Gwybodaeth ar gyfer pan fo un rhiant yn byw dramor
Fel arfer, gall yr Asiantaeth Cynnal Plant ond delio â chais am gynhaliaeth plant pan fo'r ddau riant a'r plentyn yn byw yn y DU. Yr unig eithriadau i hyn yw pan fo naill ai'r rhiant dibreswyl neu'r rhiant â gofal
- Yn gweithio dramor yng ngwasanaeth y goron, hynny yw – maent yn was sifil neu'n gweithio o fewn gwasanaeth llysgenhadol Ei Mawrhydi neu wasanaeth sifil Ei Mawrhydi dramor.
- Yn aelod o'r Lluoedd Arfog
- Yn gweithio dramor i gwmni sydd wedi'i selio yn y DU, hynny yw mae'n cyflogi pobl i weithio y tu allan i'r DU ond yn gwneud taliadau trwy gyflogres yn y DU; ac mae'r cwmni wedi'i gofrestru o dan y ddeddf cwmnïau 1985 (Cymru, Lloegr a Gogledd Iwerddon) neu orchymyn cwmnïau 1986 (Gogledd Iwerddon).
- Yn gweithio dramor ar secondiad i gorff penodedig, er enghraifft, - o ymddiriedolaeth y GIG; neu awdurdod iechyd rhanbarthol; neu ymddiriedolaeth iechyd cynradd; neu awdurdod lleol.
Gallwch gael mwy o gyngor am ba un a yw'r rheolau hyn yn gymwys i chi o'n Linell Gymorth Gymraeg
Os yw'ch cynhaliaeth wedi cael ei chyfrifo gan yr Asiantaeth Cynal Plant gallwch gysylltu â'r swyddfa sy'n delio â'ch achos
Os yw'r rhiant dibreswyl yn byw yn Awstralia a bod y rhiant â gofal yn byw yn y DU yna efallai y gall Asiantaeth Cynnal Plant Awstralia dderbyn cais gennych i asesu cynhaliaeth. Cysylltwch ag Asiantaeth Cynnal Plant Llywodraeth Awstralia
Os bydd un o'r rhieni yn byw dramor ond nad ydynt yn dod o dan un o'r categorïau uchod yna gall y rhiant â gofal wneud cais i'r llysoedd am gynhaliaeth plant. Os bydd y rhiant â gofal angen help i gasglu'r arian a ddyfernir o dan y gorchymyn llys am gynhaliaeth gallant gysylltu ag adran Gorfodaeth Gytbwys o Orchmynion Cynhaliaeth yr Ymddiriedolwr Gwladol a'r Cyfreithiwr Swyddogol. Gorfodaeth Gytbwys o Orchmynion Cynhaliaeth - neu REMO - yw'r broses sy'n galluogi i orchmynion a wneir gan lysoedd yn y DU ar gyfer preswylwyr y DU gael eu cofrestru a'u gorfodi gan y llysoedd neu awdurdodau eraill mewn gwledydd eraill.
Mae hwn yn drefniant cytbwys sy'n golygu y gall gorchmynion cynhaliaeth a wneir dramor er budd unigolion tramor gael eu cofrestru a'u gorfodi gan lysoedd y DU yn erbyn preswylwyr y DU.
Top y dudalen
Gwybodaeth berthnasol
- Darllenwch ein taflen "Sut caiff cynhaliaeth plant ei gweithio allan?" [941Kb]

