Gall eich AS hefyd ofyn i'r Ombwdsman Seneddol a Gwasanaeth Iechyd edrych ar eich cwyn.
Mae'r Ombwdsman yn ymchwilio i gwynion gan aelodau o'r cyhoedd a gyfeirir ato gan Aelod Seneddol lle maent wedi dioddef anghyfiawnder oherwydd camweinyddiaeth gan adrannau o'r Llywodraeth a rhai cyrff cyhoeddus penodol eraill.
Mae'r Ombwdsman yn annibynnol i'r Llywodraeth ac nid yw'n wâs sifil. Mae'r Ombwdsman yn swyddog o'r Tŷ Cyffredin a apwyntiwyd gan y Frenhines ac mae'n adrodd yn ôl i'r Senedd. Mae pob cwyn yn gyfrinachol, yr ymchwiliadau'n breifat ac ni chodir unrhyw ffi am y gwasanaeth a ddarperir.
Gall yr Ombwdsman ystyried unrhyw gŵyn am gamweinyddiaeth, a gyfeirir ato gan Aelod Seneddol, ac sydd wedi achosi i unrhyw un ddioddef anghyfiawnder. Fel arfer, golyga camweinyddiaeth naill ai bod gweinyddiaeth wael wedi cymryd lle, neu bod rheolau wedi cael eu cymhwyso'n anghywir.
Gallwch gael mwy o wybodaeth am yr Ombwdsman Seneddol a Gwasanaeth Iechyd o'u gwefan
Top y dudalen
Gwybodaeth berthnasol
- Darllenwch ein taflen "Sut caiff cynhaliaeth plant ei gweithio allan?" [941Kb]

