Hafan › Eich achos › Adolygiadau cynhaliaeth ac apeliadau › Apelio › Y gwrandawiad apêl
Y gwrandawiad apêl
Beth fydd yn digwydd yng ngwrandawiad yr apêl?
Yn ystod y gwrandawiad, bydd y Tribiwnlys SSCSA yn edrych ar yr holl dystiolaeth a roddwyd yn y cyflwyniad apêl. Byddant yn darparu copi o unrhyw dystiolaeth a gafwyd ar ôl pennu dyddiad y gwrandawiad i bawb dan sylw, cyn y gwrandawiad. Yna caiff hyn ei ystyried yn y gwrandawiad.
Ceir dau fath o wrandawiad:
- Mae gwrandawiad papur yn golygu y bydd y Tribiwnlys SSCSA yn penderfynu ar yr apêl ar sail y dystiolaeth ysgrifenedig neu'r wybodaeth a ddarparwyd.
- Gallwch fynd i wrandawiad llafar os hoffech. Cewch gyfle i gyflwyno eich achos. Caiff pobl sy'n mynd i wrandawiad llafar siawns well o gyflwyno eu hachos a herio unrhyw beth maent yn anhapus ag ef. Efallai y bydd cadeirydd y tribiwnlys hefyd yn gofyn iddynt egluro unrhyw rai o'r materion sy'n cael eu hapelio.
Ar y ffurflen ymholiad cyn y gwrandawiad, y byddwn yn ei hanfon at bawb sy'n gysylltiedig â'r apêl, byddwn yn gofyn i chi nodi pa fath o wrandawiad yr hoffech ei gael.
Sut gallaf apelio yn erbyn penderfyniad cynhaliaeth plant?
Os bydd unrhyw un yn gofyn am wrandawiad llafar, dyna fydd yn digwydd. Os na fydd unrhyw un yn gofyn am wrandawiad llafar, fel arfer penderfynir ar eich apêl drwy wrandawiad papur. Hyd yn oed as na fydd unrhyw un o'r bobl sy'n ymwneud â'r achos yn gofyn am un, gall cadeirydd y tribiwnlys benderfynu cynnal gwrandawiad llafar beth bynnag.
Top y dudalenPwy fydd yn cymryd rhan?
Mewn gwrandawiad llafar, gall pawb sy'n gysylltiedig â'r apêl gymryd rhan, yn ogystal ag unrhyw dystion. Gallwch ddod â ffrind neu gynrychiolydd gyda chi, os byddwch yn teimlo y byddai hyn o gymorth. Neu, gallwch ddewis anfon rhywun yn eich lle i gynrychioli eich safbwyntiau.
Tribiwnlys apêl annibynnol fydd yn penderfynu ar eich apêl. Gall tribiwnlys apêl, boed hynny ar gyfer gwrandawiad papur neu wrandawiad llafar, gynnwys
- aelod cyfreithiol-gymwys yn unig, neu
- aelod cyfreithiol-gymwys, sef y cadeirydd fel arfer, ac aelod sydd ag arbenigedd ariannol, fel cyfrifydd. Mae hyn yn berthnasol os bydd y Tribiwnlys SSCSA yn teimlo bod angen hynny ar gyfer eich apêl. Gall hyn fod oherwydd bod angen i'r tribiwnlys benderfynu ar gwestiynau anodd am eich cyfrifon.
Penodir aelodau'r tribiwnlys gan y Gwasanaeth Tribiwnlys, nid gennym ni neu'r DWP.
Pwy arall all ddod i'r gwrandawiad?
Cynhelir gwrandawiadau tribiwnlysoedd apêl yn gyhoeddus fel arfer. Mae hyn yn golygu y gall pobl heb unrhyw ddiddordeb yn eich achos, a'r wasg, fynychu. Os hoffech gael gwrandawiad preifat, gallwch ofyn am hynny ar ddiwrnod y gwrandawiad. Gall cadeirydd y tribiwnlys (neu aelod o banel cyfreithiol-gymwys annibynnol) benderfynu y dylai gwrandawiad fod yn breifat, yn dibynnu ar yr achos. Bydd un o'n cynrychiolwyr, a elwir yn swyddog cyflwyno, hefyd yn bresennol.
Beth fydd yn digwydd os na allaf fynd i'r gwrandawiad?
Os hoffech fynd i'r gwrandawiad, ond na allwch wneud hynny, er enghraifft am eich bod yn sâl neu am fod gennych anawsterau teithio, dylech gysylltu â Chlerc y Tribiwnlys cyn gynted â phosibl. Bydd eu cyfeiriad a'u rhif ffôn ar y llythyr y byddant yn ei anfon atoch i ddweud wrthych am ddyddiad y gwrandawiad. Gallai fod yn bosibl gohirio'r gwrandawiad.
Gall y Tribiwnlys SSCSA dalu am rai treuliau ar gyfer mynd i dribiwnlys, er enghraifft costau teithio o fewn Prydain fawr. Os hoffech gael mwy o wybodaeth am dreuliau, cysylltwch â swyddfa'r Tribiwnlys SSCSA sy'n delio â'ch apêl. Bydd eu cyfeiriad a'u rhif ffôn ar y llythyr y byddant yn ei anfon atoch i ddweud wrthych pryd y bydd y gwrandawiad.
Top y dudalenSut mae'r tribiwnlys yn rhoi ei benderfyniad?
