pen y daith
Photo caption: Lorem ipsum dolor sit amet, consectetuer adipiscing elit.
Gadawodd un rhiant dibreswyl y wlad yn hytrach nag ymddangos yn y llys, dyma sut y gwnaethom ei ddal
Pan fo'r cylch yn cau amdanynt, byddai'n well gan rhai rhieni dibreswyl symud i gyfandir arall yn hytrach na wynebu eu cyfrifoldebau. Yn 2000, cytunodd rhiant dibreswyl i dalu cynhaliaeth plant ar gyfer ei blentyn. Ond, dechreuodd fethu taliadau ac er gwaethaf cymryd sawl cam gorfodi dros y blynyddoedd, gan gynnwys arestiad, sy'n rhewi'r arian mewn cyfrif banc neu gymdeithas adeiladau ar ddyddiad penodol (ac sy'n rhoi'r pŵer i'r CSA i ofyn am i unrhyw arian sydd ar gael hyd at y swm ar y gorchymyn gael ei neilltuo a'i gadw), ni lwyddodd y CSA i gasglu'r holl ôl-ddyledion. Yn y pen draw, defnyddiodd y CSA ei phwerau i fynd ag ef i'r llys.
Yn ystod yr achos llys, symudodd y rhiant dibreswyl i Seland Newydd er mwyn osgoi talu. Mae gwarant i'w arestio wedi'i gyhoeddi ac wedi cael ei basio ymlaen i'r CSA yn Seland Newydd ddelio ag ef.
Er gwaethaf y camau a gymerir gan y CSA, mae terfyn ar yr hyn y gallant wneud. Dros y tair blynedd nesaf, caiff £120miliwn ychwanegol ei fuddsoddi yn yr Asiantaeth er mwyn gwella'r gwasanaeth mae'n gynnig i'w chleientiaid, a, ble bynnag bosibl, bydd yr Asiantaeth yn defnyddio'r dulliau sydd ar gael i fynd ar ôl rhieni nad ydynt yn talu er mwyn cael mwy o arian i fwy o blant.

