O 27 Hydref 2008 ymlaen, mae'r gyfraith yn newid o ran cynhaliaeth plant. Oherwydd hyn, bydd y ffordd y bydd cynhaliaeth plant yn cael ei thrin ar gyfer rhieni sydd ar fudd-daliadau yn newid. Mae'r newidiadau fydd yn effeithio arnoch fel a ganlyn:
| Ar hyn o bryd | O 27 Hydref 2008 ymlaen |
|---|---|
| Os yw'r rhiant â gofal yn hawlio budd-dal, rhaid iddynt ddefnyddio'r CSA i wneud trefniadau cynhaliaeth plant. | Gall rhieni â gofal ddewis gadael y CSA a gwneud eu trefniadau eu hunain am gynhaliaeth plant gyda rhiant arall eu plentyn (plant). Os hoffech fwy o wybodaeth am y dewisiadau sydd ar gael i chi ar gyfer trefnu cynhaliaeth plant yna gallwch gysylltu gyda: Opsiynau Cynhaliaeth Plant, gwasanaeth newydd sydd wedi ei greu er mwyn cynorthwyo rhieni wrth wneud y trefniadau cynhaliaeth plant sydd fwyaf effeithiol iddynt hwy. |
| Os byddwch yn aros gyda'r CSA | |
| Yn y cynllun presennol, os yw'r rhiant â gofal ar fudd-daliadau, gallant gadw hyd at £10 bob wythnos o unrhyw gynhaliaeth plant a gesglir ar eu rhan cyn i hyn effeithio ar y swm o fudd-dal a gânt. Os yw'r rhiant â gofal dal ar yr hen gynllun, caiff y gynhaliaeth plant ei thalu iddynt gan y Ganolfan Byd Gwaith fel rhan o'u budd-dal. |
Caiff unrhyw gynhaliaeth plant a gesglir ar eich rhan ei dalu yn uniongyrchol i chi. |
| Os byddwch yn aros gyda'r CSA neu'n gadael y CSA | |
| Os yw'r rhiant â gofal ar fudd-daliadau, yna eu cyfrifoldeb hwy fydd dweud wrth y Ganolfan Byd Gwaith am y swm o gynhaliaeth a geir. | |
| Rhieni ar y cynllun presennol - Os yw rhiant â gofal ar fudd-daliadau, gallant gadw hyd at £10 bob wythnos o unrhyw gynhaliaeth plant a gesglir ar eu rhan cyn i hyn effeithio ar y swm o fudd-dal a gânt. Os yw'r rhiant â gofal dal ar yr hen gynllun, caiff y gynhaliaeth plant ei thalu iddynt gan y Ganolfan Byd Gwaith fel rhan o'u budd-dal. |
Bydd rhieni â gofal yn gallu cadw hyd at £20 bob wythnos o unrhyw gynhaliaeth plant a delir cyn i hyn effeithio ar y swm o fudd-dal a gânt. |
| Os yw'r rhiant â gofal dal ar yr hen gynllun, efallai eu bod yn gymwys i gael Bonws Cynhaliaeth Plant os byddant yn stopio hawlio budd-daliadau. | Mae'r Bonws Cynhaliaeth Plant yn dirwyn i ben. Rhaid i rieni â gofal gwrdd â'r meini prawf a stopio hawlio budd-dal erbyn 26 Tachwedd er mwyn bod yn gymwys i gael unrhyw fonws fydd wedi cronni. Yna, bydd ganddynt bedair wythnos arall i wneud cais am y bonws. |
Er mwyn cael mwy o wybodaeth am sut gall y newidiadau hyn effeithio ar achosion presennol, darllenwch ein hadran Cwestiwn ac ateb
Top y dudalen
