Mae'n amlwg fod y CSA wedi cael sawl problem - ac nad yw wedi bod yn ddigon effeithlon na llwyddiannus wrth gasglu cynhaliaeth plant. Er mwyn atgyweirio hyn, ac er mwyn rhoi gwell gwasanaeth i rieni, mae'r Llywodraeth yn bwriadu sefydlu corff newydd o'r enw C-MEC (Y Comisiwn Cynhaliaeth Plant a Gorfodaeth).
Mae'r Llywodraeth wedi cyhoeddi'r Papur Gwyn ar Gynhaliaeth Plant "System gynhaliaeth plant newydd". Mae'r Papur Gwyn hwn yn gosod argymhellion y Llywodraeth ar gyfer sefydlu corff newydd tra gwahanol i weinyddu cynhaliaeth plant.
Tanlinellir hyn gan ymagwedd gwbl newydd fydd yn annog rhieni i gymryd cyfrifoldeb dros gynnal eu plant yn ariannol, ond caiff ei ategu gan gynllun gorfodi llym ar gyfer achosion lle nad yw hyn yn digwydd. Bydd y diwygiadau yn helpu'r system gynhaliaeth plant i gwrdd â'r amcanion pwysig a osodwyd ar ei chyfer - i helpu i ddatrys tlodi ymhlith plant, hybu cyfrifoldeb ymysg rhieni, darparu gwasanaeth sy'n gost-effeithiol a phroffesiynol a bod yn syml ac onest.
Bydd corff newydd o'r enw Y Comisiwn Cynhaliaeth Plant a Gorfodaeth(C-MEC) yn cael ei sefydlu i ddisodli'r CSA. Bydd yn gyfrifol am bob agwedd ar y system gynhaliaeth plant newydd gan gynnwys rhoi gwybodaeth a chyngor i rieni i'w helpu i wneud eu trefniadau eu hunain, yn ogystal â chyfrifo, casglu a gorfodi cynhaliaeth.
Yr argymhellion allweddol yn y Papur Gwyn yw i:
- sefydlu corff newydd - Y Comisiwn Cynhaliaeth Plant a Gorfodaeth(C-MEC) fydd yn gyfrifol am bob agwedd ar y system gynhaliaeth plant newydd, gan gynnwys rhoi gwybodaeth a chyngor i rieni i'w helpu i wneud eu trefniadau eu hunain.
- helpu rhieni i wneud dewis ynglŷn â'u cynhaliaeth plant drwy gael gwared o'r gofyniad i rieni â gofal sy'n derbyn budd-dal orfod cael eu trin fel pe baent yn gwneud cais am gynhaliaeth plant.
- rhoi gwybodaeth a chyngor o ansawdd i rieni i'w helpu i wneud penderfyniadau ynglŷn â sut i wneud eu trefniadau cynhaliaeth plant eu hunain neu symud i'r system newydd.
- Cynyddu yn sylweddol y swm o gynhaliaeth y gall rieni â gofal sy'n derbyn budd-dal ei gadw cyn iddo effeithio ar lefel y budd-daliadau a dderbynnir.
- symleiddio'r broses asesu cynhaliaeth plant.
- gwella'r prosesau casglu a gorfodi gan wneud y neges yn gwbl glir na fyddwn yn rhoi i fyny gyda methiant i dalu cynhaliaeth.
Mae hyn yn cynnwys:- gorfodi rhieni dibreswyl i ildio'u pasport
- gorfodi cyrffyw arnynt os byddant yn methu â thalu cynhaliaeth
- cael gwared o'r angen i wneud cais drwy'r llys am Orchymyn Atebolrwydd a sefydlu proses weinyddol gyflymach a mwy effeithiol yn ei le
- cynyddu'r ymdrech i gasglu a rheoli dyled
- helpu'r polisi llywodraethol ehangach ar gefnogi teuluoedd trwy ddod i sefyllfa lle bydd enwau'r ddau riant yn cael eu cofnodi bob tro ar dystysgrifau geni oni bai y byddai'n afresymol i wneud hynny.
