Hafan › Amdanom ni › Newyddion a Chyfryngau › Cwestiwn ac ateb › Rhieni sydd ar fudd-daliadau
Cwestiwn ac ateb
Rhieni sydd ar fudd-daliadau
- Ydy rhieni sy'n hawlio budd-daliadau yn cael arian gan y CSA?
- Ydy'r CSA yn cadw unrhyw arian a delir i rieni sydd ar fudd-daliadau?
- Faint o rieni sydd ag achosion gyda'r CSA sy'n cael budd-daliadau?
- Ydy rhieni sydd ag achosion ar yr hen gynllun yn colli allan ar y Premiwm Cynhaliaeth Plant?
C. Ydy rhieni sy'n hawlio budd-daliadau yn cael arian gan y CSA?
A.Bydd yr holl gynhaliaeth plant a gesglir gan y CSA yn cael ei dalu yn llawn i'r rhiant â gofal. Mae'n rhaid i rieni â gofal sy'n cael budd-daliadau yn ymwneud ag incwm ddatgan unrhyw gynhaliaeth a gânt i'r Ganolfan Byd Gwaith. Ers 27 Hydref 2008 ymlaen, mae gan bob rhiant â gofal sy'n cael budd-daliadau yn ymwneud ag incwm yr hawl i gadw hyd at £20 yr wythnos o gynhaliaeth plant yn ychwanegol i'w budd-daliadau.
C. Ydy'r CSA yn cadw unrhyw arian a delir i rieni sydd ar fudd-daliadau?
A. Bydd yr holl gynhaliaeth plant a gesglir gan y CSA yn cael ei dalu yn llawn i'r rhiant â gofal. Mae'n rhaid i rieni â gofal sy'n cael budd-daliadau yn ymwneud ag incwm ddatgan unrhyw gynhaliaeth a gânt i'r Ganolfan Byd Gwaith. Ers 27 Hydref 2008 ymlaen, mae gan bob rhiant â gofal sy'n cael budd-daliadau yn ymwneud ag incwm yr hawl i gadw hyd at £20 yr wythnos o gynhaliaeth plant yn ychwanegol i'w budd-daliadau.
C. Faint o rieni sydd ag achosion gyda'r CSA sy'n cael budd-daliadau?
A. Ym mis Tachwedd 2008, roedd 597,300 o rieni â gofal neu rhieni dibreswyl yn cael budd-dal. Allan o'r rhain, yn 152,700 o achosion, roedd y rhiant â gofal a'r rhiant dibreswyl ar fudd-daliadau, ac mewn 274,900 o achosion dim ond y rhiant â gofal oedd ar fudd-dal.
Mae rhiant â gofal yn cael eu hystyried i fod ar fudd-dal os ydynt hwy neu eu partner yn hawlio budd-daliadau yn ymwneud ag incwm.
Mae rhiant dibreswyl yn cael eu hystyried i fod ar fudd-dal os ydynt hwy neu eu partner yn cael Cymhorthdal Incwm, Lwfans Cyflogaeth a Chymorth, neu Lwfans Ceisio Gwaith neu Gredyd Pensiwn sy'n seiliedig ar incwm.
Fodd bynnag, os caiff y gynhaliaeth plant ei gweithio allan drwy ddefnyddio rheolau'r hen gynllun a bod partner y rhiant dibreswyl yn hawlio un o'r budd-daliadau hyn, ni fydd y rhiant dibreswyl yn cael eu hystyried i fod ar fudd-dal.
Q. Ydy rhieni sydd ag achosion ar yr hen gynllun yn colli allan ar y Premiwm Cynhaliaeth Plant?
A.Ers 27 Hydref 2008, mae'r diystyraeth o £20 wedi cael ei ymestyn i gynnwys pob achos ar yr hen gynllun.

