HafanEich achosCwynion › Archwilydd Achosion Annibynnol

Archwilydd Achosion Annibynnol

Ar ôl cael ymateb gan y tîm Adolygu Cwynion, os ydych yn dal i deimlo nad ydym wedi delio â'ch cwyn yn briodol, gallwch ysgrifennu at yr Archwilydd Achosion Annibynnol (ICE).

Bydd yr Archwilydd Achosion Annibynnol yn edrych ar gwynion amdanom gan bobl nad ydynt yn fodlon â sut gwnaethom drin a'u hachos. Mae eu gwasanaeth am ddim ac nid ydynt yn rhan o'r CSA.

Cyn y bydd yr Archwilydd Achosion Annibynnol yn derbyn eich achos, rhaid iddynt fod yn fodlon ein bod wedi cael y cyfle i ddelio â'ch cwyn, a bod eich cwyn wedi bod trwy bob cam o'n proses gwyno. Byddant yn edrych ar eich cwyn cyhyd ag y byddwch yn cysylltu â hwy o fewn chwe mis i dderbyn ymateb terfynol gan ein Tîm Adolygu Cwynion.

Bydd yr ICE yn ymchwilio i achos:

  • os ydynt yn fodlon bod rhiant wedi cael ateb terfynol i'w cwyn gan ein Tîm Adolygu Cwynion.

Ni all yr ICE edrych ar gŵyn os

  • na roddwyd cyfle i'r CSA ddatrys yr achos yn gyntaf; a
  • bydd mwy na chwe mis wedi bod ers ateb terfynol y CSA
  • bydd y cwyn am y ddeddfwriaeth - mae hyn yn cynnwys swm y cyfrifiad cynhaliaeth - ewch i Adolygiadau Cynhaliaeth ac Apeliadau
  • bydd y cwyn penodol wedi cael, neu mae yn cael, ei ymchwilio gan yr Ombwdsman.
  • bydd y cwyn yn destun gweithdrefnau cyfreithiol, fel adolygiad barnwrol.

Gallwch gael mwy o wybodaeth am yr ICE:

  • gwefan www.ind-case-exam.org.uk
  • ffôn 0845 606 0777
  • ffôn testun (ar gyfer pobl ag anawsterau clywed neu leferydd) 0151 801 8888.