Mae'n braf cael byw mewn tŷ haf?
Photo
caption: Lorem ipsum dolor sit amet, consectetuer adipiscing elit.
Sut gwnaeth un rhiant dibreswyl geisio osgoi talu drwy ddweud ei fod yn byw yn Ne'r Iwerddon.
Yn aml, mae'n cymryd mwy na galwad ffôn a llythyr i gael rhieni dibreswyl i gymryd cyfrifoldeb am gynhaliaeth plant ac, mewn rhai achosion, gallai olygu dod â sawl darn o dystiolaeth at ei gilydd i greu darlun clir. Mewn un achos, roedd rhiant dibreswyl yn honni ei fod yn byw yn Ne'r Iwerddon (tu allan i'n hawdurdodaeth). Er bod ei fam, yn wir, yn byw yn Ne'r Iwerddon, a bod enw'r rhiant dibreswyl nad oedd yn talu ar rai biliau gwasanaethau ar gyfer yr eiddo, roedd yn amlwg ei fod ef yn byw yn y DU.
Gwnaethom nifer o bethau i geisio sefydlu'n iawn beth oedd ei gyfeiriad. Roedd hyn yn cynnwys edrych ar y gofrestrfa dir, gofyn i'r cwmni dŵr lleol pwy oedd wedi'i gofrestru yn ei eiddo yn y DU, edrych mewn papurau newydd lleol am unrhyw gyfeiriadau ato a siarad gyda chymdeithas adeiladau ynglŷn â'i gynlluniau ail forgais. Roedd pob tystiolaeth yn arwain at y ffaith mai dim ond cyfleuster oedd y cyfeiriad yn Ne Iwerddon a bod gan y rhiant dibreswyl fuddiannau busnes yn y DU, ei fod yn berchen eiddo yn y DU a bod ei blentyn yn mynychu ysgol yn y DU. Mae'r CSA yn parhau i ddilyn yr achos.
Er mwyn olrhain rhieni dibreswyl sy'n parhau i geisio osgoi cynnal eu plant yn ariannol rydym hefyd yn defnyddio arbenigedd asiantaethau casglu dyled preifat a chwmnïau olrhain arbenigol.

