HafanEich achosNewidiadau mewn amgylchiadau › Lleoliad

Lleoliad

Symud tŷ?

Mae'n hanfodol eich bod yn dweud wrthym eich cyfeiriad diweddaraf neu os ydych yn gwybod bod y rhiant arall wedi symud neu am symud, rhaid i chi roi gwybod i ni o fewn 7 diwrnod.

Dylech hefyd roi gwybod i ni am unrhyw newidiadau i rifau ffôn gan gynnwys rhifau ffôn symudol.

Symud dramor?

Gallwn barhau i gasglu cynhaliaeth gan rieni sy'n byw dramor. Os yw'r naill riant wedi symud neu am symud dramor, cysylltwch â ni. Am fwy o wybodaeth am sut rydym yn casglu cynhaliaeth plant gan bobl sy'n byw mewn gwledydd eraill, darllenwch rhieni sy'n byw dramor.