HafanEich achosNewidiadau mewn amgylchiadauGwaith ac arian › Newid incwm

Newid incwm

Dylai rhieni ddweud wrthym os bydd incwm wythnosol rheolaidd y rhiant dibreswyl yn newid, neu os oes unrhyw newidiadau eraill i'r wybodaeth rydym yn ei defnyddio i weithio allan y swm o gynhaliaeth plant y dylid ei dalu.

Dylai rhiant dibreswyl ddweud wrthym os ydynt yn:

  • dechrau neu'n stopio gweithio i gyflogwr
  • dechrau neu'n stopio bod yn hunangyflogedig
  • newid swyddi
  • mynd yn ddi-waith, neu
  • dechrau gweithio ar ôl bod yn ddi-waith.

Os ydym wedi dweud wrth gyflogwr y rhiant dibreswyl am gymryd cynhaliaeth plant o'u henillion drwy orchymyn didynnu o enillion, mae'n rhaid i'r rhiant dibreswyl ddweud wrthym os ydynt yn newid eu cyflogwr.

Dylai rhiant dibreswyl hefyd ddweud wrthym:

  • enw a chyfeiriad y cyflogwr newydd, os oes ganddynt un,
  • y swm maent yn disgwyl ei ennill, a'u
  • rhif cyflogres neu rif staff, os oes ganddynt un.

Ni fydd pob newid mewn amgylchiadau yn golygu bod angen i ni newid y swm o gynhaliaeth plant y dylid ei dalu. Efallai na fyddwn yn newid y swm o gynhaliaeth plant os bydd y newid i incwm wythnosol net rheolaidd y rhiant dibreswyl yn llai na 5%.

Os bydd eich incwm yn newid, a bod eich cynhaliaeth plant yn cael ei gweithio allan gan ddefnyddio rheolau y cynllun presennol, gallwch ddefnyddio ein cyfrifydd ar-lein i weld os bydd rhaid i'r gynhaliaeth newid.

Newid mewn incwm ar yr hen gynllun

Pryd bydd newid mewn incwm yn newid swm y gynhaliaeth plant ddylai gael ei dalu ar yr hen gynllun?

I ganlyn, ceir rhestr o rhai o'r amgylchiadau a allai olygu y byddwn yn edrych ar yr achos eto.

  • byddai swm y gynhaliaeth plant sy'n rhaid ei dalu yn newid £10 yr wythnos neu fwy, er enghraifft, os yw incwm y naill riant wedi newid
  • gwnaethom gynnwys swm am 'incwm gwarchodedig' y tro diwethaf i ni weithio allan faint o gynhaliaeth ddylai gael ei dalu, a byddai'r swm o gynhaliaeth plant fyddai'n rhaid i'r rhiant dibreswyl ei dalu yn cynyddu o leiaf £5 yr wythnos, neu yn lleihau o leiaf £1 yr wythnos neu fwy
  • byddai'r swm o gynhaliaeth plant yn newid o leiaf £1 neu fwy yr wythnos oherwydd yn achos unrhyw riant:
    • bod ganddynt blentyn newydd yn byw gyda hwy a'u partner newydd, ac
    • nid oes angen talu cynhaliaeth plant ar gyfer y plentyn newydd hwnnw
  • bydd y rhiant dibreswyl neu eu partner yn dechrau cael Cymhorthdal Incwm neu Lwfans Ceisio Gwaith yn seiliedig ar incwm ac nid oes ganddynt unrhyw incwm arall
  • nid yw'r rhiant dibreswyl neu eu partner bellach yn cael Cymhorthdal Incwm neu Lwfans Ceisio Gwaith yn seiliedig ar incwm
  • erbyn hyn mae'r gofal am y plentyn neu blant yn cael ei rannu rhwng y ddau riant
  • bydd plentyn a gafodd ei gynnwys yn y cyfrifiad y tro diwethaf i ni weithio allan swm y gynhaliaeth plant (naill ai am fod y rhiant dibreswyl wedi bod yn talu cynhaliaeth er eu cyfer, neu am eu bod yn byw gyda'r rhiant dibreswyl) yn gadael neu'n ymuno â chartref y rhiant â gofal, neu yn gadael yr ysgol ac yn dechrau gweithio.
  • Cawn wybodaeth gan gorff fel y Ganolfan Byd Gwaith, Cyllid a Thollau EM neu'r llysoedd, sy'n golygu ein bod yn credu y dylai swm y gynhaliaeth plant newid.

Cewch fwy o wybodaeth am bryd byddwn yn edrych eto ar achosion yn ein taflen ar gyfer yr hen gynllun, sef I rieni sy'n byw ar wahân:

Gallwch gael mwy o wybodaeth am sut i gysylltu â ni a dweud wrthym am y newidiadau i'ch amgylchiadau yma.