Trosglwyddo achosion yr hen gynllun
- Pryd cyflwynwyd y cynllun cynhaliaeth plant presennol?
- Faint o achosion sydd ar bob cynllun cynhaliaeth plant?
- All cleientiaid ofyn am i'w hachos gael ei symud i'r cynllun cynhaliaeth presennol?
- A fydd rhiant dibreswyl yn talu llai os yw eu hachos ar y cynllun presennol?
- Sut bydd rhieni'n gwybod os bydd eu hachos yn newid?
- Os bydd achos yn newid, a fydd rhieni yn gorfod llenwi'r holl ffurflenni eto?
- Faint o achosion sydd wedi cael eu trosglwyddo o'r hen gynllun i'r cynllun presennol?
- A fydd achosion yr hen gynllun yn parhau i symud i’r cynllun presennol pan fydd y Comisiwn Trefnu a Gorfodi Cynhaliaeth Plant yn cymryd drosodd y cyfrifoldeb am y CSA?
- Pa incwm fydd yn cael ei ddefnyddio i weithio allan cynhaliaeth plant o dan y cynllun newydd?
C. Pryd cyflwynwyd y cynllun cynhaliaeth plant presennol?
A. Cyflwynwyd y system cynhaliaeth plant presennol ar 3 Mawrth 2003.
C. Faint o achosion sydd ar bob cynllun cynhaliaeth plant?
A. Yn Rhagfyr 2009 roedd 1.3 miliwn o achosion cynhaliaeth plant, ac roedd 687,400 ohonynt ar y cynllun presennol a 369,600 ar yr hen gynllun.
Ym mis Mehefin 2008 roedd 697,400 o achosion ar y cynllun presennol a 655,600 ar yr hen gynllun.
C. All cleientiaid ofyn am i'w hachos gael ei symud i'r cynllun cynhaliaeth newydd?
A. Na. Nid yw'n bosibl gofyn am gael trosglwyddo achos i'r cynllun newydd, yr unig reswm pryd gall bobl drosglwyddo yw os bydd eu hachos yn dod ynghlwm a chais a wnaed ar ôl 3 Mawrth 2003.
Er enghraifft, byddwn yn symud yr achos cynhaliaeth plant cyntaf o’r hen gynllun i’r cynllun presennol fel bod y ddau achos wedi eu gosod ar yr un cynllun os:
- mae rhiant â gofal eisoes yn cael cynhaliaeth plant am un plentyn,
- maent yn gwneud cais ar gyfer plentyn arall ar neu ar ôl 3 Mawrth 2003, ac
- mae gan y plentyn hwnnw riant dibreswyl gwahanol i’r plentyn mae’r rhiant â gofal eisoes yn cael cynhaliaeth ar ei gyfer.
Enghraifft arall pryd byddwn yn symud achos cynhaliaeth plant i’r cynllun cyfredol yw:
- os yw rhiant dibreswyl yn talu cynhaliaeth plant o dan yr hen gynllun
- mae ganddynt blentyn gyda pherson arall, a
- bod y person hwnnw yn gwneud cais am gynhaliaeth plant drwom ni ar neu ar ôl 3 Mawrth 2003.
Weithiau gellir symud achos i’r cynllun presennol os bydd y rhiant â gofal yn gofyn i ni gau eu hachos, a’u bod wedyn yn gwneud cais newydd am gynhaliaeth plant o leiaf 13 wythnos ar ôl iddynt ofyn i ni gau eu hachos.
C. A fydd rhiant dibreswyl yn talu llai os yw eu hachos ar y cynllun presennol?
A.Mae'r swm o gynhaliaeth plant sy'n rhaid i riant dibreswyl ei dalu yn ddibynnol ar eu hamgylchiadau unigol. Yn y rhan fwyaf o achosion, bydd swm y gynhaliaeth sy’n rhaid ei dalu yn newid felly gall y taliadau fod yn fwy neu'n llai.
C. Sut bydd rhieni'n gwybod os bydd eu hachos yn newid?
A. Bydden yn anfon llythyr at rieni i ddweud wrthynt am unrhyw newid fydd yn effeithio ar eu hachos.
C. Os bydd achos yn newid, a fydd rhieni yn gorfod llenwi'r holl ffurflenni eto?
A. Ni fyddwn yn gofyn am fwy o wybodaeth os na fydd rhaid i ni, a byddwn yn ceisio dim ond defnyddio’r wybodaeth sydd gennym yn barod er mwyn gweithio allan cynhaliaeth plant.
Ond, efallai bod amgylchiadau’r rhiant wedi newid ers y tro diwethaf i ni weithio allan cynhaliaeth plant ar eu hachos, fel newid mewn cyflog, neu gael plant eraill yn byw gyda nhw. Felly, os bydd amgylchiadau’r naill riant wedi newid ers y tro diwethaf i ni weithio allan faint o gynhaliaeth plant ddylai gael ei dalu, yna dylent ddweud wrthym fel y gallwn seilio’r cyfrifiad newydd ar y wybodaeth ddiweddaraf bosibl.
C. Faint o achosion sydd wedi cael eu trosglwyddo o'r hen gynllun i'r cynllun presennol?
A. Ers mis Mawrth 2003 mae tua 86,600 o achosion wedi cael eu trosglwyddo o'r hen gynllun i'r cynllun presennol.
C. A fydd achosion yr hen gynllun yn parhau i symud i’r cynllun presennol pan fydd y Comisiwn Trefnu a Gorfodi Cynhaliaeth Plant yn cymryd drosodd y cyfrifoldeb am y CSA?
A.Byddant. Bydd y CSA yn parhau i symud achosion i’r cynllun presennol os ydynt yn dod ynghlwm â chais newydd am gynhaliaeth plant pan fydd y Comisiwn Trefnu a Gorfodi Cynhaliaeth Plant yn cymryd drosodd y cyfrifoldeb o reoli’r CSA.
Ond, o Hydref 2008 ymlaen ni fydd bellach yn ofynnol i rieni â gofal sydd ar fudd-daliadau orfod defnyddio’r CSA. Byddant yn gallu ystyried eu dewisiadau drwy ddefnyddio gwasanaeth gwybodaeth a chymorth newydd, sef Opsiynau Cynhaliaeth Plant.
Disgwylir y bydd y system newydd ar gyfer cyfrifo cynhaliaeth plant yn cael ei gyflwyno gan y Comisiwn Trefnu a Gorfodi Cynhaliaeth Plant yn 2011. Yna bydd pob un o gleientiaid y CSA yn cael eu gwahodd i wneud cais i’r cynllun newydd neu i wneud trefniant preifat. Ar hyn o bryd, bwriedir i’r broses hon gymryd tair blynedd.
C. Pa incwm fydd yn cael ei ddefnyddio i weithio allan cynhaliaeth plant o dan y cynllun newydd?
A. Yn y dyfodol bydd y broses asesu cynhaliaeth yn cael ei symleiddio'n arw er mwyn creu proses cyflymach, cywirach a mwy eglur. Bwriedir defnyddio'r wybodaeth ar gyfer y flwyddyn dreth ddiweddaraf fel sail cyfrifo atebolrwydd cynhaliaeth plant, oni bai fod y wybodaeth gyfredol o leiaf 25 y cant yn wahanol. Byddwn yn cael y wybodaeth hon yn uniongyrchol gan Gyllid a Thollau EM a byddwn yn lleihau'r amser a gymerir i wneud cyfrifiad cynhaliaeth.

