Pobl



C. Faint o bobl a gyflogir gan y CSA?

A.Erbyn diwedd mis Rhagfyr 2009, roedd y CSA yn cyflogi 8,900 o bobl, sydd i lawr o 9,500 o bobl flwyddyn yn ôl.


C. Ar gyfartaledd, faint o ddyddiau a gollir oherwydd salwch?

A.Yn y 12 mis hyd at fis Hydref 2008 roedd absenoldeb oherwydd salwch yn 11.1 diwrnod ar gyfartaledd.


C. Mae llawer o rieni yn dweud na allant gael drwodd i'r CSA dros y ffôn - beth ydych yn ei wneud am hyn?

A. Rydym wedi gweld gwelliant sylweddol a pharhaol ers 2004/05, ac rydym erbyn hyn yn rhagori'n hawdd ar safonau'r Asiantaeth Cynnal Plant o ran amseroedd aros a'r ganran o alwadau a atebir.

Ar ddiwedd mis Mehefin 2009 dangosodd y ffigyrau perfformiad ein bod wedi ateb 99% o'r galwadau a wnaed i'n gweithwyr. Ar gyfartaledd, yr amser aros yw 8 eiliad (achosion y cynllun presennol) neu 6 eiliad (achosion yr hen gynllun).