HomeYour casePaymentsPwerau gorfodiGorfodi yn yr Alban

Gorfodi yn yr Alban

Y gweithredoedd cyfreithiol y gallwn eu cymryd

Os bydd y rhiant dibreswyl yn byw yn yr Alban byddwn yn cychwyn drwy wneud cais i'r Siryf am orchymyn atebolrwydd. Mae hyn yn cydnabod yn gyfreithiol bod dyled i'w dalu ac yn golygu y gallwn gymryd gweithredoedd pellach.

Dyfarnwyd tua 1,175 gorchymyn atebolrwydd i ni yn yr Alban rhwng Chwefror 2007 a Ionawr 2008, cynnydd o 32% ar y flwyddyn flaenorol.

Unwaith byddwn wedi cael gorchymyn atebolrwydd byddwn yn gofyn i swyddogion y siryf anfon cais am daliad ar ein rhan. Mae'n rhoi 14 diwrnod i'r rhieni dalu'r arian sy'n ddyledus ganddynt, neu 28 diwrnod os ydynt yn byw tu allan i'r DU dros dro. Os na fyddant yn cydymffurfio a hyn, byddwn yn cymryd gweithredoedd cyfreithio pellach i gael y gynhaliaeth plant na dalwyd. Yna byddwn yn gweithredu yn y ffordd y credwn bydd fwyaf effeithiol ymhob achos. Gallwn ddefnyddio mwy nag un o'n pwerau ar yr un pryd.

Gallwn:

Gofyn i swyddogion y siryf i werthu eiddo rhiant dibreswyl

Gelwir hyn yn atafaeliad. Bydd swyddogion y siryf yn rhestru gwerth eiddo:

  • sy'n eiddo i riant dibreswyl
  • eiddo a gedwir tu allan i'w cartref, ac
  • eiddo y gellid ei symud.

Gall hyn gynnwys ceir, beiciau modur, neu gynnwys unrhyw fodurdy neu dai allan.

Os yw rhiant dibreswyl yn hunangyflogedig, gall swyddog y siryf weithredu atafaeliad yn eu man gwaith.

Yna gellir gwerthu'r eitemau sydd ar y rhestr mewn arwerthiant cyhoeddus i gael yr arian sy'n ddyledus gan y rhiant dibreswyl mewn cynhaliaeth plant.

Os na allwn gael yr arian sy'n ddyledus ganddynt yn y ffordd hon, gallwn wneud cais am atafaeliad ac arwerthiant eithriadol. O dan "atafaeliad eithriadol", bydd swyddogion y siryf yn prisio ac yn cymryd eitemau:

  • sy'n eiddo i'r rhiant dibreswyl
  • sy'n cael eu cadw tu mewn i'r cartref and
  • a ellir eu symud.

Gall yr eitemau ar y rhestr hefyd gael eu gwerthu i gael yr arian sy'n ddyledus gan y rhiant dibreswyl mewn cynhaliaeth plant.

Rhwng Chwefror 2007 ac Ionawr 2008, gwnaed 200 atafaeliad.

Top y dudalen

Rhewi arian sy'n eiddo neu'n ddyledus i'r rhiant dibreswyl

Gallwn wneud cais am arestiad i rewi arian sy'n eiddo neu yn ddyledus i'r rhiant dibreswyl ar ddyddiad penodol. Mae hyn yn cynnwys stopio'r rhiant rhag gallu derbyn arian sy'n ddyledus iddynt neu rhag tynnu arian allan o'u cyfrif banc neu gymdeithas adeiladu neu gyfrif y Swyddfa'r Post sydd wedi rhewi. Unwaith bydd yr arian wedi ei rewi, byddwn yn gofyn i'r rhiant dibreswyl awdurdodi'r cyfrif banc, gymdeithas adeiladu neu Swyddfa'r Post i dalu cynhaliaeth plant sy'n ddyledus. Os byddant yn methu a gwneud hyn byddwn yn mynd yn ôl i'r llys i a gorchymyn i'r rhiant dibreswyl wneud y taliad i ni.

Rhwng Chwefror 2007 ac Ionawr 2008, gwnaed 445 arestiad.

Stopio gwerthiant neu drosglwyddiad unrhyw eiddo etifeddadwy y mae'r person sydd heb dalu yn eiddo arno.

Gallwn wneud cais i'r llysoedd am orchymyn yn erbyn y rhiant dibreswyl i stopio iddynt werthu neu drosglwyddo unrhyw "eiddo etifeddadwy" sy'n eiddo iddynt. Gelwir hyn yn waharddiad.

Gall eiddo etifeddadwy olygu tai, modurdai, adeiladau busnes a thir. Golyga hyn na all y rhiant dibreswyl werthu na throsglwyddo'r eiddo etifeddadwy hyd nes y byddant wedi talu'r arian sy'n ddyledus ganddynt mewn cynhaliaeth plant.

rhwng Chwefror 2007 a Ionawr 2008 gwnaethom gofrestru 885 gorchymyn atebolrwydd yn y ffordd hon.

Cymryd trwydded yrru'r rhiant dibreswyl neu eu hanfon i'r carchar

Os bydd rhiant dibreswyl wedi gwrthod talu'r gynhaliaeth plant sy'n ddyledus ganddynt, gallwn wneud cais i'r llysoedd am:

  • gorchymyn diarddel - mae hyn yn cymryd trwydded yrru'r rhiant dibreswyl oddi arnynt neu stopio iddynt gael trwydded yrru am hyd at ddwy flynedd, neu
  • a gwarant traddodi - mae hyn yn anfon rhiant dibreswyl i'r carchar am hyd at chwe wythnos.

Hyd yn oed os caiff y rhiant ei wahardd rhag gyrru neu ei anfon i'r carchar, byddant dal yn gorfod talu'r arian sy'n ddyledus ganddynt.

Rhwng Chwefror 2007 ac Ionawr 2008, bu i 565 rhiant dibreswyl dderbyn ddedfryd ddi-oed neu ataliedig i'r carchar. Bu i 25 rhiant dibreswyl dderbyn gwaharddiadau trwydded gyrru di-oed neu ataliedig.

Top y dudalen