Pryd bydd hyn i gyd yn digwydd?
Ni fydd unrhyw o'r newidiadau hyn yn digwydd ar unwaith. Caiff y corff newydd a'r newidiadau i'r rheolau eu cyflwyno fesul cam dros nifer o flynyddoedd.
I ddilyn ceir amserlen ddisgwyliadwy ar gyfer y newidiadau
2007-2008
Caiff Mesur ei gyflwyno i'r Senedd i ddiwygio'r system gynhaliaeth plant. Caiff apwyntiadau allweddol eu gwneud ar sail dros dro tra'n aros am Y Cydsyniad Brenhinol er mwyn sicrhau y gall darpar aelodau Bwrdd y Comisiwn gyfrannu at y gwaith darpariedig fydd ei angen er mwyn lansio'r corff newydd. Bydd buddsoddiad yn y Cynllun Gwella Gweithredol yn parhau, gan wella ar berfformiad i rieni sy'n defnyddio'r trefniadau presennol.
2008-2009
Bydd Y Comisiwn Cynhaliaeth Plant a Gorfodaeth mewn grym gydag awdurdodaeth statudol. Ei flaenoriaethau fydd i
- cymryd cyfrifoldeb am weithrediadau presennol yr Asiantaeth Cynnal Plant a chychwyn darparu gwasanaethau newydd
- defnyddio'r pwerau newydd ar gyfer gorfodi a chasglu er mwyn sicrhau bod mwy o rieni dibreswyl yn talu cynhaliaeth - gan ddod a mwy o arian i fwy o blant
- sefydlu gwasanaethau gwybodaeth a chyngor newydd i gefnogi rhieni i wneud y dewisiadau cywir
- helpu rhieni i ddewis drwy gael gwared ar y gofyniad i rieni â gofal sy'n hawlio budd-dal orfod cael eu trin fel pe baent yn gwneud cais am gynhaliaeth cynnal plant. Hefyd i sicrhau, gyda chymorth y Ganolfan Byd Gwaith, y bydd pob rhiant â gofal yn gallu elwa o'r £10 yr wythnos ychwanegol y gellir ei hawlio ar ben budd-dal lle telir cynhaliaeth, drwy ymestyn hyn i achosion sydd ar y system gynhaliaeth wreiddiol.
2009-2010
- Cefnogir rhieni i wneud dewisiadau - caiff yr opsiynau sydd ar gael eu hamlinellu ar gyfer cleientiaid presennol, naill ai i wneud trefniadau preifat neu lle bo'r ddau riant yn cytuno, parhau gyda'u trefniadau presennol wedi'u hategu gan wasanaeth syml i drosglwyddo arian neu ddod yn gleient o dan y system newydd.
2010-2011
- Caiff ceisiadau newydd eu derbyn o dan y cynllun asesu newydd. Caiff y swm sylweddol uwch a ddiystyrir ar gyfer pob rhiant â gofal sy'n hawlio budd-daliadau ei gyflwyno a bydd y broses drosglwyddo ar gyfer cleientiaid presennol yn cychwyn. Disgwylir y bydd y cyfnod trosglwyddo yn cymryd tua thair blynedd.
2012-2013
- Bydd pob cleient ar un set o reolau a reolir gan un corff.
Beth fydd hyn yn ei olygu yn fy achos i?
Beth fydd yn digwydd i fy achos?
Am nawr, ni fydd unrhyw newid i'ch achos. Rydym eisoes wedi dangos gwelliant i'n gwasanaeth drwy'r Cynllun Gwella Gweithredol a byddwn yn parhau i wella ein gwasanaethau.
Byddwn yn rhoi gwybod i chi os bydd unrhyw newid i'ch achos.
A fydd y CSA yn cau?
