Newyddion

Newyddion a Archifwyd yn 2007

Bellach mae 674,000 o blant yn elwa o gynhaliaeth plant - cynnydd o fwy na 32,000 o blant ers mis Mawrth 2007.
24/10/2007
Mae ffigyrau a gyhoeddwyd heddiw gan y Swyddfa Ystadegau Gwladol hefyd yn dangos bod y CSA yn casglu ac yn trefnu mwy o daliadau cynhaliaeth plant, gyda £475 miliwn wedi'i gasglu ers Mawrth 2007.
Mae'r CSA yn ehangu'r ymgyrch i gymryd camau mwy llym yn erbyn 62,000 o rieni sy'n gwrthod cymryd cyfrifoldeb am eu plant
24/09/2007
Mae'r CSA wedi ymestyn yr ymgyrch i dargedu 62,000 o rieni sydd â chyfanswm o bron i £200 miliwn yn ddyledus i'w plant mewn cynhaliaeth plant. Cynhaliwyd yr ymgyrch yn barod yn Lerpwl a Glasgow ar ôl cychwyn yr ymgyrch yn Birmingham, Manceinion, a Nottingham ym mis Awst ac yng Nghaerdydd wythnos ddiwethaf.
Cynnig terfynol gan yr Arglwydd McKenzie i 4,500 o rieni yn ardal Caerdydd.
21/09/2007
Heddiw, lansiwyd ymgyrch yng Nghaerdydd gan Yr Arglwydd McKenzie, Gweinidog Cynnal Plant, i dargedu 4,500 o rieni sy'n gwrthod cymryd cyfrifoldeb dros eu plant.
Mae'r CSA yn cymryd camau llym yn erbyn 62,000 o rieni sy'n gwrthod cymryd cyfrifoldeb am eu plant
28/08/2007
Mae'r CSA wedi lansio ymgyrch sy'n targedu 62,000 o rieni sydd â chyfanswm o bron i £200 miliwn yn ddyledus i'w plant. Cynhaliwyd yr ymgyrch yn Birmingham, Manceinion, a Nottingham yn barod. Bydd Lerpwl, Glasgow a Chaerdydd yn dilyn yn y mis nesaf.
Perfformiad da ar y cyfan ar ddechrau blwyddyn dau o'r Cynllun Gwella Gweithredol
25/07/2007
Cyhoeddwyd Ystadegau Cryno Chwarterol(QSS) ar berfformiad yr Asiantaeth Cynnal Plant heddiw. Mae'r ystadegau hyn yn dangos bod yr Asiantaeth wedi cael dechrau sefydlog i'r flwyddyn 2007/08, gan wella mewn tri allan o bedwar o dargedau allweddol Yr Ysgrifennydd Gwladol ar gyfer 2007/08, ac yn rhagori ar ei targed trwygyrch o 12 wythnos ar gyfer 2006/07.
Llywodraeth yn galw am i'r ddau riant gael eu henwi ar gofrestriadau geni
26/06/2007
Heddiw datganodd y Llywodraeth eu cynlluniau i'w gwneud yn ofynnol i rieni di-briod gofrestru genedigaeth eu plant gyda'u gilydd. Mae'r Papur Gwyrdd Cofrestriadau geni ar y cyd: hyrwyddo cyfrifoldebau rhiant, yn cynnig y bydd tadau di-briod efallai'n gwynebu cael eu cosbi am iddynt wrthod gael eu henwi ar dystysgrif geni eu plentyn.
Yr Arglwydd McKenzie yn rhoi cynnig terfynol i fwy na 18,000 o rieni yn Newcastle.
21/05/2007
Heddiw, roedd yr Arglwydd McKenzie, Gweinidog Cynhaliaeth Plant, yn Newcastle i lansio ymgyrch sy'n targedu mwy na 18,000 o rieni o'r ardal sy'n gwrthod cymryd cyfrifoldeb am eu plant.
Mae DWP yn cyhoeddi ymateb i ymgynghoriad ar Bapur Gwyn Cynhaliaeth Plant.
15/05/2007
Mae'r Adran Gwaith a Phensiynau heddiw wedi cyhoeddi ei ymateb i'r ymgynghoriad ar Bapur Gwyn Cynhaliaeth Plant, ‘System Newydd o Gynhaliaeth Plant’, a gyhoedwyd blwyddyn diwethaf.
Ymgyrch i gael rhieni yn Sheffield i dalu beth sy'n ddyledus ganddynt.
06/04/2007
Heddiw, lansiwyd ymgyrch yn Sheffield sy'n dangos i'r 17,000 o rieni o'r ardal sy'n gwrthod cymryd cyfrifoldeb ariannol am eu plant, beth yw'r canlyniadau o beidioâthalu cynhaliaeth plant.
196,400 o resymau i dalu eich cynhaliaeth plant.
27/03/2007
Rydym yn cymryd camau cryfach a chyflymach yn erbyn rhieni sy'n peidio â thalu cynhaliaeth plant. Hefyd, rydym yn edrych i mewn i filoedd o achosion ble mae rhieni wedi osgoi talu'r hyn sy'n ddyledus ganddynt am eu plant dros lawer o flynyddoedd.
Adroddiad blynyddol yr Archwilydd Achosion Annibynnol.
27/03/2007
Mae'r Archwilydd Achosion Annibynnol, Jodie Berg, wedi cyhoeddedi ei hadroddiad blynyddol diweddaraf am yr Asiantaeth Cynnal Plant.

dop y dudalen


Y straeon diweddaraf