HafanEich achosAdolygiadau cynhaliaeth ac apeliadau Apelio › Canlyniadau apêl

Canlyniadau apêl

Beth fydd yn digwydd os bydd y tribiwnlys yn newid y penderfyniad gwreiddiol?

Os bydd y Tribiwnlys SSCSA yn newid y penderfyniad y gwnaethoch apelio yn ei erbyn, caiff eich achos ei ddychwelyd atom ni gyda'r penderfyniad. Bydd hyn yn cynnwys cyfarwyddiadau ar beth i'w wneud er mwyn cywiro'r penderfyniad.

Mae'n bwysig i chi wybod y gallai'r penderfyniad newydd olygu y bydd swm y gynhaliaeth plant yn newid ac felly bydd y taliadau'n uwch neu'n is.

Os bydd y Tribiwnlys SSCSA yn penderfynu lleihau neu gynyddu eich taliad, bydd y taliadau diwygiedig yn dechrau o'r un dyddiad ag y gwnaed y penderfyniad yr apeliwyd yn ei erbyn.

Yn yr amgylchiadau hyn

  • efallai y bydd yn rhaid i rieni dibreswyl wneud taliadau ychwanegol, neu
  • efallai y bydd yn rhaid i rieni â gofal dalu rhywfaint o'r gynhaliaeth plant a gawsant yn ôl.

Gall penderfyniad y Tribiwnlys SSCSA gynnwys dweud wrthym i ofyn am fwy o wybodaeth gennych chi neu'r bobl eraill sy'n gysylltiedig â'r apêl. Os byddwn yn gofyn i chi roi mwy o wybodaeth, rhaid i chi wneud hynny o fewn yr amser y byddwn ni neu'r Tribiwnlys SSCSA yn ei roi i chi.

Byddwn yn gweithio allan y gynhaliaeth plant sy'n ddyledus eto pan gawn y penderfyniad ac unrhyw wybodaeth ychwanegol y mae'r tribiwnlys wedi gofyn amdani. Byddwn yn dweud wrthych beth yw'r swm newydd cyn gynted â phosibl.

Os credwch fod y cyfrifiad newydd yn anghywir, efallai y gallwch fynd yn ôl at gadeirydd y Tribiwnlys SSCSA a wnaeth y penderfyniad yn yr apêl.

Top y dudalen

Beth fydd yn digwydd os bydd y tribiwnlys yn penderfynu bod y penderfyniad gwreiddiol yn gywir?

Os bydd y Tribiwnlys SSCSA yn penderfynu bod y penderfyniad gwreiddiol yn gywir, bydd y penderfyniad hwnnw'n sefyll.

Os byddaf yn anghytuno â phenderfyniad y tribiwnlys, beth gallaf ei wneud?

Os byddwch yn anghytuno â phenderfyniad y Tribiwnlys SSCSA, mae dwy ffordd y gallwch ofyn iddo gael ei adolygu neu ei newid.

  • Gallwch ofyn i'r penderfyniad gael ei roi i'r neilltu. Mae hyn yn golygu y caiff y penderfyniad ei wrthod. Dim ond os na dderbyniwyd dogfennau neu os na chawsant eu hanfon at rywun sy'n ymwneud â'r apêl, neu os nad oedd rhywun a ddylai fod yn y gwrandawiad llafar yno y gall hyn ddigwydd.
  • Gallwch apelio i'r Comisiynydd Cynnal Plant, a all wrthdroi penderfyniad y Tribiwnlys SSCSA os yw'n anghywir yn ôl y gyfraith.

Os bydd y Tribiwnlys SSCSA yn dilyn y gweithdrefnau'n briodol a'u bod yn gyfreithiol gywir, ni ellir newid ei benderfyniad.

Top y dudalen

Gofyn i benderfyniad tribiwnlys gael ei roi i'r neilltu

Gall unrhyw un sy'n gysylltiedig â'r apêl ofyn i benderfyniad y Tribiwnlys SSCSA gael ei roi i'r neilltu. Os caiff penderfyniad ei roi i'r neilltu, bydd Tribiwnlys SSCSA arall yn gwrando'r apêl newydd.

Gall aelod cyfreithiol-gymwys o banel roi penderfyniad tribiwnlys i'r neilltu os ymddengys ei bod yn gywir iddo wneud hynny am y rhesymau canlynol

  • Ni chafodd dogfen ei hanfon:
    • atoch chi, neu eich cynrychiolydd
    • at unrhyw berson arall a gaiff eu cynnwys yn yr apêl neu eu cynrychiolydd, neu
    • i'r Tribiwnlys SSCSA.
  • Nid oedd person sy'n gysylltiedig â'r apêl (neu eu cynrychiolydd) yn y gwrandawiad llafar.

Ceir terfyn amser o fis i wneud cais i benderfyniad a wnaed gan Dribiwnlys SSCSA gael ei roi i'r neilltu. Mae'r mis yn dechrau ar y dyddiad y cawsoch benderfyniad y Tribiwnlys SSCSA neu ddatganiad o'r rhesymau dros benderfyniad y tribiwnlys neu'r dyddiad yr anfonwyd y rhain atoch. Anfonir unrhyw gais i benderfyniad Tribiwnlys SSCSA gael ei roi i'r neilltu at bawb sy'n ymwneud â'r apêl fel y gallant roi sylwadau arno. Caiff y bobl hynny sy'n gysylltiedig â'r apêl wybod am ganlyniad y cais hefyd.

Apelio i'r Comisiynydd Cynnal Plant

Mae gennych hawl i apelio yn erbyn penderfyniad tribiwnlys i Gomisiynydd Cynnal Plant, ond dim ond ar bwynt cyfreithiol. Gall Comisiynydd Cynnal Plant wrthdroi penderfyniad tribiwnlys os bydd yn anghywir yn ôl y gyfraith.

Cyn i chi apelio i Gomisiynydd mae'n rhaid i chi wneud cais i'r tribiwnlys i gael datganiad o resymau dros eu penderfyniad. Os byddwch yn dal yn awyddus i apelio ar ôl ystyried y datganiad o resymau, rhaid i chi gael caniatâd y Tribiwnlys SSCSA. Bydd y llythyr gan y Tribiwnlys SSCSA yn dweud wrthych am eu penderfyniad hefyd yn dweud wrthych sut i wneud cais am ganiatâd i apelio a faint o amser sydd gennych i wneud hyn.

Os bydd y Comisiynydd Cynnal Plant yn penderfynu bod penderfyniad y Tribiwnlys SSCSA yn anghywir yn ôl y gyfraith, bydd y Comisiynydd fel arfer

  • yn rhoi'r penderfyniad y mae'r Comisiynydd yn credu y dylai'r Tribiwnlys SSCSA fod wedi'i wneud, neu
  • yn cyfeirio'r achos i Dribiwnlys SSCSA gwahanol ac yn dweud wrthynt sut i ddelio ag ef.

Top y dudalen