Cwyno am ein gwasanaeth
- Beth ddylai rhieni ei wneud os nad ydynt yn hapus am y gwasanaeth a gânt gan y CSA?
- All rhieni gwyno am sut caiff cynhaliaeth ei gweithio allan, neu sut y gofynnir iddynt dalu?
- Faint o gwynion sydd wedi bod am y CSA dros y flwyddyn ddiwethaf?
- A fydd rhieni'n cael iawndal os yw'r CSA wedi gwneud camgymeriad?
- Faint o bobl sydd wedi cael iawndal?
- Os yw rhywun yn anhapus am sut y deliwyd â'u cwyn beth allant ei wneud?
C. Beth ddylai rhieni ei wneud os nad ydynt yn hapus am y gwasanaeth a gânt gan y CSA?
A.I ddechrau, dylent gysylltu â'r bobl sy'n delio â'u hachos, naill ai drwy ffonio neu'n ysgrifenedig. Mae eu rhifau cyswllt ar ein llythyrau atynt. Gallant hefyd e-bostio eu cwyn atom drwy ddefnyddio'r ffurflen gwyno ar-lein.
Os na all y bobl sydd yn delio â'r achos datrys y cwyn byddant yn ei anfon at Dîm Datrys Cwynion y CSA.
Os yw rhiant yn anfodlon gyda'r ymateb a gânt gan y Tîm Datrys Cwynion gallant ofyn i'r cwyn cael ei ystyried gan y Tîm Adolygu Cwynion.
- Mae ein taflen " Sut gallaf gwyno am y gwasanaeth a gaf gan yr Asiantaeth Cynnal Plant? " [PDF 158KB]
yn egluro mwy am y broses hon.
C. All rhieni gwyno am sut caiff cynhaliaeth ei gweithio allan, neu sut y gofynnir iddynt dalu?
A.Os oes gan y naill riant wybodaeth, y credant fyddai'n effeithio ar swm eu cynhaliaeth plant, gallant ofyn i ni edrych eto ar y penderfyniad ar unrhyw adeg. Nid yw'n bosibl apelio yn erbyn penderfyniadau gweinyddol am gasglu a gorfodi taliadau cynhaliaeth plant.
- Mae mwy o wybodaeth am hyn yn ein ffeithlen am apelio yn erbyn ein penderfyniadau, neu darllenwch ein taflen
" Sut gallaf apelio yn erbyn penderfyniad cynhaliaeth plant? " [PDF 202KB]

C. Faint o gwynion sydd wedi bod am y CSA dros y flwyddyn ddiwethaf?
A.Rydym yn ymroddedig i drin ein cleientiaid yn deg a chynnig gwasanaeth iddynt sydd yn cwrdd â'u hanghenion.
Yn y flwyddyn ariannol 2008/2009 derbyniwyd bron i 28,000 o gwynion gennym. Mae hyn yn welliant o 26% ar y flwyddyn flaenorol, pan dderbyniwyd bron i 38,000 o gwynion.
C. A fydd rhieni'n cael iawndal os yw'r CSA wedi gwneud camgymeriad?
A.Efallai bydd eich cwyn am ein gwasanaeth yn dangos ein bod wedi eich trin yn wael. Er enghraifft, efallai ein bod wedi achosi oedi hir iawn, wedi gwneud camgymeriad difrifol neu wedi rhoi'r wybodaeth anghywir i chi. Gelwir hyn yn 'gamweinyddiaeth'.Yn y sefyllfaoedd hyn, efallai na fydd ymddiheuriad yn ddigon oherwydd gallech fod wedi colli arian o'n herwydd ni. Efallai y gallwn dalu 'iawndal'i wneud yn iawn am unrhyw golled. Os yw'n berthnasol, byddwn yn trin hyn fel rhan o ddelio ê'ch cwyn. Fodd bynnag, nid oes hawl cyfreithiol i iawndal. Pan fo rhaid i ni benderfynu os dylid talu iawndal defnyddiwn set o reolau y mae Trysorlys EM wedi cytuno arnynt gyda'r Swyddfa Archwilio Gwladol.
C. Faint o bobl sydd wedi cael iawndal?
A.Ym mlwyddyn ariannol 2008/09 talodd y CSA tua £3.9 miliwn (£3,876,000) mewn iawndal. Roedd hyn ar gyfer 13,086 o achosion unigol.
C. Os yw rhywun yn anhapus am sut y deliwyd â'u cwyn beth allant ei wneud?
A. Ar ôl cael ymateb gan y Tîm Adolygu Cwynion, os bydd y rhiant yn dal i deimlo nad ydym wedi delio â'u cwyn yn briodol, gallant ysgrifennu at yr Archwilydd Achosion Annibynnol.
Mae'r Archwilydd Achosion Annibynnol yn rhoi golwg annibynnol ar gwynion gan bobl nad ydynt yn fodlon â sut gwnaethom drin eu hachos. Mae eu gwasanaeth am ddim ac nid ydynt yn rhan o'r Asiantaeth Cynnal Plant.
Cyn y bydd yr Archwilydd Achosion Annibynnol yn derbyn achos, rhaid iddynt fod yn fodlon ein bod wedi cael y cyfle i ddelio â'r gŵyn a bod y cŵyn wedi bod trwy bob cam o'n broses cwyno. Byddant yn edrych ar y gŵyn cyhyd ag y bydd y cleient yn cysylltu â hwy o fewn chwe mis i dderbyn ymateb terfynol gan ein Tîm Adolygu Cwynion.
- Mae ein taflen " Sut gallaf gwyno am yr Asiantaeth Cynnal Plant?" [PDF 158KB]
yn egluro mwy am y broses hon. - Gallwch gael mwy o wybodaeth am yr Archwilydd Achosion Annibynnol ar eu gwefan.
Gwybodaeth berthnasol
- Darllenwch ein taflen "Sut gallaf gwyno am y gwasanaeth a gaf gan yr Asiantaeth Cynnal Plant?" [128Kb]
- Darllenwch ein taflen "Sut gallaf apelio yn erbyn penderfyniad cynhaliaeth plant?" [941Kb]

