Hafan › Eich achos › Taliadau › Pwerau gorfodi › Gorfodi yng Nghymru a Lloegr
Gorfodi yng Nghymru a Lloegr
Y camau gallwn eu cymryd
Os yw'r rhiant dibreswyl yn byw yng Nghymru neu yn Lloegr, byddwn yn cychwyn drwy wneud cais i Lys Ynadon am orchymyn atebolrwydd ar gyfer y gynhaliaeth plant a fethwyd. Mae hyn yn rhoi cydnabyddiaeth gyfreithiol bod dyled angen ei thalu ac mae'n rhoi'r awdurdod y llys i ni allu cymryd camau er mwyn adennill y gynhaliaeth plant sy'n ddyledus.
Rhwng mis Chwefror 2007 a mis Ionawr 2007, yng Nghymru a Lloegr, rhoddwyd oddeutu 17235 o orchmynion atebolrwydd gan y llysoedd, sy'n gynnydd o 27.54% i'w gymharu â'r flwyddyn cynt.
Yna byddwn yn cymryd y camau y credwn fyddai fwyaf effeithiol ar gyfer bob achos penodol. Gallwn ddefnyddio mwy nag un pŵer ar y tro.
Gallwn:
Pasio'r achos ymlaen i feilïaid er mwyn casglu'r gynhaliaeth plant sy'n ddyledus.
Mae beilïaid yn gweithredu ar ein rhan er mwyn atafaelu eiddo'r rhiant dibreswyl a'i werthu i gael yr arian sy'n ddyledus.
Rhewi arian mae'r rhiant dibreswyl yn berchen arno
Gall llys sirol wneud gorchymyn dyled trydydd parti sydd, ar ddyddiad penodol, yn cyfarwyddo:
- unigolyn, neu fusnes i rewi arian sy'n ddyledus i riant dibreswyl neu
- banc, cymdeithas adeiladu neu'r Swyddfa Bost i rewi arian mewn cyfrif sydd yn enw'r rhiant dibreswyl.
Unwaith bydd yr arian wedi ei rewi, ni all y rhiant dibreswyl ddefnyddio'r arian hwnnw, na chael arian o anfoneb sydd heb ei thalu - os ydynt yn hunangyflogedig, heb ganiatâd gan y llys. Yna, gall y llys sirol orchymyn y banc, cymdeithas adeiladu neu'r Swyddfa Bost i dalu'r arian a ddengys ar y gorchymyn dyled trydydd parti i ni.
Rhwng mis Chwefror 2007 a mis Ionawr 2008 gwnaethom geisiadau am oddeutu 1,860 o orchmynion dyled trydydd parti.
Rhoi'r gorchymyn atebolrwydd ar y Gofrestr Dyfarniadau, Gorchmynion a Dirwyon
Defnyddir y Gofrestr gan asiantaethau cyfeirio credyd er mwyn sefydlu teilyngdod credyd unigolion. Gall hefyd effeithio ar aelodaeth person i gyrff proffesiynol. Mae'r gofrestr hon wedi disodli'r hen Gofrestr Dyfarniadau Llys Sirol (CCJ) ers 2006.
Os oes gan y rhiant dibreswyl eu busnes eu hunain, gall sut a phryd y gallant dalu am unrhyw beth sydd ei angen arnynt ar gyfer eu busnes newid os bydd eu darparwyr yn ymwybodol fod y rhiant ar y gofrestr hon.
Rhwng mis Chwefror 2007 a mis Ionawr 2008, cafodd dyledion tua 1,620 o rieni oedd heb dalu eu cofrestru ar y Gofrestr.
Cofrestru'r ddyled yn erbyn eiddo neu asedau
Gallwn wneud cais i'r llys sirol wneud gorchymyn talu. Os yw'r rhiant dibreswyl yn berchen ar dŷ neu dir, yna gallwn fynd at y Gofrestrfa Dir a chofrestru gyda hwy bod gennym orchymyn talu yn erbyn y rhiant dibreswyl. Gallwn hefyd gofrestru gorchymyn talu os yw'r rhiant dibreswyl yn berchen ar asedau eraill, fel stociau a chyfrannau, neu fuddiant ariannol mewn ymddiriedolaeth.
Pan gaiff yr eiddo, neu'r asedau hynny mae'r rhiant dibreswyl yn unig yn berchen arnynt, eu gwerthu, dylai unrhyw arian sy'n weddill ar ôl talu gorchmynion neu daliadau eraill (fel morgais) gael ei dalu yn uniongyrchol i ni.
Gallwn hefyd wneud cais i'r llysoedd i orfodi'r rhiant dibreswyl i werthu eu heiddo er mwyn cael yr arian sy'n ddyledus ganddynt.
Rhwng mis Chwefror 2007 a mis Ionawr 2008 gwnaethom geisiadau am 1,780 o orchmynion talu.
Cymryd trwydded gyrru'r rhiant dibreswyl oddi arnynt neu eu hanfon i'r carchar
Os yw rhiant dibreswyl wedi gwrthod talu'r gynhaliaeth plant sy'n ddyledus ganddynt, gallwn wneud cais i'r llys am:
- Gorchymyn gwahardd - mae hyn yn golygu cymryd trwydded gyrru'r rhiant dibreswyl oddi arnynt, neu yn eu gwahardd rhag dal trwydded gyrru am hyd at ddwy flynedd, neu
- gwarant carcharu - mae hyn yn golygu anfon y rhiant dibreswyl i'r carchar am hyd at chwe wythnos.
Hyd yn oed os gwaherddir y rhiant dibreswyl rhag gyrru, neu os cânt eu hanfon i'r carchar, byddant dal yn gorfod talu'r holl arian sy'n ddyledus ganddynt.
Rhwng mis Chwefror 2007 a mis Ionawr 2008, cafodd 565 o rieni dibreswyl ddedfryd ddi-oed neu ddedfryd ataliedig i'r carchar. Cafodd 25 o rieni dibreswyl eraill waharddiadau trwydded gyrru di-oed neu ataliedig. (Ffigyrau am Brydain Fawr ar y cyfan)
Gwybodaeth berthnasol
- Darllenwch ein taflen "Pa gamau all y CSA eu cymryd os na fydd rhieni'n talu?" [941Kb]

