HafanEich achos › Cwynion

Cwynion

Sut rydym yn delio â chwynion

Gall gwneud cwyn ymddangos yn anodd, ond rydym eisiau ei gwneud mor rhwydd â phosibl i chi fel y gallwn gael pethau'n iawn.

Pan fyddwch yn cwyno byddwn yn

  • eich e-bostio neu'n eich ffonio er mwyn cydnabod eich cwyn o fewn 2 ddiwrnod gwaith os byddwch wedi rhoi eich manylion cyswllt i ni. Os na fydd eich manylion cyswllt gennym, byddwn yn cydnabod eich cwyn yn ysgrifenedig
  • delio â chi mewn ffordd gwrtais a phroffesiynol
  • cymryd eich cwyn o ddifrif a'i chadw'n gyfrinachol
  • unioni unrhyw gamgymeriadau cyn gynted â phosibl; a
  • rhoi gwybod i chi beth yw canlyniad ein hymchwiliadau, neu'r sefyllfa ddiweddaraf arnynt o fewn 15 diwrnod gwaith o dderbyn eich cwyn.

Os byddwn wedi gwneud camgymeriad byddwn yn

  • ymddiheuro
  • egluro beth aeth o chwith a pham
  • gwneud unrhyw newid angenrheidiol i roi pethau'n iawn.

Byddwn wastad yn ceisio dysgu o'n camgymeriadau.

Sut gallaf gwyno am y gwasanaeth a gaf gan y CSA?

Os nad ydych yn fodlon â'r gwasanaeth a gawsoch gennym, gallwch gwyno. I wneud cwyn, dylech gysylltu â'r bobl sy'n delio â'ch achos, naill ai dros y ffôn neu yn ysgrifenedig. Mae eu manylion cyswllt ar unrhyw lythyr rydym wedi'i anfon atoch.

Neu gallwch e-bostio eich cwyn atom gan ddefnyddio'r ffurflen gwyno ar-lein sydd ar gael isod:

Beth fydd yn digwydd nesaf?

Bydd y bobl sy'n delio â'ch achos yn edrych ar y materion a godwyd gennych. Os na allant ddatrys eich cwyn, byddant hwy'n ei hanfon at ein Tîm Datrys cwynion yn y swyddfa honno.

Os ydych chi'n teimlo nad yw'r bobl sy'n delio â'ch achos wedi datrys y materion a godwyd yn eich cwyn yn foddhaol, dylech gysylltu â'n Tîm Datrys cwynion eich hun a rhoi gwybod iddynt.

Mae ein Tîm Datrys Cwynion yn ceisio datrys y materion na allai'r bobl sy'n delio â'ch achos eu datrys. Mae cyfeiriad y Tîm Datrys Cwynion ar y llythyr y byddwn wedi'i anfon atoch ynghylch faint o gynhaliaeth plant y dylid ei thalu.

Caiff y rhan fwyaf o gwynion eu datrys gan ein Tîm Datrys Cwynion o fewn 15 diwrnod gwaith. Bydd y tîm hwn yn cysylltu â chi ac yn siarad am y materion rydych wedi'u codi a chytuno ar sut i'w datrys. Os credwn na allwn ddatrys eich cwyn o fewn 15 diwrnod gwaith, byddwn yn cytuno ar gynllun gyda chi i'w datrys.

Beth fydd yn digwydd os nad wyf yn fodlon â sut y deliwyd â'm cwyn?

Os nad ydych yn fodlon â'r ymateb gan y Tîm Datrys Cwynion, gallwch ofyn i'n Tîm Adolygu Cwynion ystyried eich cwyn. Byddant yn edrych i weld a ddeliwyd â'r gŵyn yn briodol ac i weld a ellir gwneud unrhyw beth arall i helpu.

Gallwch gysylltu â'n Tîm Adolygu Cwynion drwy:

  • ysgrifennu i'r cyfeiriad a roddwyd ar y llythyr y mae'r Tîm Datrys Cwynion wedi'i anfon atoch, neu
  • anfon e-bost i'r ganolfan sy'n delio â'ch achos.

Ar ôl cael ymateb gan y Tîm Adolygu Cwynion, os ydych yn dal i deimlo nad ydym wedi delio â'ch cwyn yn briodol, gallwch ysgrifennu at yr Archwilydd Achosion Annibynnol (ICE).

A allaf gael help i gwyno?

Os hoffech gael rhywfaint o help i gwyno am y gwasanaeth a gawsoch gennym, gallech wneud y canlynol:

  • Gofyn i sefydliad fel y Ganolfan Cyngor Ar Bopeth. Mae gennym gysylltiadau i nifer o sefydliadau eraill a allai fod yn ddefnyddiol i chi.
  • Gofyn i gyfreithiwr. Efallai y gallwch gael cyngor am ddim o dan y Cynllun Cyngor a Chymorth Cyfreithiol (arferai gael ei alw'n gymorth cyfreithiol). Gall eich cyfreithiwr ddweud wrthych os oes gennych hawl i gael hwn.
  • Siarad â'ch Aelod Seneddol (AS).

Gall eich AS hefyd ofyn i'r Ombwdsman Seneddol a Gwasanaeth Iechyd edrych ar eich cwyn.


Top y dudalen