HafanAmdanom niCwestiwn ac ateb › Newidiadau i gynnal plant

Cwestiwn ac ateb

Newidiadau i gynnal plant



Q. Pryd bydd hyn i gyd yn digwydd?

A.Caiff y sefydliad newydd a datblygiad y cynllun newydd ei gyflwyno mewn camau dros nifer o flynyddoedd.

2008-2009

Ers 27 Hydref mae rhieni ar fudd-daliadau wedi cael y dewis i naill ai ddefnyddio'r gwasanaeth cynhaliaeth statudol (a weithredir gan y CSA) neu i wneud cytundeb preifat. Gallant ystyried eu hopsiynau o ba drefniant i ddewis gyda chefnogaeth gan wasanaeth gwybodaeth Opsiynau Cynhaliaeth Plant. Hefyd, mae'r ddiystyriaeth o £10 yr wythnos wedi ei dyblu i £20 yr wythnos ac wedi'i hymestyn i'r rhieni sydd ar yr hen gynllun.

Dewch o hyd i fwy o wybodaeth am y newidiadau i gynhaliaeth plant yma.

Dyma amserlen ddisgwyliedig ar gyfer y newidiadau pellach:

2010

Yn Ebrill 2010 caiff diystyriaeth lawn o fudd-daliadau ei gyflwyno

2011

Bydd ceisiadau newydd yn cael eu derbyn o dan y cynllun asesu cynhaliaeth plant newydd fydd yn seiliedig ar 'incwm gros'. Bydd cleientiaid sydd ar hyn o bryd ar y naill gynllun yn gallu trosglwyddo i'r system newydd, proses y disgwylir iddi barhau am dair blynedd.

2012-2013

  • Bydd y system cynhaliaeth plant newydd yn gweithredu'n llawn.

C. A fydd y CSA yn cau?

A.Mae'r Comisiwn wedi cymryd cyfrifoldeb am waith y CSA. Bydd y CSA yn parhau i weithredu'r ddau gynllun hyd nes bydd bob cleient naill ai yn symud i'r cynllun 'incwm gros' newydd neu yn gwneud trefniant preifat. Bwriedir y bydd ceisiadau i'r cynllun cynhaliaeth plant 'incwm gros' newydd yn dechrau yn 2011.

C. Pryd gallaf symud i'r rheolau newydd/system newydd/ffordd newydd o weithio cynhaliaeth plant allan?

A.Yn ôl y cynlluniau presennol, mae'r Comisiwn yn disgwyl cyflwyno'r cynllun 'incwm gros' newydd yn 2011. O hynny ymlaen, byddwn yn gofyn i'r rhieni sydd ag achosion ar yr 'hen reolau' neu'r 'rheolau presennol' os byddant yn dymuno gwneud cais i ddefnyddio'r cynllun 'incwm gros' neu i wneud trefniant preifat gyda'r rhiant arall. Disgwylir i'r broses hon gymryd tua tair blynedd. Disgwyliwn cyn lleied o oedi â phosibl ac y bydd ein gwasanaeth i'r rhieni hynny sy'n dymuno aros gyda'r CSA yn parhau heb ei rwystro. Byddwn yn helpu rhieni gyda’r broses o ail wneud cais.

Cewch fwy o wybodaeth yma os oes gennych achos gyda'r CSA a aseswyd o dan yr 'hen reolau' ac rydych am gael gwybod sut bydd achosion yn trosglwyddo i'r 'rheolau presennol'.


A fyddaf yn dal i ddelio â'r CSA?

A.Mae gan bob rhiant gan gynnwys y rhai sydd, ar hyn o bryd, â threfniant gyda'r CSA y dewis i wneud trefniant preifat neu barhau i ddefnyddio'r cynllun statudol cynhaliaeth plant a ddarperir gan y CSA.

Os byddwch yn penderfynu defnyddio'r cynllun statudol byddwch yn parhau i ddelio gyda'r CSA.


Mae fy achos dal ar yr 'hen gynllun' - a fydd nawr yn symud i'r cynllun newydd?

A.Ni fydd trosglwyddiad holl gynhwysfawr o achosion o'r system cynhaliaeth plant gwreiddiol ('hen reolau') i'r system bresennol a gyflwynwyd gan y diwygiadau yn 2003 ('rheolau presennol').

Bydd achosion yr hen gynllun yn parhau i gael eu trosglwyddo i'r rheolau presennol os ydynt yn gysylltiedig ag achos sy'n dod o dan y rheolau presennol. Mae hyn oherwydd bod y gyfraith yn dweud bod rhaid i ni weithio cynhaliaeth plant allan gan ddefnyddio'r un rheolau os bydd achosion yn gysylltiedig â'i gilydd. Dyma enghraifft o sut bydd achosion yn cael eu symud o'r hen reolau i'r rheolau presennol:

  • mae rhiant â gofal eisoes yn cael cynhaliaeth plant ar gyfer un plentyn,
  • maent yn gwneud cais am blentyn arall ar neu ar ôl 3 Mawrth 2003, ac
  • mae gan y plentyn hwnnw riant dibreswyl gwahanol i'r plentyn arall mae'r rhiant â gofal eisoes yn cael cynhaliaeth plant ar ei gyfer.

Enghraifft arall o bryd byddwn yn symud achos cynhaliaeth plant i'r cynllun presennol yw os:

  • bydd rhiant dibreswyl yn talu cynhaliaeth plant o dan yr hen gynllun
  • mae ganddynt blentyn gyda pherson arall, ac
  • mae'r person hwnnw yn gwneud cais am gynhaliaeth plant drwom ni ar neu ar ôl 3 Mawrth 2003.

Yn ôl y cynlluniau presennol, mae'r Comisiwn yn disgwyl cyflwyno'r cynllun 'incwm gros' newydd yn 2011. O hynny ymlaen, byddwn yn gofyn i'r rhieni sydd ag achosion ar yr 'hen reolau' neu'r 'rheolau newydd' os ydynt yn dymuno i wneud cais i ddefnyddio'r cynllun 'incwm gros' neu i wneud trefniant preifat gyda'r rhiant arall. Disgwylir i'r broses hon gymryd tua tair blynedd. Rydym yn disgwyl y lleiafswm o ymyrraeth a pharhad i'r gwasanaeth i'r rhieni hynny sy'n dymuno aros gyda'r CSA, a chaiff rhieni eu cefnogi trwy'r broses o ail wneud cais.


Sut byddaf yn cael fy niweddaru?

A.Byddwn yn diweddaru ein cleientiaid am unrhyw benderfyniadau fydd yn effeithio arnynt.