HafanAmdanomEin pwerau › Rhieni sydd ddim yn talu

Dod o hyd i rieni sydd ddim yn talu

Defnyddiwn amryw o bwerau i'n helpu i olrhain rhieni sy'n ein hosgoi. Mae'r pwerau hyn yn ein helpu i edrych ar filoedd o achosion ble mae'r rhieni wedi osgoi talu cynhaliaeth plant.

Dim man cuddio

Gallwn ddod o hyd i rieni sydd ddim yn talu drwy:

  • Defnyddio gwybodaeth sydd gan asiantaethau neu adrannau eraill o'r llywodraeth, fel y Ganolfan Byd Gwaith, Cyllid a Thollau EM a'r Asiantaeth Trwyddedu Gyrwyr a Cherbydau (DVLA).
  • Chwilio drwy wybodaeth o asiantaethau cyfeirio credyd
  • Gweithio gyda chwmnïau olrhain arbenigol o'r sector preifat i ddatrys yr achosion mwyaf anodd.

Mae'n drosedd os bydd rhywun yn methu â rhoi gwybodaeth i ni neu yn rhoi gwybodaeth i ni y maent yn gwybod ei bod yn ffug. Gallwn fynd â hwy i'r llys a gallant gael dirwy o hyd at £1,000. Rydym yn llwyddiannus mewn 95% o'r achosion hyn.

Gwybodaeth berthnasol