Beth yw profion DNA?
DNA yw asid diocsiriboniwclêig ac mae'n bodoli ym mron pob cell sy'n ffurfio'r corff dynol.
Mae DNA yn cynnwys côd sy'n gyfrifol am y nodweddion fydd gan berson. Gellir defnyddio samplau o DNA i weld a yw pobl yn perthyn a chânt eu defnyddio i brofi neu wrthbrofi p'un a yw rhywun yn rhiant i blentyn ai peidio.
Gall profi DNA naill ai:
- profi 100% nad yw person yn rhiant i blentyn
- dangos tebygolrwydd o 99.99% bod person yn rhiant i blentyn.
Nid oes gan unrhyw 2 berson yn y byd yr un DNA, heblaw am efeilliaid unwy (neu achosion o enedigaethau lluosol). Os yw person sy'n un o bâr o efeilliaid unwy yn cael ei enwi fel rhiant plentyn, ni all prawf DNA ddweud pa un o'r efeilliaid yw'r rhiant - dim ond bod un ohonynt yn rhiant, neu nad yw'r un ohonynt yn rhiant, i'r plentyn.
Pryd mae'r CSA yn defnyddio profion DNA?
Rydym yn defnyddio profion DNA os na allwn dybio pwy yw rhiant plentyn. Byddwn yn cyfweld â'r person a enwir fel rhiant y plentyn a'r rhiant â gofal, ac yn gofyn i bawb sy'n gysylltiedig i gymryd prawf DNA.
Bydd angen i'r person a enwir fel rhiant i'r plentyn a'r rhiant â gofal gytuno i gymryd y prawf. Bydd angen i'r rhiant â gofal hefyd gytuno i'r plentyn gymryd y prawf, oni fydd y plentyn dros 16 oed pan allant roi eu caniatâd eu hunain.
Bydd yr holl wybodaeth a roddir i'r cwmni profi DNA, a holl ganlyniadau'r profion, yn gyfrinachol. Fel arfer, dim ond i ni, y rhiant â gofal a'r person a enwir fel y rhiant bydd y canlyniadau yn cael eu rhoi. Fodd bynnag, mewn rhai achosion, gallai'r wybodaeth gael ei rhoi i'r llys hefyd i'w helpu i benderfynu.
Top y dudalenBeth mae'r prawf DNA yn ei gynnwys?
Fel arfer mae prawf DNA yn cynnwys profi sampl o gelloedd y boch.
Bydd cwmni profi DNA yn anfon pecyn samplu at feddyg y person a enwir fel rhiant y plentyn ac at feddyg y rhiant â gofal. Gall y rhiant â gofal a'r rhiant dibreswyl benderfynu os ydynt am ddefnyddio meddyg eu hunain, neu ddewis meddyg arall o'r rhestr a ddarperir gennym.
Bydd y meddyg yn cymryd rhai celloedd o'r boch o du fewn i'r geg gan ddefnyddio sbwng bach ar ffon. Mae'r prawf yn gyflym, yn syml ac yn ddi-boen. Bydd y meddyg wedyn yn anfon y samplau mewn pecyn diogel at y cwmni profi DNA.
Gellir gwneud prawf DNA o sampl gwaed hefyd. Os byddai'n well gan y person a enwir fel rhiant y plentyn a'r rhiant â gofal y math hwn o brawf, dylent roi gwybod i ni neu'r cwmni profi.
Rhaid i'r person a enwir fel rhiant y plentyn, y rhiant â gofal a'r plentyn gael yr un math o sampl. Er enghraifft, mae'n rhaid iddynt i gyd gael profion sampl o'u gwaed neu brofion sampl o gelloedd y boch.
Hefyd, bydd yn rhaid i ni gael 2 lun maint pasport o bob person a fydd yn rhoi sampl. Mae'r rhain at ddibenion diogelwch ac efallai y cânt eu defnyddio gennym i nodi pwy a roddodd y sampl.
Sut rydym yn trefnu'r profion DNA?
Rydym yn cyfeirio profion DNA at gwmni arbenigol. Bydd y cwmni yn anfon pecyn gwybodaeth at y person a enwir fel rhiant y plentyn a'r rhiant â gofal, a bydd yn cynnwys y canlynol:
- Llythyr yn cynnwys manylion:
- rhif cyfeirnod y cais
- enwau'r bobl fydd yn rhoi samplau ar gyfer y prawf
- gwybodaeth am sut i drefnu apwyntiad i roi sampl.
- Llyfryn am brofion DNA
- Rhestr o feddygon lleol sydd wedi cytuno i gymryd samplau
- Ffurflen apwyntiad y bydd yn rhaid i'r person a enwir fel rhiant y plentyn ei dychwelyd ar ôl iddynt drefnu apwyntiad gyda'r meddyg fydd yn cymryd eu sampl
- Llythyr meddyg rhag ofn nad yw'r meddyg a ddewisir ar y rhestr
- Amlen ateb rhagdaledig.
Oes unrhyw gost am brawf DNA?
Oes. Y pris am brofi 3 o bobl (dau oedolyn ac un plentyn) yw £281.05.
Os bydd y person a enwir fel rhiant y plentyn yn talu wrth ddychwelyd eu ffurflen apwyntiad, gallant dalu ar gyfradd ostyngedig sydd ar gael drwy Cellmark, cwmni a ddefnyddir gennym i gario allan y profion DNA. Ar hyn o bryd, y gyfradd ostyngedig yw £215.69. Gall y costau hyn newid o dro i dro. Os hoffech wirio'r costau presennol, gallwch ein ffonio neu ysgrifennu atom gan ddefnyddio'r rhif ffôn neu'r cyfeiriad sydd ar ben y llythyr a anfonwyd atoch yn gofyn i chi drefnu'r prawf DNA. Nid yw'r CSA yn gwneud unrhyw arian o hyn o gwbl.
