Hafan › Eich achos › Newidiadau mewn amgylchiadau › Amgylchiadau teulu › Disgwyl babi newydd
Disgwyl babi newydd
Os yw'r rhiant dibreswyl neu eu partner yn cael Budd-dal Plant ar gyfer plant eraill sy'n byw gyda hwy, a'u bod naill ai'n talu'r gyfradd sylfaenol neu'r gyfradd is, byddant fel arfer yn talu llai o gynhaliaeth plant. Mae hyn oherwydd bydd angen iddynt dalu am ofal y plant sy'n byw gyda hwy hefyd. Yn yr amgylchiadau hyn, byddwn yn gweithio allan faint o gynhaliaeth plant y dylai'r rhiant dibreswyl ei dalu yn seiliedig ar ran o'u hincwm wythnosol net, yn hytrach na'u hincwm wythnosol net i gyd.
Os bydd y rhiant dibreswyl yn talu'r gyfradd sylfaenol
Os bydd y rhiant dibreswyl yn talu'r gyfradd sylfaenol, ni fyddwn yn ystyried y canlynol:
- 15% o'u hincwm wythnosol net os oes un plentyn yn byw gyda hwy
- 20% o'u hincwm wythnosol net os oes dau blentyn yn byw gyda hwy, neu
- 25% o'u hincwm wythnosol net os oes tri phlentyn neu fwy yn byw gyda hwy.
Os bydd y rhiant dibreswyl yn talu'r gyfradd is
Os bydd y rhiant dibreswyl yn talu'r gyfradd is, byddwn yn defnyddio'r tabl isod i weithio allan faint o gynhaliaeth plant y dylent ei dalu.
| Y nifer o blant sydd angen cynhaliaeth plant | Y nifer o blant sy'n byw gyda'r rhiant dibreswyl | Swm safonol | Canran o incwm dros £100 yr wythnos, ond llai na £200 yr wythnos, y mae rhiant dibreswyl yn ei thalu |
|---|---|---|---|
| 1 | 1 | £5, a | 20.5% |
| 2 | £5, a | 19% | |
| 3 neu fwy | £5, a | 17% | |
| 2 | 1 | £5, a | 29% |
| 2 | £5, a | 27% | |
| 3 neu fwy | £5, a | 25% | |
| 3 neu fwy | 1 | £5, a | 37.5% |
| 2 | £5, a | 35% | |
| 3 neu fwy | £5, a | 32.5% |
Disgwyl plentyn newydd os ydych ar yr hen gynllun
O dan yr hen gynllun, os oes plentyn newydd yn byw gyda'r naill riant a'u partner newydd, nid oes angen talu cynhaliaeth plant ar gyfer y plentyn newydd. Gallai incwn gwarchodedig y rhiant dibreswyl newid, a gallai incwm i'w eithrio y rhiant â gofal newid.
Gallai hyn olygu newid i'r swm a gyfrifwyd ar gyfer cynhaliaeth plant. Cewch fwy o wybodaeth am hyn yn ein taflen o'r hen gynllun, sef Eich asesiad cynhaliaeth plant a help i gwrdd ag amgylchiadau eithriadol.
Gwybodaeth berthnasol
- Darllenwch ein taflen "Sut caiff cynhaliaeth plant ei gweithio allan?" [941Kb]