Bydd y corff newydd yn cymryd cyfrifoldeb am waith yr Asiantaeth Cynnal Plant yn dechrau o 2008. Yn y cyfamser, bydd achosion yn parhau i gael eu prosesu fel arfer.
Byddaf eisiau symud i'r system newydd a'r cynllun asesu symlach - sut fydd fy achos yn trosglwyddo?
Lle bydd rhieni eisiau trosglwyddo i'r system newydd, mae'n hanfodol ein bod yn osgoi unrhyw doriad ar y gwasanaeth i rieni yn ystod y cyfnod trosglwyddo. Bydd y corff newydd yn datblygu argymhellion manwl ynglŷn â symud achosion ymlaen.
Disgwylir i hyn ddechrau yn 2010-11 ac y bydd yn cymryd tua thair blynedd i'w gwblhau.
Rwyf yn hawlio budd-dal ac rwyf eisiau creu trefniant preifat - a gaf i wneud hyn nawr?
Na, nid ar hyn o bryd.
Ni fyddwch yn gallu gwneud hyn hyd nes bydd y gyfraith newydd a'r system wybodaeth a chyngor newydd mewn grym. Bryd hynny bydd gan y rhieni â gofal hynny sy'n hawlio budd-dal y cyfle i wneud eu trefniadau cynhaliaeth eu hunain. Tan hynny, bydd y trefniadau presennol yn parhau.
Pryd fyddaf yn gallu cadw mwy o'r arian a delir fel cynhaliaeth plant?
Yn ystod 2008-09 mae'r Llywodraeth yn bwriadu ymestyn y £10 a ddiystyrir ar ben budd-dal i gynnwys achosion ar y cynllun cynhaliaeth plant gwreiddiol fel y gall pob rhiant â gofal sy'n derbyn budd-dal allu cadw'r £10 yr wythnos cyntaf o unrhyw gynhaliaeth a delir.
O 2010-11 ymlaen, bwriada'r Llywodraeth wneud cynydd sylweddol i'r swm o gynhaliaeth y caiff rhieni â gofal sydd ar fudd-dal ei gadw cyn iddo effeithio ar lefel y budd-daliadau maent yn eu derbyn.
A fydd yn rhaid i mi dalu i ddefnyddio'r corff newydd?
Mewn rhai achosion gall y Llywodraeth godi ffi ar bobl i ddefnyddio'r corff newydd. Caiff y penderfyniadau terfynol am fanylion hyn eu gwneud yn agosach at yr amser ond ein bwriad ar hyn o bryd yw i godi ffi o'r cyfle cyntaf er mwyn sicrhau bod y cymhelliant i wneud rhieni dibreswyl gwrdd â'u cyfrifoldebau mewn grym.
A fyddaf yn parhau i ddelio gyda'r Asiantaeth Cynnal Plant?
Byddwch, yn y dyfodol agos byddwch yn parhau i ddelio gyda'r Asiantaeth Cynnal Plant.
Yn 2008-09 bydd y Llywodraeth yn sefydlu'r corff newydd fydd yn cymryd y cyfrifoldeb dros weithrediadau'r Asiantaeth Cynnal Plant, enw'r corff hwn fydd Y Comisiwn Cynhaliaeth Plant a Gorfodaeth.
A fydd yn effeithio ar sut y byddaf yn derbyn fy nhaliadau?
Na fydd, nid yn y dyfodol agos.
A allaf dal wneud cais, ac os felly - sut?
Gallwch, nid yw'r broses ar gyfer gwneud cais wedi newid.
Beth fydd yn digwydd os bydd fy amgylchiadau yn newid?
Dylech barhau i adrodd unrhyw newid mewn amgylchiadau yn y ffordd arferol.
Mae fy nghyn bartner yn dweud nad oes pwynt talu cynhaliaeth plant nawr. Oes yn rhaid iddynt?
Oes - yn bendant.
