Newyddion

Cyhoeddi Stephen Geraghty fel Comisiynydd cyntaf y Comisiwn Cynhaliaeth Plant a Gorfodaeth (C-MEC)

09/01/2008
Heddiw cyhoeddodd yr Ysgrifennydd Gwladol dros Waith a Phensiynau, Peter Hain, bod Stephen Geraghty wedi cael ei benodi yn Ddarpar Gomisiynydd i'r Comisiwn Cynhaliaeth Plant a Gorfodaeth newydd.

Daw Stephen Geraghty â gallu a phrofiad eang o'r sector preifat a'i swydd bresennol fel Prif Weithredwr yr Asiantaeth Cynnal Plant (CSA), sydd wedi gweld gwelliannau sylweddol o dan ei arweinyddiaeth.

Ers cymryd yr awenau drosodd ar gyfer y CSA yn 2005 mae eisoes wedi rhoi llawer o welliannau ar waith sydd wedi arwain at gynnydd o 129,000 i'r nifer o blant sy'n derbyn cynhaliaeth neu sydd ag asesiad cynhaliaeth mewn grym. Mae'r nifer hwn bellach yn 674,000. Mae'r CSA hefyd ar y llwybr iawn i gwrdd a'u targed o gasglu £970 miliwn o gynhaliaeth erbyn Mawrth 2008.

Wedi arwain cryn newid yn y CSA prif her Stephen Geraghty yn ystod y cyfnod trosglwyddo fydd i wireddu potensial y ddeddfwriaeth newydd er mwyn sicrhau mwy o arian i fwy o blant a gwneud yn siŵr y gwneir y gorau o'r manteision a ddaw o statws annibynnol CMEC.

Dywedodd Peter Hain:

Rwy'n falch iawn o gyhoeddi penodiad Stephen Geraghty fel Darpar Gomisiynydd y Comisiwn Cynhaliaeth Plant a Gorfodaeth newydd. Mae eisoes wedi profi ei hun drwy wella perfformiad y CSA ers ymuno â hwy yn 2005. Mae hefyd wedi gweithio'n agos iawn gyda Syr David Henshaw ar yr adolygiad o'n polisi sydd wedi arwain at greu'r comisiwn newydd a nawr mae'n cyfrannu at ddatblygu'r ddeddfwriaeth newydd o flaen y Senedd. Credaf y bydd ei benodiad, ynghyd â phenodiad Janet Paraskeva fel y Darpar Gadeirydd, yn cynnig arweinyddiaeth brofiadol ac ymroddedig i'r Comisiwn fydd yn fwy na pharod i gwrdd â'r her o daclo tlodi ymhlith plant.

Dywedodd Janet Paraskeva, a benodwyd yn Ddarpar Gadeirydd yn ôl ym mis Tachwedd:

Edrychaf ymlaen yn fawr at weithio'n agos gyda Stephen - bydd ei allu, ei ynni a'i brofiad yn werthfawr iawn wrth helpu i gwrdd â phob her sy'n wynebu'r Comisiwn.

Dywedodd Stephen Geraghty:

Rwyf wrth fy modd fy mod wedi cael fy mhenodi fel Comisiynydd cyntaf y Comisiwn Cynhaliaeth Plant a Gorfodaeth. Mae'r Comisiwn hwn yn cynrychioli cyfnod newydd yn hanes cynhaliaeth plant. Mae'n rhoi'r rhyddid gweithredol i ni ddatblygu gwasanaethau newydd er mwyn cefnogi rhieni a'u hannog i gymryd mwy o gyfrifoldeb dros eu plant. Bydd pasio'r mesur cynhaliaeth plant drwy'r Senedd, o'r diwedd, yn rhoi'r math o gynllun polisi sydd ei angen er mwyn gwneud gwahaniaeth i fwy o blant. Ond bydd rhaid i'r gwelliannau rydym eisoes wedi eu gwneud barhau i ganolbwyntio ar y trosglwyddiad i'r Comisiwn newydd.

