HafanEich achosTaliadau › Problemau talu

Problemau talu

Os gwyddoch y byddwch yn mynd i fethu taliad cynhaliaeth plant neu ei thalu'n hwyr, dylech ddweud wrthym ar unwaith.

Beth fydd y CSA yn ei wneud?

Os na fyddwch wedi dweud wrthym na fyddwch yn gwneud taliad, gallwn gymryd camau i sicrhau eich bod yn talu. Os ydych yn talu drwom ni, gallwn gymryd camau ar unwaith. Os gwnaethoch chi a'r rhiant arall gytuno y byddech yn eu talu'n uniongyrchol ar ôl iddynt wneud cais i ni , a'ch bod yn methu â chadw at y trefniant hwnnw, gall y rhiant â gofal gysylltu â ni a gofyn i ni weithredu.

Gallwch gael gwybod mwy am y camau gorfodi y gallwn eu cymryd yma.

Os ydych yn cael trafferth i wneud taliadau cysylltwch â ni ar unwaith.


Top y dudalen