Bydd y Tribiwnlys SSCSA yn anfon eu penderfyniad atoch yn ysgrifenedig ar ôl gwrandawiad yr apêl. Bydd y bobl eraill sy'n ymwneud â'r apêl hefyd yn cael copi o'r penderfyniad. Ar gyfer gwrandawiadau llafar, bydd y Tribiwnlys SSCSA fel arfer yn rhoi eu penderfyniad ar ddiwrnod y gwrandawiad ac yn cadarnhau eu penderfyniad mewn llythyr ychydig ddiwrnodau'n ddiweddarach.
Byddwch hefyd yn cael gwybodaeth am y canlynol neu anfonir gwybodaeth am y canlynol atoch
- eich hawl i ofyn am ddatganiad o ganfyddiadau'r tribiwnlys a'r rhesymau dros y penderfyniad (gelwir hyn yn 'ddatganiad o resymau')
- beth i'w wneud os byddwch yn anghytuno â phenderfyniad y Tribiwnlys SSCSA.
Os hoffech ofyn am ddatganiad o resymau neu os byddwch yn anghytuno â phenderfyniad y Tribiwnlys SSCSA, rhaid i chi ddweud wrthynt o fewn mis o ddyddiad y llythyr sy'n dweud wrthych beth yw'r penderfyniad. Gallwch hefyd ofyn am gopi o gofnod trafodion y tribiwnlys. Mae gennych chwe mis i ofyn am hwn. Ar ôl hyn, gellir dinistrio'r cofnod.
Sut caiff gwrandawiad fy apêl ei drefnu?
Unwaith y bydd ein Huned Apeliadau Ganolog wedi anfon y cyflwyniad apêl at yr holl bobl dan sylw, bydd y Tribiwnlys SSCSA yn cysylltu â chi i drefnu gwrandawiad.
Byddant yn anfon ffurflen ymholiad cyn y gwrandawiad atoch yn gofyn
- pryd y byddwch ar gael i ddod i wrandawiad apêl
- p'un a ydych am i'ch apêl gael ei hystyried mewn 'gwrandawiad papur' neu 'wrandawiad llafar'
- i chi gadarnhau eich bod wedi gweld y cyflwyniad apêl a'ch bod yn cytuno â'r hyn a nodir ynddo.
Dylech edrych dros y cyflwyniad apêl a'r holl bapurau a gaiff eu cynnwys ynddo yn ofalus.
Mae'n rhaid i chi lenwi'r ffurflen ymholiad cyn y gwrandawiad a'i dychwelyd i'r Tribiwnlys SSCSA yn yr amlen a ddarperir.
Os na fyddwch yn siŵr ynghylch cyfraith cynhaliaeth plant, neu unrhyw ran o'r cyflwyniad apêl, efaillai y byddwch am gael cyngor annibynnol. Gallai hyn helpu i benderfynu p'un a ydych yn cytuno â'r hyn a ddywedwyd yn y cyflwyniad apêl ai peidio.
Bydd angen i chi anfon eich sylwadau, gwybodaeth ychwanegol neu dystiolaeth i swyddfa ranbarthol y Tribiwnlys SSCSA sy'n delio â'ch apêl cyn gynted ag y gallwch os
- na fyddwch yn cytuno â'r hyn a ddywedwyd
- bydd gennych unrhyw wybodaeth neu dystiolaeth ychwanegol y credwch y bydd angen i'r tribiwnlys apêl wybod amdani.
Gorau po gyntaf y gallwch anfon y rhain, er mwyn i'r Tribiwnlys SSCSA gael mwy o amser i ddarllen a deall y wybodaeth ychwanegol. Os byddwch yn anfon y rhain ar ddiwrnod y gwrandawiad, ceir risg y bydd cadeirydd y tribiwnlys yn penderfynu ei symud i ddiwrnod arall i roi amser iddynt ddarllen y wybodaeth newydd. Bydd y cyfeiriad ar y ffurflen ymholiad. Bydd y tribiwnlys yn anfon copïau o unrhyw wybodaeth neu dystiolaeth ychwanegol a roddwch i'r bobl eraill syn gysylltiedig â'r apêl. Byddant yn anfon yr un ffurflen a chyflwyniad apêl at bawb sy'n gysylltiedig â'r apêl.
Mae'n rhaid i chi ddychwelyd y ffurflen ymholiad cyn y gwrandawiad o fewn 14 diwrnod.
Os na fydd y Tribiwnlys SSCSA yn derbyn y ffurflen mewn pryd, gallent benderfynu peidio â pharhau â'ch apêl. Gelwir hyn yn 'dileu apêl'.
Os bydd y Tribiwnlys SSCSA yn dileu eich apêl ac nad ydych yn cytuno â'r penderfyniad, gallwch ofyn i'ch apêl gael ei 'hadfer'. Bydd y Tribiwnlys SSCSA yn dweud wrthych sut i wneud hyn.
Top y dudalenPryd y cynhelir fy ngwrandawiad?
Fel arfer bydd y Tribiwnlys SSCSA yn dweud wrthych pryd a ble y cynhelir eich gwrandawiad llafar o leiaf 14 diwrnod cyn iddo gael ei gynnal er mwyn rhoi amser i chi baratoi.
Weithiau efallai y gallwch gael penderfyniad yn gyflymach os byddwch yn cytuno i gael gwrandawiad llafar heb gael cymaint o rybudd. Bydd y Tribiwnlys SSCSA yn ysgrifennu atoch, ac at y bobl eraill sy'n gysylltiedig â'r apêl, yn gofyn am eich caniatâd os oes gwrandawiad apêl cynnar ar gael. Yn yr amgylchiadau hyn, dim ond os bydd pawb yn cytuno y gall fynd yn ei flaen y cynhelir y gwrandawiad llafar.
Top y dudalenGwybodaeth berthnasol
- Darllenwch ein taflen "Sut caiff cynhaliaeth plant ei gweithio allan?" [941Kb]

