HafanAmdanomBeth mae'r CSA yn ei wneud › Sut byddwn yn casglu a defnyddio gwybodaeth

Sut byddwn yn casglu a defnyddio gwybodaeth

Pam ein bod yn casglu gwybodaeth

Rydym yn casglu gwybodaeth o sawl ffynhonnell er mwyn i ni allu delio gyda chais am gynhaliaeth plant. Mae'r wybodaeth hon yn ein helpu i:

  • olrhain rhieni dibreswyl
  • gweithio allan faint ddylai'r rhiant dibreswyl ei dalu
  • gwneud yn siŵr bod y rhiant dibreswyl yn talu'r swm cywir ar yr adeg gywir.

Gan bwy fyddwn yn cael gwybodaeth?

Pan fyddwn eisiau gweithio allan faint o gynhaliaeth plant ddylai rhiant dibreswyl ei dalu, byddwn bob amser yn gofyn iddynt hwy a'r rhiant â gofal am y wybodaeth sydd ei hangen arnom yn gyntaf. Ond os na fydd rhieni yn rhoi'r wybodaeth hon i ni, mae'r gyfraith yn caniatáu i ni ofyn i bobl neu gyrff eraill am y wybodaeth. Mae'r bobl a'r cyrff hyn yn cynnwys:

  • cyflogwyr y rhiant dibreswyl, eu cyfrifwyr, neu gwmnïau neu bartneriaethau maent yn rhoi gwasanaethau iddynt, cyrff llywodraethol fel y Ganolfan Byd Gwaith,
  • Y Gwasanaeth Pensiynau, Cyllid a Thollau EM a'r DVLA (yr Asiantaeth Trwyddedu Gyrwyr a Cherbydau)
  • gwasanaethau carchardai a chynghorau lleol
  • cyrff sydd gan wybodaeth am hanes ariannol y rhiant dibreswyl, fel banciau neu gymdeithasau adeiladu, asiantaethau cyfeirio credyd a chyflenwyr nwy a thrydan

Nid oes rhaid i ni gael caniatâd y rhiant dibreswyl na'r rhiant â gofal i gysylltu â'r bobl neu'r cyrff hyn.

Gyda phwy gawn ni rannu'r wybodaeth?

Rydym yn cymryd diogelu gwybodaeth bersonol yn ddifrifol iawn. Y rhan fwyaf o'r amser, ni fyddwn yn rhoi cyfeiriad a rhif ffôn rhiant i unrhyw un. Ond, os bydd llys yn rhoi gorchymyn i ni ryddhau cyfeiriad, mae'n rhaid i ni wneud hynny. Os bydd y gyfraith yn caniatáu, gallwn hefyd roi gwybodaeth i rai cyrff eraill, yn cynnwys:

  • cyrff llywodraethol eraill fel y Ganolfan Byd Gwaith a Chyllid a Thollau EM
  • awdurdodau lleol (at ddibenion Budd-dal Tai neu Fudd-dal Treth Cyngor)
  • llys neu dribiwnlys (mewn perthynas â chynhaliaeth plant)
  • asiantaethau casglu dyled a chyrff eraill sy'n ein helpu i gasglu cynhaliaeth plant

Gallwn hefyd basio gwybodaeth amdanoch ymlaen os credwn y bydd yn helpu i atal neu ganfod trosedd.

A allaf gael gafael ar fy ngwybodaeth bersonol?

Mae'r Ddeddf Diogelu Data 1998 yn eich galluogi i ofyn am gael gweld pa wybodaeth bersonol sydd gennym amdanoch ar ein cofnodion cyfrifiadurol a rhai o'n cofnodion papur.

Mae dwy ffordd o gael gwybodaeth, yn dibynnu ar beth rydych am gael gwybod.

  1. Gallwn roi'r wybodaeth ganlynol i chi am ddim:
    • Sut cyfrifwyd eich cynhaliaeth plant.
    • Copi o lythyr penodol a anfonwyd atoch gennym ni.
    • Diweddariad o'ch achos.

    Ffoniwch ni ar y rhif ar ben y llythyr diwethaf a anfonwyd atoch os ydych am gael y wybodaeth hon.

  2. Ar gyfer bob gwybodaeth arall, bydd rhaid i chi anfon cais ysgrfifennedig a byddwn yn codi ffi o £10 arnoch. Mae'n rhaid i'ch cais gynnwys:
    • eich enw llawn
    • eich dyddiad geni
    • eich cyfeiriad (a rhif ffôn os oes gennych un)
    • rhif cyfeirnod CSA eich achos, ac
    • eich rhif Yswiriant Gwladol.

Efallai byddwch am roi manylion eraill - er enghraifft, pa swyddfa CSA rydych yn delio â hi - er mwyn ein helpu i ddod o hyd i'r wybodaeth gywir yn gyflymach.

Mae'r ffi o £10 yn ein helpu i dalu am y gwaith a chaniateir hyn gan y Ddeddf Diogelu Data.

Dylech anfon eich cais ysgrifennedig at:

Data Protection Unit
Banking & Payment Assignment Service
CSA
Room BP6102
Benton Park View
Longbenton
Newcastle upon Tyne
NE98 1YX

Pan gawn eich llythyr, byddwn yn cysylltu â chi er mwyn cymryd taliad ar gyfer y ffi £10 gyda cherdyn credyd neu gerdyn debyd.

Os na allwch dalu gyda cherdyn neu os nad ydych am i ni gysylltu gyda chi dros y ffôn, anfonwch archeb post am £10, yn daladwy i'r CSA, gyda'ch cais. Yn anffodus, ni allwn dderbyn sieciau.

Pan gawn eich taliad byddwn yn prosesu eich cais. Gall hyn gymryd hyd at 40 diwrnod.

top y dudalen