HafanAmdanom niCwestiwn ac ateb › Anghydfodau bod yn rhiant

Cwestiwn ac ateb

Gwadu bod yn rhiant



C. Ydy'r CSA yn gorfodi profion DNA?

A. Rydym bob amser yn gofyn i'r person a enwir fel rhiant y plentyn a ydynt yn derbyn eu bod yn rhiant i'r plentyn a enwir cyn i ni weithio cynhaliaeth allan.

Os ydynt yn gwadu eu bod yn rhiant i'r plentyn ar ôl i ni weithio allan faint o gynhaliaeth plant y dylent ei dalu, bydd rhaid iddynt barhau i dalu cynhaliaeth plant hyd nes byddant yn gallu profi'n llwyddiannus nad ydynt yn rhiant i’r plentyn. Eu cyfrifoldeb hwy, nid y CSA, yw profi nad ydynt yn rhiant i'r plentyn.

Dim ond os oes tystiolaeth gadarn i brofi nad y person a enwir yw rhiant y plentyn y gallwn dderbyn hynny. Gallai'r dystiolaeth hon fod yn ganlyniadau prawf DNA neu os bydd y llys eisoes wedi datgan person arall i fod yn rhiant i'r plentyn.


C. Sut mae'r CSA yn datrys anghydfodau o ran pwy yw'r rhiant?

A. Mae gennym dair ffordd, sef:

  • tybio pwy yw'r rhiant (yn ôl y gyfraith, mae gennym hawl, mewn rhai sefyllfaoedd penodol, i dybio mai rhywun yw rhiant plentyn.)
  • profi DNA , neu
  • cyfeirio'r anghydfod i'r llys i wneud penderfyniad mewn achosion ble ganed y plentyn o ganlyniad i driniaeth ffrwythlondeb.

C. Pryd gall y CSA dybio pwy yw'r rhiant?

A.. Y sefyllfaoedd mwyaf cyffredin ble gallwn dybio mai rhywun yw rhiant plentyn yw:

  • os oeddent yn briod â mam y plentyn ar unrhyw adeg rhwng cenhedlu a genedigaeth y plentyn,
  • os ydynt yn gwrthod cymryd prawf DNA
  • os ydynt wedi'u henwi fel tad y plentyn ar dystysgrif geni'r plentyn.

C. Os profir nad yw rhywun yn rhiant i'r plentyn a fyddant yn cael ad-daliad o unrhyw gynhaliaeth plant maent wedi'i thalu?

A. Byddant. Os bydd person, sy'n talu cynhaliaeth plant i ni i'w phasio ymlaen i'r rhiant â gofal, yn profi nad ydynt yn rhiant i'r plentyn, byddwn yn ad-dalu'r taliadau hynny'n llawn.

Unwaith y byddwn wedi gwneud cyfrifiad, bydd yn rhaid i'r person a enwir fel rhiant y plentyn dalu cynhaliaeth plant hyd nes gallant ddarparu tystiolaeth nad hwy yw'r rhiant go iawn.


C. Faint mae prawf DNA yn ei gostio?

A. Y ffi llawn am brofi tri o bobl (dau oedolyn ac un plentyn yw £281.05.

Os bydd y person a enwir fel rhiant y plentyn yn talu pan fyddant yn dychwelyd eu ffurflen apwyntiad, cânt dalu ar gyfradd ostyngol sydd ar gael drwy Cellmark, cwmni y defnyddiwn i gynnal profion DNA. Ar hyn o bryd y gyfradd ostyngol yw £215.69.


C. Ydy'r CSA yn gwneud arian o brofi DNA?

A. Nid oes unrhyw arian yn mynd i'r CSA.


C. Pwy sy'n talu am brofi DNA?

A. Rydym yn disgwyl i'r person a enwir fel rhiant y plentyn i dalu am y prawf.

Os bydd canlyniadau'r prawf yn dangos nad ydynt yn rhiant i'r plentyn, byddwn yn rhoi eu harian yn ôl iddynt a byddwn yn talu am gost y prawf.


C. All pobl drefnu eu profion DNA eu hunain?

A. Gallant. Gall unrhyw berson drefnu prawf DNA preifat. Fodd bynnag, byddwn ond yn derbyn canlyniadau prawf preifat os byddwn yn fodlon bod:

  • y prawf wedi'i gynnal gan gwmni profi DNA sydd wedi'i gymeradwyo i'w ddefnyddio pan fydd angen profion DNA ar y llysoedd (Cewch restr o'r cwmnïau hyn yma)
  • y trefniadau diogelwch yn cyrraedd safonau derbyniol
  • pob un a oedd yn ymwneud â'r achos yn fodlon y cynhaliwyd y prawf yn briodol, ac
  • roedd y prawf yn seiliedig ar samplau DNA y person a enwir fel rhiant y plentyn, y rhiant â gofal a'r plentyn.