Apelio yn erbyn ein penderfyniadau
- Pa benderfyniadau a wnaed gan y CSA gall pobl apelio yn eu herbyn?
- A oes unrhyw benderfyniadau na allaf apelio yn eu herbyn?
- Beth ddylai pobl ei wneud os ydynt yn credu bod y CSA wedi gwneud y penderfyniad anghywir am faint o gynhaliaeth a ddylid ei dalu?
- Faint o amser mae apeliadau yn eu cymryd?
- Pwy sy'n gwrando ar yr apeliadau?
- Oes rhaid i'r CSA ddilyn penderfyniad y tribiwnlys?
- Beth fydd yn digwydd os bydd y tribiwnlys yn penderfynu bod y penderfyniad gwreiddiol yn gywir?
- Beth gall pobl wneud os ydynt yn anghytuno gyda phenderfyniad y tribiwnlys?
C. Pa benderfyniadau a wnaed gan y CSA gall pobl apelio yn eu herbyn?
A.Bob tro bydd y CSA yn gwneud penderfyniad am y swm o gynhaliaeth plant dylai'r rhiant dibreswyl ei dalu, mae gan y naill riant yr hawl i apelio yn erbyn y penderfyniad. Mae penderfyniadau eraill gallant apelio yn eu herbyn. Maent wedi eu rhestri yn ein taflen "Sut gallaf apelio yn erbyn penderfyniad cynhaliaeth plant?" [PDF 202KB]
.
C. A oes unrhyw benderfyniadau na allaf apelio yn eu herbyn?
A. Oes. Ni all rhieni apelio yn erbyn penderfyniadau gweinyddol ynghylch casglu a gorfodi taliadau cynhaliaeth, fel penderfyniad gennym i ddefnyddio gorchymyn didynnu o enillion gorfodol i gasglu cynhaliaeth heb ei thalu gan riant dibreswyl. Fodd bynnag, efallai y gallent fynd i'r llys i herio penderfyniadau fel hyn.
Ni allant apelio yn erbyn penderfyniad am wadu bod yn rhiant i blentyn. Rydym yn defnyddio proses ar wahân i reoli anghydfodau ar hyn.
- Edrychwch ar ein ffeithlen am wadu bod yn rhiant neu darllenwch ein taflen "Beth fydd yn digwydd os bydd rhywun yn gwadu eu bod yn rhiant i blentyn?" [PDF 184KB]
Gallai ein Huned Apeliadau Canolog hefyd benderfynu peidio â mynd ymlaen ag apêl os nad oes ganddi gyfle rhesymol i lwyddo am ei bod yn seiliedig ar rywbeth sydd wedi'i osod allan yn y gyfraith, fel sut rydym yn gweithio allan cynhaliaeth plant.
C. Beth ddylai pobl ei wneud os ydynt yn credu bod y CSA wedi gwneud y penderfyniad anghywir am faint o gynhaliaeth a ddylid ei dalu?
A.Os oes rhywun yn credu bod y CSA wedi gwneud penderfyniad sydd yn anghywir, dylent gysylltu â ni a:
- gofyn i'r CSA egluro ei phenderfyniad neu i ail edrych ar y penderfyniad, neu
- dweud wrthym eu bod eisiau gwneud apêl ffurfiol.
Os oes unrhyw wybodaeth a roddwyd i ni gan rieni i weithio allan cynhaliaeth plant yn newid, mae'n rhaid iddynt ddweud wrthym a gofyn i ni i ail edrych ar y penderfyniad.
Os oes gan y naill riant wybodaeth, y credant fyddai'n effeithio ar swm y gynhaliaeth plant, gallant ofyn ar unrhyw bryd i ni edrych ar y penderfyniad eto.
Mae ein taflen "Sut gallaf apelio yn erbyn penderfyniad cynhaliaeth plant?" [PDF 202KB]
yn egluro mwy am hyn.
Rhai pwyntiau pwysig am newid ein penderfyniad:
- Os byddwn ni, neu dribiwnlys, yn gwneud penderfyniad newydd, gallai naill ai gynyddu neu ostwng swm y gynhaliaeth plant sy'n daladwy.
- Bydd penderfyniad yn parhau mewn grym tra byddwn yn edrych arno eto neu tra bydd apêl yn ei erbyn. Rhaid i'r rhiant dibreswyl barhau i dalu cynhaliaeth plant hyd nes bydd y mater yn cael ei ddatrys.
