Casglu a thalu cynhaliaeth plant
- Faint o arian gasglodd y CSA yn y flwyddyn ddiwethaf?
- At faint o blant aeth hyn?
- Ar gyfartaledd, beth yw'r swm a gesglir bob mis gan y CSA?
- Faint mae'r CSA yn ei gasglu drwy gymryd arian yn uniongyrchol o enillion rhieni?
- Sut gall rhieni dalu eu cynhaliaeth plant?
- Oes rhaid i rieni fynd drwy'r CSA?
- Beth yw'r ffordd fwyaf cyffredin o dalu?
C. Faint o arian gasglodd y CSA yn y flwyddyn ddiwethaf?
A.Hyd at ddiwedd Rhagfyr 2008 casglwyd/trefnwyd £1,136 miliwn gennym. Mae hwn yn gynnydd o £85 miliwn ar y flwyddyn flaenorol, pryd y casglwyd £1,051 miliwn gennym.
Talwyd £370 miliwn yn ychwanegol trwy Gynhaliaeth Uniongyrchol (ble proseswyd cais am gynhaliaeth plant a bod y rhiant dibreswyl yn talu'n uniongyrchol i'r rhiant â gofal.)
C. At faint o blant aeth hyn?
A.793,900 o blant hyd at Mehefin 2009.
C. Ar gyfartaledd, beth yw'r swm a gesglir bob mis gan y CSA?
A.£94.7 miliwn. Mae hyn yn gynnydd o tua 8% ers mis Gorffennaf 2007 i fis Mehefin 2008, pryd y casglwyd £87.6 miliwn ar gyfartaledd.
C. Faint mae'r CSA yn ei gasglu drwy gymryd arian yn uniongyrchol o enillion rhieni?
A.Yn ystod y flwyddyn ariannol 2007/08 casglwyd £269 miliwn gennym.
C. Sut gall rhieni dalu eu cynhaliaeth plant?
A.Ar gyfer taliadau ble mae cynhaliaeth plant yn cael ei threfnu drwy'r CSA, gall y rhieni gytuno naill ai:
- bod y rhiant dibreswyl yn talu'r rhiant â gofal yn uniongyrchol, neu
- bod y rhiant dibreswyl yn gwneud eu taliadau i'r CSA.
Os bydd rhieni yn cytuno i wneud trefniant eu hunan gallant ddewis sut bydd y rhiant dibreswyl yn talu'r gynhaliaeth plant. Y ffordd gyflymaf a hawsaf yw i'r rhiant dibreswyl sefydlu archeb sefydlog i dalu'r gynhaliaeth plant o'u banc, cymdeithas adeiladu neu gyfrif Swyddfa Post yn uniongyrchol i gyfrif y rhiant â gofal.
Os ydych am wneud trefniadau cynhaliaeth plant yn breifat, yn hytrach na thrwy'r CSA, cysylltwch ag Opsiynau Cynhaliaeth Plant am wybodaeth a chefnogaeth ddiduedd. Mae eu gwefan yn www.cmoptions.org neu gallwch eu ffonio ar 0800 988 0988 neu 0800 988 9888 (ffôn testun).
Neu, os bydd y rhiant dibreswyl yn talu eu cynhaliaeth plant rheolaidd trwom ni, gallant dalu drwy:
- debyd uniongyrchol (sydd yn ffordd gyflym a chyfleus i wneud taliad)
- Gorchymyn Didynnu o Enillion i gymryd arian yn uniongyrchol o'u cyflog.
Os ydynt yn cael budd-daliadau, Pensiwn y Wladwriaeth neu Bensiwn Rhyfel, fel arfer byddwn yn cymryd cynhaliaeth yn uniongyrchol o'u budd-dal neu eu pensiwn. Os oes gan y rhiant dibreswyl bartner ac maent yn cael Cymhorthdal Incwm, Lwfans Ceisio Gwaith yn seiliedig ar incwm, neu Gredyd Pensiwn, didynnir y gynhaliaeth plant cyn i'r budd-dal gael ei dalu i'r partner. Golyga hyn y bydd y rhiant dibreswyl neu eu partner yn cael swm llai o fudd-dal.
Mae mwy o wybodaeth am hyn yn ein taflen " Sut gallaf dalu cynhaliaeth plant?" [PDF 205KB] ![]()
C. Oes rhaid i rieni fynd drwy'r CSA?
A.O 27 Hydref 2008, mae gan bob rhiant â gofal y dewis i wneud eu trefniadau cynhaliaeth plant trwy'r CSA neu yn breifat.
Mae mwy o wybodaeth am hyn yn ein taflen " Beth yw cynhaliaeth plant a sut mae'n effeithio arnaf fi?" [PDF 246Kb] ![]()
Q. Beth yw'r ffordd fwyaf cyffredin o dalu?
| Dull | Canran o achosion |
|---|---|
| Gorchymyn/Cais Didynnu o enillion | 20 |
| Taliad personol (er enghraifft siec, credyd banc giro neu Transcash) | 16 |
| Talu'r rhiant â gofal yn uniongyrchol | 20 |
| Archeb sefydlog | 14 |
| Didyniad o fudd-dal | 17 |
| Debyd uniongyrchol | 9 |
Gwybodaeth berthnasol
- Darllenwch ein taflen "Sut gallaf dalu cynhaliaeth plant?" [941Kb]
- Darllenwch ein taflen "Beth yw cynhaliaeth plant a sut mae'n effeithio arnaf fi?" [941Kb]

