Astudiaeth achos 3

Mwya'n byd, gorau'n byd?


Weithiau, gall trefnu cytundeb am daliadau cynhaliaeth plant fod yn gymharol syml pan mai dim ond un cwpl ac un plentyn sydd dan sylw.

Ond, dychmygwch mor ddyrys yw'r sefyllfa pan fo sawl rhiant â gofal a phlant ynghlwm â'i gilydd mewn sawl achos. Mewn un achos, mae gan riant â gofal chwech o blant. Mae ganddi bum achos gyda'r CSA fel rhiant â gofal, ond yn y chweched achos, hi yw'r rhiant dibreswyl, gan fod un o ddau o blant a gafodd gydag un partner yn byw gyda hi, ond mae'r plentyn arall yn byw gyda'r tad. Mae gan y pedwar plentyn arall dadau gwahanol felly mae pedwar rhiant dibreswyl arall.

Cymhlethir y sefyllfa fwy byth pan ystyriwch fod gan y rhieni dibreswyl hynny blant eraill y mae ganddynt achosion CSA ar eu cyfer. Yn gyfan gwbl mae 14 achos yn cysylltu'r grŵp hwn o bobl gyda'i gilydd - sy'n creu cadwyn gymhleth iawn o achosion sydd angen cryn amser a sylw gennym ni.

Rydym yn symud dros 1300 o'n pobl i weithio yn uniongyrchol ar achosion ein cleientiaid. Rydym hefyd yn symud ein gweithwyr achos mwyaf profiadol i weithio mewn swyddi ble maent yn canolbwyntio ar ddatrys yr achosion mwyaf cymhleth. Mae hyn yn hanfodol er mwyn cwrdd ag anghenion y cleientiaid hynny sydd ag amgylchiadau sydd angen sylw arbennig.