Hafan › Amdanom ni › Beth mae'r CSA yn ei wneud › Lefelau gwasanaeth a siarter cleientiaid
Lefelau gwasanaeth a siarter cleientiaid
Anelwn at fod yn broffesiynol ac ymatebol, yn gwrtais ac o help yn ein holl gyswllt â'n cleientiaid. Rydym wedi gosod safonau gwasanaeth gofynnol yr anelwn gwrdd â hwy ym mhob un o'n prif feysydd busnes. Gosodir y safonau hyn yma. Os na fyddwn yn cwrdd â'r safonau hyn, byddwn yn gwneud ein gorau i'ch cadw'n hysbys ac egluro beth sy'n digwydd.
Ein gwerthoedd
Mae'r Asiantaeth yn ceisio arddangos gwerthoedd yr Adran yn y ffyrdd canlynol:
- Gwneud ein gorau
Byddwn yn
- deall ac yn ymateb i anghenion ein cleientiaid ac yn gwrando ar eu pryderon
- gosod safonau gwasanaeth sy'n cwmpasu prif feysydd ein busnes a'u cyflawni'n barhaus
- darparu gwasanaeth effeithlon, proffesiynol ac ystyrlon
- parhau i wella ein perfformiad drwy ddysgu oddi wrth ein llwyddiannau a'n camgymeriadau
- defnyddio ein hadnoddau yn effeithlon.
- Gwneud gwahaniaeth
Byddwn yn
- Sicrhau y caiff plant, sydd â'u rhieni'n byw ar wahân, eu cynnal yn ariannol drwy weithredu cyn gynted â phosibl i sicrhau cynhaliaeth ar gyfer y plant hynny
- cefnogi ein gilydd i weithio'n fwy llwyddiannus
- Parchu pobl
Byddwn yn
- deall, ymateb a buddsoddi yn anghenion ein pobl
- trin ein cleientiaid a'n gilydd gyda pharch
- gwerthfawrogi syniadau pobl eraill
- cyfathrebu'n glir
- Edrych tuag allan
Byddwn yn
- chwilio am a chroesawu cyfleoedd i weithio gyda phartneriaid yn y sector cyhoeddus ac yn y sectorau gwirfoddol a phreifat
- meincnodi ein hunain yn ôl y safonau a gyflawnir gan eraill
Beth gallwch ei ddisgwyl gennym
Cyswllt cyntaf
- O fewn pedair wythnos - os gall y rhiant â gofal roi manylion cyswllt i ni ar gyfer y rhiant dibreswyl, byddwn yn dechrau casglu gwybodaeth gan y rhiant dibreswyl o fewn pedair wythnos o dderbyn y cais.
- O fewn 12 wythnos - anelwn at wneud penderfyniad cywrain ar y cais o fewn 12 wythnos, ond mewn rhai achosion gallai gymryd hyd at 26 wythnos.Os na fydd gennym fanylion cyswllt cyfredol ar gyfer y rhiant dibreswyl, byddwn yn eu holrhain cyn gynted ag y gallwn.
Taliadau
- O fewn chwe wythnos - pan fyddwn yn casglu cynhaliaeth plant, anelwn at wneud taliad cyntaf i'r rhiant â gofal o fewn chwe wythnos o wneud y cytundebau talu cychwynnol gyda'r rhiant dibreswyl.
- O fewn pedwar mis - os bydd gan y rhiant dibreswyl swydd ond eu bod naill ai yn methu neu'n gwrthod talu, anelwn at gael taliad ganddynt drwy Orchymyn Didynnu o Enillion o fewn pedwar mis o wneud y cytundebau talu cychwynnol.
- O fewn wythnos - Byddwn yn gwneud taliadau cynhaliaeth i rieni â gofal o fewn wythnos o dderbyn yr arian gan y rhiant dibreswyl.
Gorfodi
Lle bydd achos wedi cael ei gyfeirio at ein huned arbenigol ar gyfer gorfodi a'n bod angen cymryd camau gorfodi drwy'r llysoedd, ein cam cyntaf fydd i gael gorchymyn atebolrwydd gan y Llys Ynadon (yng Nghymru a Lloegr) neu Lys y Siryf (yn yr Alban) er mwyn sefydlu'r ddyled yn gyfreithiol. Yna byddwn yn defnyddio beilïaid neu ddulliau eraill sydd ar gael i ni er mwyn gorfodi talu'r ddyled drwy'r llysoedd.
Os parha'r ddyled heb ei thalu, gallwn wneud cais i'r llysoedd i anfon y rhiant dibreswyl i'r carchar. Gallwn hefyd ofyn i drwydded gyrru'r rhiant dibreswyl gael ei hatafaelu, neu eu nadu rhag cael un.
Amser ymateb
- O fewn munud - anelwn at ateb galwadau ffôn o fewn un munud.
- O fewn tair wythnos - Anelwn at ymateb i lythyrau a naill ai datrys cwynion, neu gytuno ar y camau nesaf, o fewn tair wythnos o'u derbyn.
Cwynion
Os bydd gennych gwyn am ein gwasanaeth, dylech yn gyntaf gysylltu â'r person sydd wedi bod yn delio â'ch achos, neu eu rheolwr, naill ai dros y ffôn neu yn ysgrifenedig. Os na allant ddatrys eich cwyn, gallwch gysylltu â'r Tîm Datrys Cwynion yn y swyddfa sy'n delio â'ch cais. Gallwch ddarllen am y broses gwyno yma.
Os credwch ein bod wedi gwneud y penderfyniad anghywir
Os credwch ein bod wedi gwneud y penderfyniad anghywir, gallwch ofyn i ni edrych arno eto. Gelwir hyn yn apêl. Gallwch hefyd ofyn i ni egluro pam ein bod wedi gwneud y penderfyniad. Cysylltwch â'r swyddfa rydych wedi bod yn delio â hi o fewn mis o dderbyn y llythyr sy'n dweud wrthych am ein penderfyniad. Gallwch ddarllen am ein proses apelio yma.
Fel y daw gwybodaeth ar gael yn nes ymlaen yn y flwyddyn, byddwn yn datblygu safonau pellach er mwyn cwmpasu:
- prosesu newidiadau mewn amgylchiadau
- ail sefydlu taliadau ar ôl iddynt fethu.
Beth allwch chi ei wneud i helpu
Gallwch ein helpu i ddelio â'ch achos yn gyflym ac yn gywrain drwy roi'r gwybodaeth sydd ei hangen arnom i ni. Pan fyddwch yn cysylltu â ni:
- rhowch eich rhif Yswiriant Gwladol a'ch rhif cyfeirnod CSA i ni (os oes gennych un);
- gwnewch yn siwr bod y wybodaeth a roddwch i ni yn gywir ac yn gyfredol
- os bydd angen unrhyw wybodaeth bellach arnom, ceisiwch ei rhoi i ni cyn gynted â phosibl
Os ydych yn gyfrifol am dalu cynhaliaeth plant
- sicrhewch eich bod yn talu'r swm llawn yn rheolaidd ac ar amser
- rhowch wybod i ni os na allwch dalu neu os bydd eich amgylchiadau yn newid.
Os byddwch yn ei chael yn anodd i dalu, cysylltwch â ni ar unwaith fel y gallwn drafod trefniadau eraill.
Gallwch ddarllen am yr holl safonau gwasanaeth y gallwch eu disgwyl gennym yn ein "siarter cleientiaid" [PDF 107KB]

