Rhannu gofal
- Ydy'r CSA yn ystyried adegau pan fydd y plant yn aros gyda'r rhiant nad ydynt yn byw gyda hwy?
- Beth fydd yn digwydd os bydd y plentyn yn treulio amser cyfartal gyda'r ddau riant?
C. Ydy'r CSA yn ystyried adegau pan fydd y plant yn aros gyda'r rhiant nad ydynt yn byw gyda hwy?
A.Ydy. Mae'r CSA yn ystyried 'rhannu gofal' wrth gyfrifo cynhaliaeth plant. Byddwn yn gostwng y swm yn dibynnu ar y nifer o nosweithiau mae'r plentyn yn aros gyda phob rhiant.
Ar gyfer achosion ar y cynllun cynhaliaeth presennol, byddwn yn gostwng swm y gynhaliaeth un rhan o saith ar gyfer bob noson o'r wythnos y bydd y plentyn yn aros gyda'r rhiant dibreswyl.
- Mae ein taflen Sut caiff cynhaliaeth plant ei gweithio allan? [PDF 232Kb]
yn rhoi mwy o wybodaeth am rannu gofal o dan y cynllun presennol. - Mae ein taflen Eich asesiad cynhaliaeth plant a help i gwrdd ag amgylchiadau eithriadol [PDF 76KB]
yn rhoi mwy o wybodaeth am rannu gofal o dan yr hen gynllun.
C. Beth fydd yn digwydd os bydd y plentyn yn treulio amser cyfartal gyda'r ddau riant?
A. Mewn achosion ar y cynllun presennol, os bydd y plentyn yn treulio eu hamser yn gyfartal rhwng y ddau riant (hynny yw eu bod yn treulio 175 noson gyda'r ddau riant) byddwn:
- yn haneru swm y gynhaliaeth plant wythnosol, a
- lleihau'r swm o gynhaliaeth plant eto gan £7 arall yr wythnos am bob plentyn (Mae'r swm o £7 wedi'i osod yn y gyfraith).
Yn yr achosion hyn byddwn yn annog rhieni i ddod i gytundeb ariannol eu hunain yn ogystal â'n hasesiad ni.
Mae mwy o wybodaeth am hyn yn ein taflen Sut caiff cynhaliaeth plant ei gweithio allan [PDF 232KB]
.
Gydag achosion yr hen gynllun rhaid i'r plentyn dreulio o leiaf dwy noson yr wythnos (dros y 12 mis diwethaf, ar gyfartaledd) gyda'r rhiant dibreswyl cyn byddwn yn lleihau'r swm o gynhaliaeth plant.
Gwybodaeth berthnasol
Darllenwch ein taflen Eich asesiad cynhaliaeth plant a help i gwrdd ag amgylchiadau eithriadol
![]()
Darllenwch ein taflen Sut caiff cynhaliaeth plant ei gweithio allan [PDF 232KB]
.
![]()

