HafanEich achosGwadu tadolaeth

Gwadu bod yn rhiant

Beth sy'n digwydd pan fydd rhywun yn gwadu eu bod yn rhiant i blentyn?

Gall person a enwir yn rhiant i blentyn wadu mai hwy yw'r rhiant mewn gwirionedd. Os bydd hyn yn digwydd, mae'n rhaid i ni edrych i mewn i'r achos i weld os mai'r person yw'r rhiant ai peidio, fel y gallwn sefydlu'r trefniadau cynhaliaeth plant cywir.

Gelwir achosion lle mae'r person a enwir fel rhiant i'r plentyn yn gwadu mai hwy yw'r rhiant yn 'gwadu bod yn rhiant'.

Pryd gall person wadu eu bod yn rhiant i blentyn?

Gall y person a enwir fel rhiant y plentyn wadu mai hwy yw'r rhiant un ai:

  • cyn i ni weithio allan cynhaliaeth plant
  • ar ôl i ni weithio allan cynhaliaeth plant.

Beth fydd yn digwydd os gwadir tadolaeth cyn i ni weithio allan cynhaliaeth plant?

Rydym bob amser yn gofyn i'r person a enwir fel rhiant y plentyn os ydynt yn derbyn mai hwy yw rhiant unrhyw blentyn a enwir cyn i ni weithio allan cynhaliaeth plant.

Gall y person a enwir fel rhiant y plentyn wadu mai hwy yw rhiant plentyn cyn i ni weithio allan y gynhaliaeth. Os bydd hyn yn digwydd, byddwn yn edrych ar eu rhesymau yn fanwl a gofyn i'r person ddarparu tystiolaeth i ategu'r gwadiad. Ni fyddwn yn gofyn i'r person a enwir fel rhiant y plentyn i dalu cynhaliaeth plant nes ein bod wedi datrys yr anghydfod.

Beth fydd yn digwydd os bydd person yn gwadu mai hwy yw rhiant plentyn?

Fe wnawn hefyd ddweud wrth y rhiant â gofal bod y person arall wedi gwadu mai hwy yw'r rhiant, a gofyn i'r rhiant dibreswyl ddarparu tystiolaeth i ategu eu honiad.

Fe wnawn ddefnyddio'r dystiolaeth a ddarparwyd gan y ŷddau berson i ddod i benderfyniad ynglŷn ag os yw'r person a enwir fel y rhiant yn rhiant i'r plentyn. Yna, fe wnawn geisio datrys yr anghydfod fel y gallwn sefydlu'r trefniadau talu cynhaliaeth plant cywir.

Beth fydd yn digwydd os gwadir tadolaeth ar ôl i ni weithio allan cynhaliaeth plant?

Os bydd rhywun yn gwadu eu bod yn rhiant ar ôl i ni weithio allan cynhaliaeth plant, mae'n rhaid iddynt ddarparu tystiolaeth nad hwy yw rhiant y plentyn.

Dim ond tystiolaeth "derfynol" byddwn yn ei derbyn. Gall y dystiolaeth hon fod yn ganlyniadau prawf DNA neu ddatganiad llys sy'n profi nad y person yw rhiant y plentyn. Gelwir hyn yn "ddatganiad peidio bod yn rhiant". Yn yr Alban gelwir hyn yn "declorator of non-parentagae".

Unwaith y byddwn wedi gwneud cyfrifiad, bydd rhaid i'r person a enwir fel rhiant y plentyn dalu cynhaliaeth plant hyd nes iddynt ddarparu tystiolaeth nad hwy yw'r rhiant mewn gwirionedd. Yna, byddwn yn ad-dalu taliadau cynhaliaeth plant a wnaed ar gyfer y plentyn hwnnw o'r dyddiad y cawsom wybodaeth ganddynt yn gwadu mai hwy oedd y rhiant.

Nid oes rhaid i ni ad-dalu unrhyw gynhaliaeth plant a dalwyd ganddynt cyn iddynt wadu mai nhw oedd y rhiant.

Ceir mwy o wybodaeth am beth fydd yn digwydd pan fydd rhywun yn gwadu bod yn rhiant i blentyn yma.

Top y dudalen