Bydd bron i 750,000 o blant yn elwa o'r £1 biliwn o gynhaliaeth plant a gasglwyd neu trefnwyd, mwy nag erioed o'r blaen.
30/04/2008
Mae ffigyrau'r Ystadegau Cenedlaethol a gyhoeddwyd heddiw yn dangos bod bron i 750,000 o blant ledled y DU yn elwa o daliadau cynhaliaeth plant, wrth i'r Asiantaeth Cynnal Plant gasglu neu drefnu £1biliwn yn genedlaethol dros gyfnod o 12 mis. Mwy nag erioed o'r blaen. Mae hyn i'w gymharu â'r £6.5 biliwn o gynhaliaeth a gasglwyd neu a drefnwyd yn ystod y 14 mlynedd flaenorol o weithredu gan yr Asiantaeth.
Ers Mawrth 2005 - pryd y cychwynnodd gwelliannau i berfformiad y CSA - mae'r Asiantaeth wedi bod yn casglu neu'n trefnu £210 miliwn yn fwy o daliadau ac yn helpu i gynnal bron i 200,000 o blant ychwanegol. Yn ystod y cyfnod diweddaraf o 12 mis, mae'r nifer o blant sy'n elwa o gynhaliaeth plant wedi codi o 683,000 i bron i 750,000 ac mae'r gynhaliaeth a gasglwyd neu a drefnwyd wedi cynyddu o fod o dan £900 miliwn i fod yn fwy na £1 biliwn.1
Mae ffigyrau'r Ystadegau Cenedlaethol hefyd yn cadarnhau bod yr Asiantaeth Cynnal Plant bellach yn casglu mwy o ôl-ddyledion sy'n ddyledus gan rhieni dibreswyl, maent yn clirio ceisiadau yn gyflymach ac yn gwella eu gwasanaeth i gwsmeriaid.
Mae'r Crynodeb Chwarterol o'r Ystadegau yn dangos bod:
- Cyfanswm o 749,300 o blant bellach yn elwa o gynhaliaeth plant, sy'n gynnydd ar y ffigwr o 561,100 ym mis Mawrth 2005.
- Yn ystod y flwyddyn hyd at fis Mawrth 2008, casglwyd neu trefnwyd £1,010 miliwn mewn cynhaliaeth plant gan yr Asiantaeth, ac roedd £126 miliwn ohono'n ôl-ddyledion. Mae hyn eto'n gynnydd ar y ffigwr o £798 miliwn ym mis Mawrth 2005.
- Canlyniadau cynhaliaeth - mae'r ganran o rieni sydd ag atebolrwydd ac sy'n talu cynhaliaeth plant wedi cynyddu i 67%. Disgwylir i'r Asiantaeth gyrraedd ei tharged o 69% erbyn mis Mawrth 2009, cynnydd eto ar y ganran ym mis Mawrth 2005, sef 63%.
- Cafodd 77% o'r ceisiadau newydd a dderbyniwyd ym mis Rhagfyr 2007 eu clirio o fewn 12 wythnos, cynnydd ar y 30% ar gyfer mis Rhagfyr 2004.
- Mae'r nifer o geisiadau cynllun newydd heb eu clirio yn is nag erioed - 107,000, sy'n ostyngiad o 119, 000 ers mis Mawrth 2005.
- Atebodd yr Asiantaeth 98% o'r galwadau ffôn oedd ar gael i'w hateb, gydag amser aros o 20 eiliad ar gyfartaledd, sef cynnydd ar y 84% a atebwyd o fewn amser aros o 1 munud 40 eiliad yn ôl ym mis Mawrth 2005.
Dywedodd James Purnell, yr Ysgrifennydd Gwladol:
Mae wir yn newyddion da iawn bod bron i 750,000 o blant nawr yn gallu elwa o'r £1biliwn mewn cynhaliaeth plant, mwy nag erioed o'r blaen. Ar hyn o bryd mae taliadau cynhaliaeth plant yn galluogi i 100,000 o blant ddod allan o dlodi ac rydym yn amcangyfrif y bydd llwyddiant ein Cynllun Gwella Gweithredol yn dod â 40,000 arall o blant allan o dlodi erbyn Ebrill 2009.
Dylai'r perfformiad llwyddiannus hwn sicrhau cwsmeriaid presennol y CSA y gallant barhau i weld mwy o welliannau wrth i'r Comisiwn Trefnu a Gorfodi Cynhaliaeth Plant gael ei sefydlu nes ymlaen eleni, ac yn bwysicach fyth, gallant weld bod mwy o arian yn mynd i fwy o blant.
Dywedodd Stephen Geraghty, prif Weithredwr y CSA a'r Darpar Gomisiynydd Cynhaliaeth Plant:
Mae'r Asiantaeth Cynnal Plant a'i Chynllun Gwella Gweithredol wedi cyflawni gwir welliannau i'r system cynhaliaeth plant mewn meysydd fel gwasanaeth cwsmeriaid, cydweithrediad a chasglu arian. Rydym yn gallu cael mwy o arian i fwy o blant ac ers Mawrth 2005, mae'r nifer o blant sy'n elwa o gynhaliaeth plant wedi gweld cynnydd o fwy na 188,200 (o 561,100 ym Mawrth 2005 i 749,300 ym Mawrth 2008) tra bod y gynhaliaeth a gasglwyd neu a drefnwyd wedi cynyddu mwy na 200 miliwn o bunnoedd i £1 biliwn. Mae hyn yn creu sail gadarn y gall y Comisiwn Trefnu a Gorfodi Cynhaliaeth adeiladu arno.
Yn y cyfamser, bydd y CSA yn parhau i fynd ar ôl rhieni sy'n osgoi eu cyfrifoldebau ariannol. Mae ein neges iddynt yn glir. Gwnewch rywbeth nawr, cyn i ni orfod gwneud.
- Darllenwch gopi o'r Crynodeb Chwarterol o Ystadegau (Saesneg yn unig)
- Mae ffigyrau'r Crynodeb wedi cael eu gwella er mwyn gwell cywirdeb. Er nad yw hyn wedi effeithio ar y cyfanswm o arian a gasglwyd ac a drefnwyd ar gyfer plant, mae gwelliannau i sut y caiff y taliadau a drefnir neu a gesglir gan yr Asiantaeth eu nodi wedi gwella cywirdeb mesurau allweddol eraill.
1Nodwch nad yw'r ffigyrau ar gyfer cyfnodau cyn Mawrth 2007 yn cynnwys achosion clerigol. Dim ond i ffigyrau am blant yn elwa, canlyniadau cynhaliaeth ac achosion heb eu clirio y mae hyn yn berthnasol. Nid yw'n effeithio ar unrhyw ffigyrau eraill.

