HafanEich achosTaliadauPwerau gorfodiOs nad yw rhieni dibreswyl yn talu

Os nad yw rhieni dibreswyl yn talu

Os nad yw'r rhiant dibreswyl yn talu'r swm cywir o gynhaliaeth plant ar yr amser cywir, byddwn yn cymryd camau i gael unrhyw arian sy'n ddyledus i'r rhiant â gofal neu'r Llywodraeth.

Os ydych yn rhiant dibreswyl a'ch bod yn gwybod y byddwch yn hwyr yn gwneud taliad, dylech ddweud wrthym ar unwaith.

Os yw rhiant dibreswyl yn talu cynhaliaeth plant drwom ni, gallwn gymryd camau gorfodi cyn gynted ag y byddwn yn ymwybodol eu bod wedi methu taliad.

Os cytunodd y ddau riant y byddai'r rhiant dibreswyl, ar ôl gwneud cais i ni, yn gwneud taliadau'n uniongyrchol i'r rhiant arall a bod y rhiant dibreswyl yn methu â chadw at y trefniad hwn, gall y rhiant â gofal gysylltu â ni a gofyn i ni weithredu.

I ddechrau, byddwn yn ceisio cysylltu â'r rhiant dibreswyl dros y ffôn. Os na allwn gysylltu â nhw dros y ffôn, byddwn yn anfon llythyr atynt i'w rhybuddio y gallwn ddechrau cymryd camau gorfodi yn eu herbyn, oni fyddant:

  • yn gwneud cytundeb i dalu'r swm llawn o gynhaliaeth plant maent wedi ei fethu
  • yn cadw at y cytundeb maent eisoes wedi ei wneud.

Mae ganddynt wythnos i ymateb i'n rhybuddion. Os nad ydynt yn ymateb, gallwn gymryd camau gorfodi pellach i adennill yr arian sydd arnynt i'w plant. Mae'r camau y byddwn yn eu cymryd yn dibynnu ar amgylchiadau pob achos, ond gall gynnwys:

  • cymryd arian yn uniongyrchol o enillion y rhiant dibreswyl os ydynt mewn cyflogaeth,
  • cymryd symiau o'u cyfrifon banc neu gymdeithas adeiladu, a
  • cymryd camau trwy'r llysoedd.

Gall cymryd camau trwy'r llysoedd fod yn gostus a gallai olygu y bydd y rhiant dibreswyl yn:

  • gorfod talu eu costau cyfreithiol eu hunain a'n rhai ni yn ogystal ag unrhyw gynhaliaeth plant sy'n ddyledus ganddynt
  • colli eu trwydded gyrru am hyd at ddwy flynedd, neu
  • hyd yn oed fynd i'r carchar.

Gallwn hefyd gymryd camau trwy'r llysoedd os bydd rhiant dibreswyl yn osgoi talu cynhaliaeth plant drwy:

  • methu â rhoi gwybodaeth i ni pan ofynnwn amdani, neu
  • yn rhoi gwybodaeth i ni y gwyddant i fod yn ffug.

Gallwn fynd â hwy i'r llys ac os cânt eu dyfarnu yn euog, gallant gael dirwy o hyd at £1,000.

Mae'r rhain yn droseddau ac maent yn gymwys i unrhyw un sy'n rhoi gwybodaeth anghywir i ni yn fwriadol neu'n gwrthod darparu'r wybodaeth sydd ei hangen arnom i weithio'r gynhaliaeth plant allan.

Gallwch ddod o hyd i fwy o wybodaeth am ein pwerau yn ein adran gorfodi.

Top y dudalen

Gwybodaeth berthnasol

    [an error occurred while processing this directive]

Tools