Nodiadau i Olygyddion

  1. Mae Stephen Geraghty wedi bod yn Brif Weithredwr y CSA ers 2005.
  2. Mae ei swyddi blaenorol yn cynnwys Cyfarwyddwr Rheoli'r Grŵp Green Flag a UK Insurance, Cyfarwyddwr Rheoli'r Adran Gymorth i'r Grŵp Direct Line a Chyfarwyddwr Rheoli Gwasanaethau Ariannol Direct Line.
  3. Cafodd y Mesur Cynhaliaeth Plant a Thaliadau Eraill ei gyflwyno yn Nhŷ'r Cyffredin ym Mehefin ac mae nawr wedi cwblhau camau'r Cyffredin. Cychwynnodd apwyntiad Stephen Geraghty ar 1 Ionawr 2008 a bydd ar sail ddarpar hyd nes caiff y Mesur ei gymeradwyo gan y Senedd.
  4. Penodwyd Stephen Geraghty ar ei deilyngdod yn dilyn cystadleuaeth agored am y swydd.
  5. Yn Ebrill 2006 lansiodd y CSA Gynllun Gwella Gweithredol dros gyfnod o dair blynedd er mwyn trawsnewid eu gwasanaeth i gleientiaid. Roedd y cynllun, a ddatblygwyd ar sail oedd yn canolbwyntio ar bwynt isaf ym mherfformiad yr Asiantaeth, wedi cyrraedd hanner ffordd ym mis Medi 2007 pryd y darparwyd adroddiad ar ei lwyddiant. Mae'r tablau isod yn rhoi manylion o gynnydd yr Asiantaeth yn erbyn eu targedau:

Canlyniadau Cynhaliaeth - patrymau perfformio dros bum mlynedd
Mesur Perfformiad 2005 Gwir 2006 Gwir 2007 Gwir 2008 Targed 2009 Bwriad Sefyllfa ar ddiwedd Medi 2007
Nifer o blant sy'n elwa
Chwarter yn diweddu 31 Mawrth

537,000

597,000

642,000

720,000

790,000

674,000
Achosion yn derbyn cynhaliaeth 'Cynhaliaeth Uniongyrchol' neu'r gwasanaeth casglu Chwarter yn diweddu 31 Mawrth

385,000


433,000


471,000


520,000


579,000


498,000
Canlyniadau Cynhaliaeth
achosion sydd ag atebolrwydd cyfredol ac sy'n derbyn cynhaliaeth yn y Chwarter yn diweddu 31 Mawrth


59%


61%


62%


66%


69%


62%
Cynhaliaeth a gasglwyd neu a drefnwyd yn y Flwyddyn yn diweddu 31 March
£793m

£830m

£891m

£970m

£1080m

£925m
Gwasanaeth Cleientiaid - Patrymau perfformio dros bum mlynedd
Mesur Perfformiad 2005 Gwir 2006 Gwir 2007 Gwir 2008 Targed 2009 Bwriad Sefyllfa ar ddiwedd Medi 2007
Prosesu Ceisiadau
% o geisiadau cynllun newydd wedi clirio erbyn 31 Mawrth o fewn:

12 wythnos
(derbynwyd yn Rhagfyr)

18 wythnos
(derbyniwyd yn Hydref)

26 wythnos
(derbyniwyd yn Medi)






30%



36%


46%






53%



61%


67%






61%



63%


78%






65%



80%


85%






80%



85%


90%






74% (Mehefin 07)


83% (Ebrill 07)


87% (Mar 07)
Ceisiadau cynllun newydd heb eu clirio
ar 31 Mawrth

225,900

221,200

155,900

140,000

90,000

128,000
Ffonio
Amser ateb o'r ciw ar gyfartaledd dros flwyddyn

% of alwadau a gollwyd yn y flwyddyn hyd at 31 Mawrth

1 munud 40 eiliad


16%

59 eiliad



9%

26 eiliad



3%

Llai na 30 eiliad


Llai na 5%

Llai na 30 eiliad


Llai na 5%

(Ebrill - Medi)
21 eiliad


2%