C. Faint o amser mae apeliadau yn eu cymryd ?
A.Mae hyd at dri cham i'r broses apelio.
Cam 1 - Yn y cam hwn byddwn yn edrych ar yr apêl ac yn naill ai:
- Diwygio'r penderfyniad ein hunain; neu
- Anfon yr apêl i'r Tribiwnlys Apeliadau Nawdd Cymdeithasol a Chynnal Plant i weithredu arni.
Ar hyn o bryd caiff tua hanner pob apêl eu datrys o fewn y CSA yn y cam hwn.
Bydd y cam hwn yn cymryd tua 10 wythnos ar gyfartaledd.
Cam 2 - Os yw'r Gwasanaeth Tribiwnlysoedd yn delio gyda'r apêl, byddant yn ei harchwilio ac yn ein hysbysu o'u penderfyniad o fewn 19 wythnos o anfon yr apêl atynt.
Cam 3 - Unwaith y bydd y Gwasanaeth Tribiwnlysoedd yn ein hysbysu o'u penderfyniad, byddwn yn diwygio eich penderfyniad cynhaliaeth plant os bydd angen. Bydd y cam hwn yn cymryd tua wythnos ar gyfartaledd.
C. Pwy sydd yn gwrando ar yr apeliadau?
A.Gwrandewir ar apeliadau gan Dribiwnlys Apeliadau Nawdd Cymdeithasol a Chynnal Plant (SSCSA), rhan o'r Gwasanaeth Tribiwnlysoedd. Mae'r Gwasanaeth Tribiwnlysoedd yn rhan o'r Weinyddiaeth Gyfiawnder ac yn darparu cefnogaeth gweinyddol cyffredin i brif dribiwnlysoedd y llywodraeth ganolog.
Gwrandewir ar apeliadau gan aelod cyfreithiol cymwys, ac weithiau aelod gydag arbenigedd ariannol, fel cyfrifydd. Mae aelodau Tribiwnlysoedd yn cael eu penodi gan y Gwasanaeth Tribiwnlysoedd, nid gennym ni na'r Comisiwn.
C. Oes rhaid i'r CSA ddilyn penderfyniad y tribiwnlys?
A. Oes. Os bydd y Tribiwnlys SSCSA yn newid y penderfyniad yr apeliwyd yn ei erbyn, caiff yr achos ei ddychwelyd atom gyda'u penderfyniad. Bydd hyn yn cynnwys arweiniad (neu gyfarwyddiadau) ar beth i'w wneud i unioni'r penderfyniad. Gallai'r penderfyniad newydd olygu bod swm y gynhaliaeth plant yn newid ac felly bydd taliadau naill ai'n cynyddu neu'n gostwng.
C. Beth fydd yn digwydd os bydd y tribiwnlys yn penderfynu bod y penderfyniad gwreiddiol yn gywir?
A. Os bydd y Tribiwnlys SSCSA yn penderfynu bod ein penderfyniad gwreiddiol yn gywir, yna bydd ein penderfyniad yn parhau mewn grym.
C. Beth gall pobl wneud os ydynt yn anghytuno gyda phenderfyniad y tribiwnlys?
A. Os gwnaeth y tribiwnlys ddilyn y gweithdrefnau yn gywir a'i bod yn gywir o ran y gyfraith, ni ellir newid ei benderfyniad.
Os bydd rhieni yn anghytuno â phenderfyniad y Tribiwnlys SSCSA, mae dwy ffordd y gallant ofyn iddo gael ei adolygu neu ei newid:
- Gellir rhoi'r penderfyniad i'r neilltu os na dderbyniwyd rhai dogfennau neu os na chawsant eu hanfon at rywun yn ymwneud â'r apêl neu os na fynychodd rhywun oedd i fod yn y gwrandawiad llafar.
- Gallant apelio i'r Comisiynydd Cynnal Plant, a gall y Comisiynydd ddisodli penderfyniad Tribiwnlys SSCSA os yw'n anghywir yn ôl y gyfraith. Mae'r Comisiynydd Cynnal Plant yn gorff annibynnol y tu allan i'r CSA.
Gwybodaeth berthnasol
- Darllenwch ein taflen "Sut gallaf apelio yn erbyn penderfyniad cynhaliaeth plant?" [941Kb]
- Darllenwch ein taflen "Beth fydd yn digwydd os bydd rhywun yn gwadu eu bod yn rhiant i blentyn?" [941Kb]

