HafanCynghorwyr › Llinell Gymorth Cyngor Ar Bopeth

Llinell Gymorth Cyngor Ar Bopeth

Pan fyddwch yn cynrychioli cleient mewn achos cynhaliaeth plant, mae'n well siarad yn uniongyrchol gyda swyddog achos cymwys. Rydym, yn raddol, yn gwneud i ffwrdd â rhifau ffôn uniongyrchol ar gyfer swyddogion penodol, ond, gallwch ffonio'r tîm ar yr un rhif ffôn ardal a roddwyd i'r cleient gan y CSA. Dylech sicrhau fod rhif yswiriant gwladol y cleient gennych pan fyddwch yn ffonio.

Os yw eich ymholiad yn un mwy cyffredinol, gallwch ffonio llinell gymorth arbennig ar gyfer cynghorwyr Cyngor Ar Bopeth yn unig - y rhif yw 0845 7137770. Dim ond ar gyfer cynghorwyr y CAB mae'r rhif hwn. Os hoffech ffonio yn Gymraeg, gallwch ffonio'r Llinell Gymorth Gymraeg ar 08457 138 091.

Mewn rhai amgylchiadau eithriadol, gallwch ffonio'r rhif i gynghorwyr CAB os nad ydych wedi gallu datrys mater yn foddhaol gyda swyddog achos.