Beth allwch ei ddisgwyl gennym
Cyswllt cyntaf
- O fewn pedair wythnos - byddwn yn dechrau casglu gwybodaeth gan y rhiant dibreswyl o fewn pedair wythnos o dderbyn y cais os yw'r rhiant â gofal yn gallu rhoi manylion cyswllt y rhiant dibreswyl i ni.
- O fewn 12 wythnos - anelwn at wneud penderfyniad cywir ar y cais o fewn 12 wythnos, ond mewn rhai achosion gallai hyn gymryd hyd at 26 wythnos. Os nad oes gennym fanylion cyswllt diweddar ar gyfer y rhiant dibreswyl, byddwn yn eu holrhain cyn gynted ag y gallwn.
Taliadau
- O fewn chwe wythnos - ble byddwn ni yn casglu cynhaliaeth plant, anelwn at wneud y taliad cyntaf i'r rhiant â gofal o fewn chwe wythnos o drefnu taliadau gyda'r rhiant dibreswyl.
- O fewn pedair wythnos - Os oes gan y rhiant dibreswyl swydd ond eu bod naill ai yn methu neu'n gwrthod talu, anelwn at gael arian drwy Orchymyn Didynnu o Enillion o fewn pedwar mis o wneud trefniadau talu.
- O fewn un wythnos - byddwn yn gwneud taliadau cynhaliaeth i rieni â gofal o fewn wythnos o gael yr arian gan y rhiant dibreswyl.
Gorfodi
- Lle bydd achos wedi cael ei gyfeirio at ein huned gorfodi arbenigol a'n bod angen cymryd camau gorfodi drwy'r llysoedd, ein cam cyntaf fydd i gael gorchymyn atebolrwydd gan y Llys Ynadon (yng Nghymru a Lloegr) neu Lys y Siryf (yn yr Alban) i sefydlu'r ddyled.
- Yna byddwn yn defnyddio beilïaid neu ddulliau eraill sydd ar gael i ni i orfodi taliad o'r ddyled drwy'r llysoedd.
- Os parha'r ddyled heb ei thalu, gallwn wneud cais i'r llysoedd i anfon y rhiant dibreswyl i'r carchar. Gallwn hefyd ofyn i drwydded gyrru'r rhiant dibreswyl gael ei hatafaelu, neu eu hatal rhag cael un.
Amser ymateb
- O fewn un munud - anelwn at ateb galwadau ffôn o fewn un munud.
- O fewn tair wythnos - anelwn at ymateb i lythyrau a naill ai datrys cwynion, neu gytuno ar y camau nesaf, o fewn tair wythnos o'u derbyn.
Beth allwch ei wneud i helpu:
Gallwch ein helpu i ddelio â'ch achos yn gyflym ac yn gywrain drwy roi'r wybodaeth sydd ei hangen arnom i ni. Pan fyddwch yn cysylltu â ni
- rhowch eich rhif Yswiriant Gwladol a'ch rhif cyfeirnod CSA i ni (os oes gennych un)
- sicrhewch fod y wybodaeth a roddwch i ni yn gywir ac yn gyfredol
- os bydd angen unrhyw wybodaeth bellach arnom, ceisiwch ei rhoi i ni cyn gynted â phosibl
Os ydych am gysylltu â ni neu eisiau gwybodaeth ar sut mae eich cais yn mynd yna cysylltwch â ni.
Cwynion
Os nad ydym wedi cyfarfod â'ch disgwyliadau yna cysylltwch â ni a byddwn yn gwneud ein gorau i ddatrys eich cwyn. Gallwch gael gwybod mwy am ein proses gwyno.