Yn ystod y cyfnod lle bydd y Llywodraeth yn sefydlu'r corff newydd byddwn yn parhau i ganolbwyntio ar gydweithrediad a gorfodaeth fel rhan o'r gwelliannau rydym eisoes wedi'u gwneud i'n gwasanaeth ac yn parhau i'w gwneud, fel rhan o'r Cynllun Gwella Gweithredol.
Mae ar fy nghyn bartner lawer o arian i mi ar gyfer cynhaliaeth plant - a gaiff hwn ei anghofio o dan yr argymhellion?
Nid oes unrhyw fwriad i ganiatáu i rieni dibreswyl sy'n gallu talu i osgoi eu cyfrifoldebau. Mae'r Llywodraeth yn cyflwyno camau gorfodi mwy llym sydd wedi'u hanelu at wneud datblygiadau sylweddol i glirio dyledion presennol.
Mae'r Llywodraeth wedi penderfynu yn erbyn ceisio'r pwer i ddileu dyled na ellir ei hadennill. Ond, mae rhai amgylchiadau penodol lle gellir dileu dyled neu ail werthuso rhai dyledion gormodol. Lle bydd dyled yn daladwy i'r rhiant â gofal, dim ond gyda chytundeb gan y rhiant â gofal y penderfynir i dderbyn swm llai.
Mae gan fy nghyn bartner asesiad cynhaliaeth dros dro nad ydynt wedi ei dalu erioed - felly pam eich bod yn mynd i ostwng yr ôl-ddyledion sy'n rhaid iddynt eu talu?
Bwriad asesiadau cosb dros dro oedd i annog rhieni dibreswyl i gydymffurfio a chydweithredu gyda'r Asiantaeth Cynnal Plant.
Ond nid oedd hyn yn gweithio'n ymarferol - roedd sawl rhiant dibreswyl yn parhau i osgoi eu cyfrifoldebau.
Y rheswm yr ydym yn ail asesu'r gyfradd yw i greu ffigwr mwy realistig sy'n adlewyrchu'r swm o gynhaliaeth plant a fyddai wedi bod yn ddyledus petai'r Asiantaeth Cynnal Plant wedi gallu cwblhau Asesiad Cynhaliaeth Llawn, wedi'i seilio ar amgylchiadau'r rhiant dibreswyl. Byddwn yn ail werthuso dyledion o Asesiadau cosb dros dro fel eu bod yn cynnig adlewyrchiad gwell o allu rhieni i dalu. Bydd hyn yn darparu sail gryfach er mwyn i'r Asiantaeth Cynnal Plant a'r Comisiwn Cynnal Plant a Gorfodaeth allu adennill y dyledion hynny a chael arian yn llifo i rieni â gofal.
Mae fy achos yn parhau i fod ar yr 'hen gynllun' - fydd hwn nawr yn trosglwyddo i'r cynllun newydd?
Na.
Rydym wastad wedi dweud na allem ystyried trosglwyddo'r rhan fwyaf o achosion yr 'hen gynllun' i'r cynllun presennol y cyflwynwyd yn 2003 hyd nes y byddai'r cynllun hwnnw'n gweithio'n llwyddiannus.
Bydd y Llywodraeth yn anelu at sefydlu'r corff newydd yn 2008-09 a disgwyliwn i ddechrau symud achosion drosodd i'r cynllun newydd yn 2010-11. Disgwylir i'r broses drosglwyddo gymryd hyd at dair blynedd.
Bydd y corff newydd yn datblygu'r argymhellion manwl ar gyfer symud achosion presennol yn eu blaen a byddwn yn diweddaru cleientiaid fel y gwneir y penderfyniadau.
Hoffwn fwy o wybodaeth am yr argymhellion sy'n y Papur Gwyn.
Mae'r Papur Gwyn "System newydd o gynhaliaeth plant", ar gael ar wefan y DWP.


