HafanAmdanom ni> › Cyhoeddiadau › Adroddiad Cydraddoldeb

Cyhoeddiadau

Adroddiad cydraddoldeb

Ar 1 Rhagfyr 2006, cyhoeddodd yr Adran Gwaith a Phensiynau ei chynlluniau cydraddoldeb anabledd a rhyw cyntaf gydag adroddiad blynyddol ar gynnydd ein cynllun cydraddoldeb hiliol. I groesawu pob agwedd ar amrywiaeth a chydraddoldeb, rydym yn cynnwys ein hymrwymiad i oedran, tueddfryd rhywiol a chrefydd neu gred.

Gallwch ddarllen braslun o bob un o gynlluniau cydraddoldeb DWP ar y prif dudalennau ar gynlluniau cydraddoldeb ar wefan DWP.

Cynlluniau Cydraddoldeb yr Asiantaeth Cynnal Plant

Mae Cynlluniau Cydraddoldeb yr Asiantaeth Cynnal Plant ar sail Anabledd a Rhyw a'i hadroddiad ar gynnydd ar y Cynllun Cydraddoldeb Hiliol ar gael yn y fersiynau canlynol.

Mae'r ffeil hawdd i'w darllen yn fawr a gallai gymryd cryn amser i lawr-lwytho yn dibynnu ar gyflymder eich modem. Fel arall gallwch lawr-lwytho'r fersiwn hwn mewn tair adran llai.

Ffurfiau eraill

Gallwch archebu mwy o gopïau o Gynlluniau Cydraddoldeb yr Asiantaeth Cynnal Plant, cynlluniau cydraddoldeb eraill DWP, a chopïau ar ffurfiau eraill ar Llinell archebu Cynlluniau Cydraddoldeb DWP.

Adroddiad Blynyddol yr Asiantaeth Cynnal Plant ar gynnydd ei Chynllun Cydraddoldeb hiliol

Mae pob un o'r adroddiadau ar gynnydd cynlluniau cydraddoldeb hiliol DWP ar gael mewn ieithoedd

  • Arabeg
  • Bengaleg
  • Tsieinëeg
  • Gwjarataidd
  • Pwnjabeg
  • Wrdw

Gallwch archebu fersiynau o'r adroddiad blynyddol ar gynnydd cynlluniau cydraddoldeb Hiliol DWP ar dâp sain yn Somaleg a Sylheti gan Llinell archebu Cynlluniau Cydraddoldeb DWP.

Help gyda dogfennau PDF

Mae ein holl gyhoeddiadau ar gael ar ffurf PDF.

Er mwyn eu darllen byddwch angen lawr-lwytho'r rhaglen ddarllen yn rhad ac am ddim.