Sut mae'r CSA yn datrys anghydfodau o ran pwy yw'r rhiant?
Mae gennym dair ffordd o ddatrys anghydfodau o ran pwy yw'r rhiant.
- tybio pwy yw'r rhiant
- profi DNA
- cyfeirio'r anghydfod i'r llys i wneud penderfyniad.
Beth yw tybio pwy yw'r rhiant?
Os oes rheswm penodol i gredu mai'r person a enwir fel rhiant y plentyn, mewn gwirionedd, yw rhiant y plentyn, mae gennym hawl, yn ôl y gyfraith, i dybio mai nhw yw'r rhiant.
Mae hyn yn caniatáu i ni weithio allan faint o gynhaliaeth plant y dylid ei thalu ac anfon llythyr at y person a enwir fel rhiant y plentyn sy'n dweud wrthynt bod yn rhaid iddynt dalu'r swm hwnnw. Bydd y trefniant hwn yn parhau hyd nes y gall y person a enwir gyflwyno tystiolaeth i ddangos nad ydynt, mewn gwirionedd, yn rhiant i'r plentyn.
Pryd gall y CSA dybio pwy yw'r rhiant?
Gallwn dybio mai'r person a enwir fel rhiant plentyn yw'r tad os:
- oeddent yn briod â mam y plentyn ar unrhyw adeg rhwng cenhedlu a genedigaeth y plentyn (os nad yw'r plentyn wedi ei fabwysiadu ers hynny), neu
- ydynt wedi eu henwi fel tad y plentyn ar dystysgrif geni'r plentyn ac nad yw'r plentyn wedi ei fabwysiadu ers cwblhau'r dystysgrif geni.
Gallwn dybio mai'r person a enwir fel rhiant plentyn yw'r rhiant os byddant
- yn gwrthod cymryd prawf DNA
- wedi cymryd prawf DNA sy'n dangos eu bod yn rhiant i'r plentyn
- wedi mabwysiadu'r plentyn
- wedi eu henwi mewn gorchymyn llys fel rhiant plentyn lle ganwyd y plentyn i fam faeth (merch sydd wed cario plentyn ar ran person arall)
- yn berson, yn ôl y gyfraith, sydd yn rhiant i blentyn a anwyd o ganlyniad i driniaeth ffrwythlondeb (o dan Adran 27 neu 28 Deddf Ffrwythloni ac Embryoleg Dynol 1990)
- wedi eu datgan i fod yn rhiant i'r plentyn mewn 'datganiad bod yn rhiant' a wnaed gan lys, ac nad yw'r plentyn wedi ei fabwysiadu ers hynny (yn yr Alban, gelwir hwn yn 'declarator of parentage')
- wedi eu canfod neu wedi eu barnu gan lys i fod yn rhiant i'r plentyn, hyd yn oed os nad pwy yw'r rhiant oedd mater canolog yr achos.
Os wyf yn cael fy enwi fel rhiant plentyn, a allaf apelio i'r CSA yn erbyn tybio ynglŷn â phwy yw'r rhiant?
Yn dechnegol, na allwch. Gall person a enwir fel rhiant plentyn ond apelio yn erbyn penderfyniad am sut rydym yn gweithio cynhaliaeth plant allan. Gallant wneud hyn ar y sail nad ydynt yn rhiant i'r plentyn, ond eu cyfrifoldeb hwy yw darparu'r dystiolaeth i brofi nad ydynt yn rhiant i'r plentyn.
Rhaid i ni dderbyn unrhyw apêl o fewn un mis i ddyddiad y llythyr a anfonwyd gennym at y person a enwir fel rhiant y plentyn. Mae'r llythyr hwn yn dweud wrthynt sut mae'r gynhaliaeth plant wedi ei gweithio allan.
Neu, gall y person a enwir fel rhiant y plentyn wneud cais yn uniongyrchol i'r llys ar unrhyw adeg i brofi nad ydynt yn rhiant i'r plentyn. Byddent yn gwneud cais am 'ddatganiad peidio bod yn rhiant' (neu 'declarator of non-parentage' yn yr Alban).
Bydd y llysoedd fel arfer yn gofyn i'r person a enwir fel rhiant y plentyn i gymryd prawf DNA . Os bydd y person yn gwrthod, gall y llys dybio eu bod, mewn gwirionedd, yn rhiant i'r plentyn.
Nid yw mynd i'r llys i brofi pwy yw'r rhiant yr un peth ag apelio yn erbyn penderfyniad cynhaliaeth plant. Fodd bynnag, os bydd llys yn gwneud datganiad nad ydynt yn rhiant, ni fydd disgwyl i'r person hwnnw dalu cynhaliaeth plant am y plentyn hwnnw mwyach.
Pryd byddwn yn cyfeirio penderfyniadau i'r llysoedd?
Mewn rhai achosion, fel os caiff plentyn ei eni o ganlyniad i driniaeth ffrwythlondeb, efallai na fydd prawf DNA yn addas ac ni allwn dybio pwy yw'r rhiant. Yn yr achosion hyn, gallwn wneud cais i'r llysoedd a gofyn iddynt hwy benderfynu.
Gwybodaeth berthnasol
- Darllenwch ein taflen "Beth fydd yn digwydd os bydd rhywun yn gwadu eu bod yn rhiant i blentyn?" [941Kb]