Top y dudalenPwy sy'n gorfod talu am y prawf?
Rydym yn disgwyl i'r person a enwir fel rhiant y plentyn dalu am y prawf.
Os bydd canlyniad y prawf yn dangos nad hwy yw'r rhiant, byddwn yn rhoi eu harian yn ôl iddynt a byddwn ni'n talu cost y prawf. Bydd y person a enwir fel rhiant y plentyn yn derbyn pecyn gwybodaeth a fydd yn rhoi gwybod faint sy'n rhaid iddynt dalu. Mae'n rhaid iddynt anfon y swm hwn wrth ddychwelyd y ffurflen apwyntiad. Os ydynt yn talu am y prawf DNA wrth ddychwelyd y ffurflen apwyntiad, gallant dalu'r gyfradd ostyngedig.
Os byddwn yn derbyn na all y person a enwir fel rhiant y plentyn dalu am y prawf DNA, byddwn yn talu'r ffi ar eu rhan. Ond os bydd y prawf yn dangos eu bod yn rhiant i'r plentyn, bydd yn rhaid iddynt dalu'r arian yn ôl i ni.
A all y person a enwir fel rhiant y plentyn neu'r rhiant â gofal drefnu prawf DNA preifat?
Gallant. Gall y naill berson drefnu prawf DNA preifat. Fodd bynnag, byddwn ond yn derbyn canlyniadau prawf preifat os byddwn yn fodlon:
- bod y prawf wedi ei gynnal gan gwmni profi DNA sydd wedi ei gymeradwyo i'w ddefnyddio pan fydd angen profion DNA ar y llysoedd (gallwch gael rhestr o'r cwmnïau hyn yma)
- bod y trefniadau diogelwch yn cyrraedd safonau derbyniol
- bod pob un a oedd yn ymwneud â'r achos yn fodlon y cynhaliwyd y prawf yn briodol,
- bod y prawf yn seiliedig ar samplau DNA y person a enwir fel rhiant y plentyn, y rhiant â gofal a'r plentyn.
Beth fydd yn digwydd os bydd naill ai'r person a enwir fel rhiant y plentyn neu'r rhiant â gofal yn anfodlon â'r weithdrefn brofi?
Os yw'r naill berson yn anfodlon gydag unrhyw ran o'r weithdrefn, gallant gwyno yn uniongyrchol i Adran Gwasanaethau Cwsmeriaid y cwmni profi DNA. Neu, gallant ofyn i ni ddelio â'r cwyn ar eu rhan. Ymchwilir yn llawn i bob cwyn.
Beth fydd yn digwydd i ganlyniadau'r prawf DNA?
Unwaith y bydd y cwmni profi DNA yn derbyn yr holl samplau, byddant yn rhoi gwybod i'r person a enwir fel rhiant y plentyn, y rhiant â gofal ac i ni eu bod yn barod i ddechrau'r prawf. Fel arfer, mae'r prawf yn cymryd 10 diwrnod i'w gwblhau. Bydd y cwmni profi DNA yn anfon y canlyniadau drwy'r post dosbarth cyntaf at y person a enwir fel rhiant y plentyn, y rhiant â gofal ac atom ni. Mae'r canlyniadau yn gyfrinachol a ni chânt eu rhoi dros y ffôn. Efallai caiff y canlyniadau eu rhoi i lys fel tystiolaeth, os yw'n berthnasol.
Gall wneud profion DNA oedi gwneud y cyfrifiad cynhaliaeth plant, ond ni fydd hyn yn newid y dyddiad cychwynnol. Os ydych yn cael eich enwi fel rhiant i blentyn ac mae'r prawf DNA yn dangos mai chi yw rhiant y plentyn, bydd rhaid i chi dalu unrhyw gynhaliaeth plant sy'n ddyledus. Bydd hyn yn cynnwys unrhyw gynhaliaeth plant na thalwyd tra bod yr anghydfod yn cael ei ddatrys yn ogystal â'r gost o gael prawf DNA.
Beth fydd yn digwydd os bydd rhywun yn gwrthod cymryd prawf DNA?
Os bydd y person a enwir fel rhiant plentyn yn gwadu bod yn rhiant ond yn gwrthod cymryd prawf DNA, byddwn yn tybio eu bod yn rhiant i'r plentyn a byddant yn gorfod talu cynhaliaeth plant.
Os bydd rhiant â gofal yn gwrthod cymryd y prawf gallwn gau'r achos.
Beth fydd yn digwydd ar ôl datrys anghydfod?
Os yw'r prawf DNA yn dangos mai nid y person a enwir fel rhiant y plentyn yw'r rhiant,byddwn yn cysylltu â hwy ac yn ad-dalu cost llawn y prawf DNA (os ydynt wedi talu am y prawf DNA a drefnwyd gennym).
Nid oes rhaid i ni ad-dalu unrhyw gynhaliaeth plant a dalwyd ganddynt ar gyfer y plentyn hwnnw cyn iddynt wadu mai hwy oedd rhiant y plentyn.
Os yw'r prawf DNA yn dangos mai'r person a enwir fel rhiant y plentyn yw rhiant y plentyn, byddwn yn gweithio allan faint o gynhaliaeth plant y dylent ei dalu. Bydd hyn yn cynnwys cynhaliaeth plant o'r dyddiad y dylai'r taliadau fod wedi cychwyn gan gynnwys cost y prawf DNA.
Top y dudalenGwybodaeth berthnasol
-
[an error occurred while processing this directive]

