Uwchraddio system gyfrifiadurol y CSA
12/09/2008
Er mwyn ein helpu i wella'r gwasanaeth a gynigwn, byddwn yn uwchraddio ein system gyfrifiadurol rhwng 18 a 21 Medi. Yn ystod y cyfnod hwn, bydd y gwasanaeth a gynigwn wedi ei gyfyngu i roi cyngor cyffredinol yn unig am gynhaliaeth plant. Ni fyddwn yn gallu ateb cwestiynau penodol am eich achos.
Rydym wedi gwneud pob ymdrech i leihau'r amhariad i'n cleientiaid, ond mae'n rhaid lleihau'r gwasanaeth er mwyn cynnal y gwaith uwchraddio. Ymddiheurwn am unrhyw anghyfleuster mae hyn yn ei achosi.
Nodwch y dylai pob rhiant dibreswyl barhau i wneud eu taliadau cynhaliaeth plant fel arfer.
- Archif Newyddion: 2007

