Rydym yn cyfrifo ac yn casglu cynhaliaeth plant gan y rhiant nad yw'n brif ofalwr am eu plentyn o ddydd i ddydd (y rhiant dibreswyl) a gwneud yn siŵr ei bod yn cael ei thalu i'r rhiant neu'r person sydd yn brif ofalwr am y plentyn o ddydd i ddydd (y rhiant â gofal).
Ein rôl
Rydym yn cefnogi rhieni i gymryd cyfrifoldeb am ei plant trwy:
- olrhain rhieni nad ydynt bellach yn byw gyda'u plant (y rhiant dibreswyl) mewn achosion ble mae'r rhiant sy'n byw gyda'r plant (y rhiant â gofal) eisiau cymorth i gael cynhaliaeth plant
- gweithio allan faint o gynhaliaeth plant ddylai gael ei dalu gan y rhiant dibreswyl, er mwyn helpu i gwrdd â chostau byw dyddiol eu plentyn
- (mewn rhai achosion) rheoli'r taliadau gan y rhiant dibreswyl a'u rhoi i'r rhiant â gofal
- monitro'r taliadau hyn a chymryd camau gorfodi perthnasol pan gaiff taliadau eu methu neu os ydynt yn hwyr.
Ein prif weithgareddau
- cysylltu â rhieni â gofal a rhieni dibreswyl
- trin, trafod ac egluro'r swm o gynhaliaeth sydd angen ei dalu gyda'r rhieni dibreswyl a'r rhieni â gofal
- cymryd camau i ddatrys anghydfodau tadolaeth yn unol â chyfraith cynnal plant
- trefnu dulliau talu addas
- sicrhau y sefydlir patrwm talu rheolaidd.
Rydym hefyd yn parhau i gadw a chynnal trefniadau cynhaliaeth plant drwy:
- diweddaru cyfrifon pan gawn ein hysbysu o newid
- monitro taliadau a thrafod taliadau hwyr gyda'r ddau riant
- cymryd y camau angenrheidiol pan fydd angen ail sefydlu taliadau ac adennill ôl-ddyledion.
O dan y Comisiwn Trefnu a Gorfodi Cynhaliaeth Plant, mae'r Asiantaeth Cynnal Plant yn parhau i fod ar agor am fusnes a byddwn yn parhau i gynyddu a chrynodi ein hymdrechion i wella ein gwasanaethau i gleientiaid a chael mwy o arian yn llifo i fwy o blant.

