HafanEich achosTaliadau › Pwerau gorfodi

Pwerau gorfodi

Os na fyddwch wedi dweud wrthym na fyddwch yn gwneud taliad, gallwn gymryd camau i sicrhau eich bod yn talu. Os ydych yn talu drwom ni, gallwn gymryd camau ar unwaith. Os gwnaethoch chi a'r rhiant arall gytuno y byddech yn eu talu'n uniongyrchol ar ôl iddynt wneud cais i ni, a'ch bod yn methu â chadw at y trefniant hwnnw, gall y rhiant â gofal gysylltu â ni i gofyn i ni weithredu.

Byddwn yn ceisio cysylltu â chi dros y ffôn i ddechrau. Os na allwn gysylltu â chi dros y ffôn, byddwn yn ysgrifennu atoch i'ch rhybuddio y gallwn ddechrau cymryd camau gorfodi oni fyddwch

  • yn cytuno i dalu swm llawn y ganhaliaeth plant a fethwyd gennych, neu
  • yn cadw at y cytundeb a wnaethoch eisoes.

Yna bydd gennych saith diwrnod i wneud hyn. Os na fyddwch yn cysylltu â ni ac yn cytuno i dalu'r hyn sy'n ddyledus gennych, gallwn ddechrau cymryd camau gorfodi.

Bydd y cam a gymerwn yn dibynnu ar amgylchiadau pob achos, ond gallai olygu cymryd camau drwy'r llys.

Byddwn yn gweithio gydag asiantaeth casglu dyledion arbenigol, sydd â'r awdurdod i

  • cysylltu â rhieni nad ydynt yn talu, a
  • casglu cynhaliaeth plant ar ein rhan.

Os na fyddwch yn ymateb i'r rhybudd hwn ac yn gweithio i gyflogwr, ein cam cyntaf yw cymryd cynhaliaeth plant o'ch enillion neu eich pensiwn. Gwnawn hyn drwy orchymyn didynnu o enillion gorfodol. Byddwn yn dweud wrth eich cyflogwr faint i'w gymryd o'ch enillion neu eich pensiwn. Rhaid i'ch cyflogwr gymryd y swm hwn a'i drosglwyddo i ni ar eich ran. Os byddant yn methu â gwneud hyn, gallwn fynd â hwy i'r llys.

Gall eich cyflogwr hefyd gymryd swm ychwanegol o hyd at £1 o'ch enillion bob tro y bydd yn rhaid iddynt gymryd arian o'ch enillion. Mae hyn er mwyn helpu â'u costau gweinyddol.

Os na all eich cyflogwr gymryd y swm llawn yn uniongyrchol o'ch enillion neu eich pensiwn (er enghraifft, am nad ydych wedi ennill digon yn ystod wythnos benodol) ac nad ydych wedi gwneud trefniadau eraill i dalu, gallwn fynd â chi i'r llys. Mae cymryd camau trwy'r llys yn ddrud - efallai y bydd yn rhaid i chi dalu costau'r llys yn ogystal â'r gynhaliaeth plant sy'n ddyledus gennych. Mae hyn yr un fath os ydych yn hunangyflogedig.

Os ydych yn Lluoedd Arfog Ei Mawrhydi ac wedi methu â gwneud eich taliadau, byddwn yn anfon cais i'r Weinyddiaeth Amddiffyn i gymryd y swm sy'n ddyledus o'ch cyflog.

Os ydych yn cael budd-daliadau, pensiwn neu Bensiwn Rhyfel, fel arfer byddwn yn cymryd y swm sy'n ddyledus yn uniongyrchol o'ch budd-dal neu bensiwn.

A allaf apelio yn erbyn y penderfyniad i wneud gorchymyn didynnu o enillion?

Gallwch. Fodd bynnag, dim ond ar un neu'r ddau o'r rhesymau canlynol y gellir selio eich apêl.

  • Nid yw'r wybodaeth gywir yn ymddangos ar ein cais
  • Ni chaiff y taliadau a wneir i chi gan eich cyflogwr eu trin fel enillion

Gallwch gael mwy o wybodaeth am apelio yn erbyn ein penderfyniad mewn Sut gallaf apelio yn erbyn penderfyniad cynhaliaeth plant? (CSL307).

Pa gamau eraill gall y CSA eu cymryd os na fyddaf yn gwneud taliad?

Ar wahân i gymryd cynhaliaeth plant yn uniongyrchol o'ch enillion neu eich pensiwn, gallwn

  • cyfeirio'r achos i asiantaeth casglu dyledion, neu
  • defnyddio'r llysoedd i hawlio unrhyw gynhaliaeth plant sy'n ddyledus gennych.

Byddwn yn rhoi digon o rybudd os byddwn yn cymryd camau drwy'r llys. Mae cymryd camau drwy'r llysoedd yn gostus a gallai olygu y gallech orfod talu mwy o arian, cael eich trwydded yrru wedi'i diddymu neu hyd yn oed fynd i'r carchar. Fodd bynnag, cyn i ni gymryd y cam hwn, byddwn bob amser yn ystyried

  • lles eich plant
  • eich anghenion
  • anghenion y rhiant â gofal, ac
  • unrhyw galedi y dywedwch wrthym andano.

Os byddwch yn stopio gweithio i'ch cyflogwr, yn dod yn ddi-waith neu'n newid swyddi, dywedwch wrthym cyn gynted â phosibl.

Gallwch gael gwybodaeth am y camau llys gallwn eu cymryd os ydych yn byw yng Nghymru neu Lleogr yma.

Gallwch gael gwybodaeth am y camau llys gallwn eu cymryd os ydych yn byw yn yr Alban yma.

Gallwch gael mwy o wybodaeth am y pwerau y gallwn eu defnyddio i sicrhau eich bod yn talu yn ein taflen Pa gamau gall yr Asiantaeth Cynnal plant eu cymryd os na fydd rhieni'n talu? (CSL306W).


Top y dudalen