Mewn unrhyw achos cynhaliaeth plant, byddwn yn casglu gwybodaeth gan y ddau riant am eu hincwm a'u hamgylchiadau teuluol ac yn defnyddio'r wybodaeth hon i weithio allan faint o gynhaliaeth plant y dylid ei thalu i'r rhiant â gofal. Yna byddwn yn anfon llythyr at y ddau riant i ddweud wrthynt beth yw ein penderfyniad ar y swm hwn a phryd y dylid ei dalu.
Os bydd rhiant yn credu bod penderfyniad yn anghywir, mae ganddynt hawl i apelio yn ei erbyn. Dylent wneud hyn o fewn mis o ddyddiad y llythyr sy'n dweud wrthynt am ein penderfyniad.
Mae apêl yn broses ffurfiol, lle bydd tribiwnlys annibynnol, a drefnir gan y Gwasanaeth Tribiwnlys, yn edrych ar y penderfyniad eto. Gall gymryd amser hir iddynt ddod i ganlyniad.
Yn hytrach nag apelio, gall rhiant naill ai ofyn i ni egluro ein penderfyniad neu ofyn i ni edrych ar y penderfyniad eto. Mae hon yn broses llai ffurfiol ac yn aml mae'n ffordd well a chyflymach o gywiro penderfyniadau a allai, yn eu barn hwy, fod wedi anwybyddu rhai ffeithiau pwysig.
Gwybodaeth berthnasol
- Darllenwch ein taflen "Sut gallaf apelio yn erbyn penderfyniad cynhaliaeth plant?" [941Kb]
Gwefannau eraill
- St i apelio - Canllaw gan y Gwasanaeth Tribiwnlysoedd sydd wedi ei ddylunio i'ch helpu i ddeall y broses apelio

