ymhellach, gyda pherthynas i riant dibreswyl yn chwarae rhan cyflogwr oedd yn cyd-dwyllo gyda'r rhiant dibreswyl. Pan gysylltodd y CSA â'r cyflogwr, parhaodd i wadu'n bendant bod y rhiant dibreswyl yn gweithio iddo. Ond, yn dilyn archwiliad pellach gan y CSA, gan gynnwys cyfweliadau wyneb yn wyneb, anfonwyd Gorchymyn Didynnu o Enillion i sicrhau'r taliad cyntaf. Byth ers hynny, caiff taliadau eu gwneud yn rheolaidd.
Rydym yn ymddwyn yn fwy llym tuag at rieni sy'n osgoi eu cyfrifoldebau ariannol ac rydym wedi cynyddu ein defnydd o Orchmynion Didynnu o Enillion. Pob blwyddyn, gorchmynnir i dros 72, 000 o gyflogwyr gymryd arian yn uniongyrchol o gyflogau rhieni dibreswyl sy'n gwrthod talu. Os bydd cyflogwr yn gwrthod gwneud hyn gallant gael eu cosbi a'u herlyn

