Astudiaeth achos pedwar

Dim ffordd allan


Sut y gwnaethom ddefnyddio gwybodaeth gan y DVLA i ddod o hyd i riant yn Lerpwl.

mae rhai rhieni dibreswyl nad ydynt byth yn blino ar geisio ein hosgoi. Er enghraifft mae gennym un rhiant dibreswyl yn Lerpwl rydym wedi bod yn ceisio ei olrhain ers 2003.

Dros y blynyddoedd rydym wedi anfon sawl llythyr ato, ac maent wedi dod yn ôl gyda nodyn arnynt yn dweud nad yw'r person yn byw yn y cyfeiriad hwnnw. Anfonwyd beilďaid i'w weld ond yn ofer – honnodd y rhiant dibreswyl ei fod yn byw gyda'i fam a'i bod hi'n gwerthu'r tŷ er mwyn mynd i fyw mewn cartref gofal. Cafodd help gan weithwyr yn ei fusnes i guddio oddi wrthym ac i osgoi ein galwadau ffôn. Hefyd, methodd ag ymddangos yn y llys.

Drwy ddefnyddio'r pwerau sydd ar gael i ni, llwyddwyd i olrhain y rhiant dibreswyl drwy'r DVLA a wnaeth gadarnhau fod y rhiant dibreswyl a'i fam yn dal yn byw yn y cyfeiriad gwreiddiol. Er bod ei gar wedi'i barcio y tu allan, gwadodd ei fam ei bod yn gwybod ble'r oedd ac ymddangosai nad oedd unrhyw angen cartref gofal arni. Gyda chyfeiriad wedi'i gadarnhau, rydym nawr wedi cyhoeddi gwarant i'w arestio.

Rydym yn cymryd camau cyflymach a mwy llym yn erbyn rhieni sy'n gwrthod talu cynhaliaeth plant. Rydym hefyd yn ymchwilio i filoedd o achosion ble mae rhieni wedi osgoi talu'r hyn sy'n ddyledus ganddynt ar gyfer eu plant ers blynyddoedd.

yn barod, dros y flwyddyn ddiwethaf, bu cynnydd sylweddol yn y nifer o gamau gorfodi a weithredwyd gennym. Er enghraifft, rhwng mis Tachwedd 2005 a mis Hydref 2006 dyfarnwyd dros 13,700 o orchmynion atebolrwydd, cynnydd ar 11,245 ar gyfer mis Ebrill 2005 i fis Mawrth 2006.

(Mae gorchymyn atebolrwydd yn dangos fod y gyfraith yn cydnabod bod dyled i'w thalu ac mae'n rhoi awdurdod y llys i gymryd camau i adennill yr arian sy'n ddyledus.)