Gorfodi



C. Faint o rieni sydd ddim yn talu'r gynhaliaeth plant sy'n ddyledus ganddynt?

A.O'r 536,700 o achosion ble dylai cynhaliaeth plant fod wedi bod yn cael ei thalu drwy ein gwasanaeth casglu, gwnaethom lwyddo i'w chasglu mewn 383,700 o achosion. (Ar hyn o bryd mae 153,000 o achosion yn rhai ble nad oes cydweithrediad).


C. Pa ganlyniadau mae camau gorfodi wedi'u cael i gymharu â'r flwyddyn ddiwethaf?

A.Mewn cymhariaeth â'r flwyddyn ariannol flaenorol, mae'r cyfanswm o brosesau gorfodi a weithredwyd wedi lleihau 3.7% yn ystod mis Mai 2008 i fis Ebrill 2009. (Tua 114,235 o brosesau gorfodi hyd at fis Ebrill 2009, i'w gymharu â 118,610 hyd at fis Ebrill 2008.)

Rhwng mis Mai 2008 a mis Ebrill 2009 (ffigyrau wedi'u talgrynnu i'r pump agosaf):

  • Dyfarnwyd 21,645 o orchmynion atebolrwydd yng Nghymru a Lloegr a 2,205 yn Yr Alban. Dyma ble mae llys yn cydnabod yn gyfreithiol bod dyled i'w thalu ac mae hyn yn ein galluogi i gymryd camau pellach. (I fyny o 18,370 yng Nghymru a Lloegr a 1,560 yn Yr Alban rhwng mis Mai 2007 a mis Ebrill 2008.)
  • Carcharwyd 50 o bobl (gostyngiad ar y cyfnod rhwng Mai 2007 ac Ebrill 2008.)
  • Gwnaed 665 dedfryd ataliedig i'r carchar
  • Dyfarnwyd 360 o Ddyfarniadau Llys Sirol (CCJ)
  • Dyfarnwyd 2,560 o Orchmynion Dyled Trydydd Parti yng Nghymru a Lloegr a 905 Restiad yn Yr Alban
  • Ar gyfer y flwyddyn ariannol 07/08 rydym wedi casglu £269miliwn drwy gymryd yr arian yn uniongyrchol o enillion y rhiant.


C. Ydy'r Asiantaeth Cynnal Plant yn gweithio gyda beilïaid ag Asiantaethau Casglu Dyled?

A. Ers diwedd yr haf yn 2006 mae'r Asiantaeth Cynnal Plant hefyd wedi bod yn gweithio gydag asiantaethau casglu dyled preifat er mwyn adennill hen ddyledion. Mae defnyddio a bygwth defnyddio asiantaethau casglu dyled wedi arwain at gael £24 miliwn mewn cynhaliaeth heb ei thalu.

Cyn ein bod yn cyfeirio achosion at yr asiantaethau casglu dyled byddwn yn anfon llythyrau rhybudd saith diwrnod at ein cleientiaid i roi gwybod iddynt beth sy'n digwydd ac i ofyn iddynt dalu. O ganlyniad i'r llythyrau hyn casglwyd £11.8 miliwn yn ychwanegol gennym erbyn diwedd mis Mehefin 2009.


C. Beth ydych yn ei wneud i ddod o hyd i rieni sy'n osgoi'r CSA yn fwriadol?

A. Yn anffodus mae rhai rhieni sy'n mynd allan o'u ffordd i osgoi talu'r hyn sy'n ddyledus ar gyfer eu plant.

Mae'r Asiantaeth yn gwneud mwy o ddefnydd o wybodaeth gan Gyllid a Thollau EM ac asiantaethau cyfeirio credyd er mwyn olrhain y rhieni hyn. Mewn achosion arbennig o anodd, rydym nawr yn cyfeirio achosion at asiantaethau olrhain arbennig yn y sector preifat.

Ers mis Hydref 2006, mae 8,000 o weithwyr y CSA wedi gallu defnyddio data gan asiantaethau cyfeirio credyd i'w helpu i olrhain rhieni dibreswyl nad oeddem wedi gallu dod o hyd iddynt o'r blaen drwy ffyrdd eraill.


Q. Beth ydych yn ei wneud i stopio pobl rhag rhoi gwybodaeth ffug, fel dweud celwydd am eu henw neu gyfeiriad?

A. Mae'n drosedd i berson beidio â darparu gwybodaeth neu ddarparu gwybodaeth y gwyddant sy'n ffug, pan ofynnwn amdani. Os bydd rhywun yn methu â rhoi'r wybodaeth sydd ei hangen arnom i ni, neu os byddant yn rhoi gwybodaeth y gwyddant sy'n ffug, gallant gael dirwy o hyd at £1,000.

Os na fydd rhiant dibreswyl yn ein darparu gyda'r wybodaeth sydd ei hangen arnom gallwn gymhwyso 'penderfyniad cynhaliaeth ddiffyg' wedi'i osod ar lefel sy'n uwch na'r cyfrifiad cynhaliaeth wythnosol ar gyfartaledd. Byddwn yn ceisio gorfodi talu'r atebolrwydd hwn hyd nes bydd y rhiant dibreswyl yn darparu'r wybodaeth angenrheidiol ac y gellir gwneud cyfrifiad mwy cywir.


C. Beth mae'r CSA yn ei wneud yn fewnol er mwyn gwella pethau?

A. Rydym yn cynyddu rhai camau gorfodi penodol fel rhan o'n Cynllun Gwella Gweithredol. Mae'r ffigyrau ar gyfer y nifer o Orchmynion Atebolrwydd a ddyfarnwyd yn y 12 mis hyd at Ebrill 2009 wedi dangos cynnydd o 715 ar y flwyddyn ariannol flaenorol.


C. Ydy'r CSA yn mynnu bod ôl-ddyledion yn cael eu 'talu ar unwaith'?

A. Mae'r camau rydym yn eu cymryd yn ddibynnol ar bob achos unigol a bydd rhieni yn cael eu hysbysu o unrhyw gamau a gymerir. Gofynnir iddynt gysylltu â ni cyn gynted â phosibl i drafod eu sefyllfa a sut y gallant dalu'r arian yn ôl.

Efallai y gallwn ystyried amgylchiadau'r rhiant dibreswyl ac y gallwn gynnig nifer o opsiynau talu. Os gwrthodir y rhain neu os nad yw'r rhiant yn cadw at y trefniadau cytunedig byddwn yn cymryd camau pellach.